
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i ddarparu llety yn benodol ar gyfer pobl ag anghenion cymhleth.
Mae’r gwasanaethau ar gyfer pobl sy’n cysgu ar y stryd a phobl ddigartref ag anghenion cymhleth yn cael eu cydlynu drwy’r Tîm Amlddisgyblaethol Digartref.
Nod y gwasanaeth yw grymuso pobl i wneud newidiadau cadarnhaol yn eu bywydau a gweithio tuag at ddyfodol cynaliadwy a chadarnhaol.
Mae’r gwasanaeth yn dwyn ynghyd ystod eang o weithwyr proffesiynol o faes tai, gwasanaethau cymdeithasol, iechyd a’r trydydd sector i fynd i’r afael ag achos sylfaenol cysgu ar y stryd a digartrefedd parhaus.
Mae’r gwasanaeth yn darparu 6 chynllun llety â chymorth o ansawdd uchel, Tai yn Gyntaf, a gwasanaethau cymorth eraill i’r bobl fwyaf agored i niwed.
Mae gennym dîm pwrpasol ar gyfer pobl ifanc ag anghenion cymhleth ac mae’r gwasanaeth hefyd yn gweithredu 3 chynllun llety a reolir. Mae’r cynlluniau hyn yn darparu llety hirdymor gyda gwasanaeth rheoli tai ar y safle i helpu’r person i symud ymlaen o lety â chymorth.
Digartrefedd yn aml yw’r prif reswm pam mae rhywun yn cael ei gyfeirio at y gwasanaeth. Gallwn hefyd ddiwallu anghenion pobl sydd:
- yn cymryd rhan mewn gweithgareddau defnyddio sylweddau,
- ag anghenion cymorth iechyd meddwl,
- sy’n ymwneud â chyfiawnder troseddol,
- angen cymorth gyda systemau cymorth cymhleth, ac
- eisiau dod o hyd i’w llety symud ymlaen eu hunain.
Mae pob un o’r safleoedd yn cael eu staffio 24 awr y dydd ac mae staff ar gael i roi cyngor a chymorth drwy gydol y cyfnod hwn.
Mae gan bob llety ei drefniadau ei hun ar gyfer talu rhent a biliau nwy/dŵr/trydan. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae rhent preswylwyr yn cael ei dalu gan fudd-dal tai.
Mewn rhai llety, mae angen i’r preswylwyr dalu eu biliau nwy/dŵr/trydan eu hunain. Mewn eraill, mae angen iddynt dalu cyfraniad wythnosol tuag at redeg yr adeilad.
Bydd preswylwyr newydd sy’n symud i’r llety yn cael cyfnod sefydlu a bydd angen iddynt lofnodi cytundeb trwydded. Gellir troi hwn yn gontract safonol â chymorth ar ôl cyfnod o 6 mis.
Gallwn ddarparu llety ar gyfer cyplau. Byddwn yn ystyried cŵn fesul achos.
Pan fydd preswylwyr yn symud ymlaen o lety â chymorth, gallant symud i lety yn y sector rhentu preifat, neu efallai y cynigir opsiwn tai cyngor iddynt.
Darganfyddwch fwy am ein gwasanaethau i helpu unigolion i fyw’n annibynnol.
Rydym yn darparu cyfleoedd i breswylwyr, fel:
- addysg,
- hyfforddiant a
- gweithgareddau i gefnogi iechyd a lles.
Rydym yn annog preswylwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau cynhyrchiol a gwerth chweil. Gallwn hefyd eich cyfeirio at gyfleoedd eraill, sefydliadau a chymorth sydd ar gael yng Nghaerdydd a thu hwnt.