Ffoniwch 999 os ydych mewn perygl dybryd. Gallwch roi gwybod am ddigwyddiadau nad ydynt yn rhai brys drwy ffonio 101.
Rydym yn gweithio gyda thenantiaid cyngor i ddatrys problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae gennym hefyd gyfrifoldeb i weithredu os yw tenantiaid cyngor yn effeithio ar denantiaid preifat neu berchen-feddianwyr.
Mae’n rhaid bod tenant Cyngor Caerdydd yn rhan o ddigwyddiad ymddygiad gwrthgymdeithasol er mwyn i ni ymchwilio.
Tenantiaid cyngor
Os ydych yn denant cyngor ac yn cael eich effeithio gan ymddygiad gwrthgymdeithasol tenant cyngor arall, dylech roi gwybod i ni.
Os nad ydych yn siŵr a yw’r person arall yn denant cyngor, cysylltwch â ni o hyd.
Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol fod ar sawl ffurf. Mae’r rhain yn cynnwys:
- aflonyddu a dychryn,
- aflonyddwch gan bobl ifanc,
- ymddygiad bygythiol,
- ymddygiad stwrllyd a
- cherddoriaeth uchel.
Bydd rhai digwyddiadau yn ymddangos yn fwy difrifol nag eraill ond os ydych yn denant ac yn teimlo ei fod yn bwysig, rhowch wybod amdano er mwyn i ni allu ymchwilio.
Mae ein hamcanion yn cynnwys:
- Peidio â goddef ymddygiad gwrthgymdeithasol gan neu yn erbyn ein tenantiaid, a’u teuluoedd;
- Rhoi dioddefwyr yn gyntaf
- Sicrhau bod tenantiaid a lesddeiliaid yn ymwybodol o’r ymddygiad a ddisgwylir ganddynt
- Ei gwneud hi’n hawdd adrodd am ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Trin adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol o ddifrif ac yn broffesiynol
- Cynnal ymchwiliad gofalus a thrylwyr
- Darparu disgwyliadau realistig
- Cefnogi troseddwyr i newid eu hymddygiad
- Cymryd camau priodol ar yr adeg gywir
- Gweithio gydag eraill i atal a mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol
Rydym yn gweithio gyda nifer o wahanol adrannau i gymryd golwg gyfannol ar ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae’r adrannau hyn yn cynnwys Rheoli Tenantiaeth a Chynnal Tenantiaeth, Gofalu, Atgyweiriadau Ymatebol a Gwasanaethau Plant ac Oedolion.
Rydym hefyd yn gweithio gydag asiantaethau allanol fel Heddlu De Cymru ac asiantaethau cymorth.
Sut i wneud cwyn wrth brofi ymddygiad gwrthgymdeithasol
Gallwch wneud cwyn neu gofnodi digwyddiad drwy gysylltu â ni. Byddwn yn ymdrin â’ch cwyn yn gyfrinachol.
Bydd angen i chi roi eich enw a’ch cyfeiriad a manylion y digwyddiad. Ni fyddwn yn datgelu eich hunaniaeth ar unrhyw adeg.
Os byddwch yn dewis gwneud cwyn ddienw, ni allwn gofnodi ac ymchwilio i’ch cwyn yn llawn. Ni fyddwn yn gallu dweud wrthych am unrhyw gamau gweithredu yr ydym yn bwriadu eu cymryd neu y byddwn yn eu cymryd.
E-bost: ASBReferral@caerdydd.gov.uk
Ffôn: 029 2053 7199
Gallwch hefyd fynd i unrhyw Hyb.
Rydym hefyd yn cynnal cymorthfeydd mewn Hybiau, lle gallwch siarad â swyddog. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch ni.
Unwaith y gwneir cwyn
Unwaith yr adroddir am ddigwyddiad, byddwn yn cysylltu â chi i gasglu rhagor o wybodaeth i sicrhau ein bod yn deall y mater a’ch anghenion. Yna, bydd y swyddog yn creu cynllun gweithredu gyda chi gan gytuno ar y camau nesaf.
Byddwch yn cael cynnig atgyfeiriad at Gymorth i Ddioddefwyr. Mae hwn yn wasanaeth cymorth pwrpasol i’r rheini sy’n dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae’n cynnig cefnogaeth emosiynol barhaus i helpu dioddefwyr i ymdopi ag effeithiau trosedd neu ymddygiad gwrthgymdeithasol a gall eirioli â gwasanaethau neu sefydliadau eraill lle y bo angen.
Sector preifat a pherchen-feddianwyr
Mae’n rhaid bod tenant Cyngor Caerdydd yn rhan o ddigwyddiad ymddygiad gwrthgymdeithasol er mwyn i ni ymchwilio.
Gallwch roi gwybod am faterion drwy:
- ebostio ASBReferral@caerdydd.gov.uk
- ffonio 029 2053 7199
- ymweld ag unrhyw Hyb.
Dylai tenantiaid y sector preifat gysylltu â’u landlord neu asiant gosod tai os nad oes unrhyw denantiaid cyngor yn rhan o’r digwyddiad.
Os ydych yn berchennog cartref ac yn profi ymddygiad gwrthgymdeithasol, ffoniwch 101.
Cysylltu â ni
I gael cyngor cyffredinol ar dai, cysylltwch â’r Llinell Gyngor Tai ar 029 2087 1071.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ymddygiad gwrthgymdeithasol.
E-bost: ASBReferral@caerdydd.gov.uk
Ffôn: 029 2053 7199