Fel deiliad contract y cyngor (tenant), gallwch ofyn am drosglwyddo eich contract meddiannaeth (cytundeb tenantiaeth) i berson arall.  Bydd y person hwn yn dod yn ddeiliad y contract (tenant) ar gyfer yr eiddo yn hytrach na chi. Mae angen i ni roi caniatâd i drosglwyddiad ddigwydd, fel arall nid ydynt yn gyfreithiol.

Unwaith y byddwch yn trosglwyddo eich contract meddiannaeth i berson arall, daw’r person hwnnw yn ddeiliad y contract o ddyddiad y cytunwyd arno.  Bydd ganddynt holl hawliau a chyfrifoldebau’r contract meddiannaeth.  Byddwch yn colli eich hawliau a’ch cyfrifoldebau o’r dyddiad hwnnw ymlaen.  Gallwch barhau i fod yn atebol am unrhyw achosion o dor-contract a ddigwyddodd cyn dyddiad y trosglwyddiad.

Trosglwyddiadau olynol

Os ydych yn gofyn am gael trosglwyddo eich contract i rywun a fyddai â hawl i’ch olynu pe byddech yn marw, a’n bod yn cymeradwyo’r trosglwyddiad, byddwn yn cymhwyso amod yr ystyrir bod y person wedi cael y contract trwy olyniaeth. Mae angen bodloni meini prawf penodol er mwyn cymeradwyo trosglwyddiad. Canfod mwy am olyniaethau.

Os ydych am wneud cais am drosglwyddiad i aelod o’r teulu a allai eich olynu, gallwch ofyn am ffurflen drosglwyddo i olynydd o’ch Hyb lleol.

Trosglwyddiadau cymunedol (cyfnewidiadau cydfuddiannol)

Os ydych chi a deiliad contract arall eisiau cyfnewid tai, gelwir hyn yn drosglwyddiad cymunedol (cyfnewid).  Os ydym yn cytuno i’r cyfnewid, byddwch yn trosglwyddo eich contract meddiannaeth i’r person rydych yn trosglwyddo contract ag ef, ac i’r gwrthwyneb.

Er mwyn gwneud cais am drosglwyddiad cymunedol gyda rhywun, mae angen i’r ddau barti fod yn ddeiliaid contract gyda ni neu’n landlord cymdeithasol cofrestredig (cymdeithas tai).

Gallwch ofyn am drosglwyddo (cyfnewid) yn unrhyw le yn y Deyrnas Gyfunol.

Mae’n rhaid i ni gytuno i’r trosglwyddiad er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o’r stoc dai i ddiwallu anghenion y ddinas.  Byddwn yn ystyried maint yr eiddo, angen tai unrhyw un a fydd yn symud i mewn, ac addasiadau.  Rydym yn cynnal gwiriad cyflwr eiddo i weld a yw’r eiddo mewn cyflwr addas ar gyfer darpar ddeiliaid newydd y contract. Efallai y byddwn yn gofyn i chi am fwy o wybodaeth i’n helpu i wneud ein penderfyniad.  Mae hyn yn cynnwys gofyn am gyfeiriadau gan gynghorau eraill a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.  Unwaith y byddwch wedi darparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnom, byddwn yn rhoi penderfyniad i chi o fewn 1 mis.

Efallai y byddwn yn rhoi caniatâd i’r trosglwyddiad gydag amodau penodol.  Bydd angen i chi gytuno a chadw at yr amodau hyn er mwyn i’r trosglwyddiad fod yn rhwymol. Er enghraifft, efallai y bydd trosglwyddiad cymunedol yn cael caniatâd gyda’r amod eich bod yn gwneud atgyweiriadau penodol cyn y dyddiad trosglwyddo.

Os ydych am wneud cais am drosglwyddiad cymunedol, gallwch ofyn am ffurflen Trosglwyddiad Cymunedol gan eich Hyb lleol.

 

 

Hefyd yn yr adran hon