Pan fyddwch yn rhentu gennym ni, nid yw eich taliad rhent yn cynnwys yswiriant.
Dylech ystyried yr hyn a gwmpesir gan yswiriant cynnwys cartref fel y gallwch wneud penderfyniad gwybodus ynghylch a oes ei angen arnoch.
Mae yswiriant cynnwys yn diogelu’r pethau sy’n eiddo i chi. Mae yna risg bob amser y gallai eich eiddo gael ei dorri, ei ddifrodi neu ei ddwyn, hyd yn oed os ydych yn ofalus iawn.
Ynglŷn â’r cynllun yswiriant cynnwys y cartref
Mae Cynllun Yswiriant Cynnwys y Cartref Risgiau Tenantiaid Thistle yn gynllun yswiriant arbenigol ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol. Os ydych yn denant Cyngor Caerdydd, gallwch wneud cais am y cynllun.
Os ydych yn rhentu llety dros dro neu eiddo sydd wedi’i ddodrefnu, nid ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun.
Mae’r yswiriant yn cynnwys eitemau yn eich cartref, megis:
- dodrefn,
- carpedi,
- llenni,
- dillad,
- dillad gwely,
- eitemau trydanol,
- gemwaith,
- lluniau, ac
- addurniadau.
Mae’r polisi wedi’i gynllunio i ddiwallu anghenion tenantiaid tai cymdeithasol.
Mae yswiriant yn amodol ar delerau, amodau, cyfyngiadau a gwaharddiadau yn y Llyfryn Polisi Cynllun Yswiriant Cynnwys Cartref (742kb PDF).
Os nad ydych yn siŵr a yw’r polisi hwn yn iawn i chi, cysylltwch â ni.
Gallwch weld polisi preifatrwydd diogelu data Gwasanaethau Yswiriant Thistle.
Manteision y cynllun
- Dim tâl ychwanegol i’w dalu pe baech yn gwneud hawliad
- Mae lladrad, difrod dŵr, tân a llawer mwy o risgiau i’r cartref yn cael eu cynnwys.
- Mae gwelliannau gan denantiaid wedi’u cynnwys. Mae hyn hyd at £2,000 neu 20% o’r swm a yswirir, pa un bynnag sydd fwyaf.
- Mae lladrad neu ymgais i ladrata cynnwys mewn siediau, adeiladau allanol a garejys wedi’u cynnwys. Mae hyn hyd at £2,000.
- Mae difrod i wydriad allanol, yr ydych yn gyfrifol amdano wedi’i gynnwys.
- Mae newid cloeon a gosod cloeon newydd ar gyfer drysau allanol a larymau os yw allweddi’n cael eu colli neu eu dwyn wedi’u cynnwys.
- Nid oes angen cloeon drws neu ffenestri arbennig. Mae ond arnoch angen drws ffrynt y gellir ei gloi.
Cost
Mae premiymau yn dechrau o 76c yr wythnos am werth £6,000 o yswiriant safonol.
Ar gyfer yswiriant difrod damweiniol estynedig, mae’r premiymau yn dechrau o 91c yr wythnos.
Gall pob tenant wneud cais, beth bynnag fo’u hoedran.
Darllenwch y ffurflen gais am fwy o wybodaeth.
Sut i wneud cais
Cyn gwneud cais, darllenwch y canlynol:
- dogfen wybodaeth bwysig i gwsmeriaid (159kb PDF), a
- dogfen wybodaeth am gynnyrch yswiriant (532kb PDF).
Mae’r wybodaeth a geir yn y dogfennau hyn wedi’u dylunio i’w hargraffu. Mae’n bosib na fydd modd gweld popeth ar-lein.
I ymgeisio, cwblhewch y ffurflen gais (1.3mb PDF) ac ewch â hi i’ch Hyb lleol neu anfonwch hi at:
Gallwch hefyd gasglu cais papur oddi wrth eich Hyb lleol neu cysylltwch â ni i gael copi drwy’r post.
Trefnir y polisi yswiriant a ddarparwn ar sail nad yw’n cael ei argymell. Byddwch yn cael gwybodaeth allweddol fel y gallwch wneud penderfyniad gwybodus ynghylch pa yswiriant sydd orau i chi.
Beth i’w wneud os oes gennych gŵyn
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, pryderon, neu gwynion am y polisi, dilynwch weithdrefn gwyno Gwasanaethau Yswiriant Thistle.
Gwneud cwyn i’r cyngor:
Gallwch wneud cwyn i ni ar-lein.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni.
Ffôn: 029 2053 7382
E-bost: TimRheoliRhent@caerdydd.gov.uk





