Cyflwyniad

O dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016[1], rhaid i Gyngor Caerdydd ymgynghori â deiliaid contract (tenantiaid) ynglŷn â newidiadau arfaethedig i reoli tai, gan ganiatáu iddynt roi adborth cyn i benderfyniadau terfynol gael eu gwneud.

Mae’r datganiad hwn yn amlinellu pryd a sut y bydd ymgynghoriadau yn digwydd.  Er bod hyn yn rhwymedigaeth gyfreithiol ar 1 Rhagfyr 2022, mae’r Cyngor bob amser wedi gwerthfawrogi a cheisio barn tenantiaid a chwsmeriaid.

Paramedrau Ymgynghori

O dan y Ddeddf, mae’r ddyletswydd gyfreithiol newydd i ymgynghori yn berthnasol dim ond pan fydd newid a awgrymir:

  1. Yn debygol o effeithio ar yr holl ddeiliaid contract sydd dan feddiannaeth gyda’r Cyngor, neu grŵp perthnasol[2] o ddeiliaid contractau, neu
  2. Dim ond mewn perthynas â’r deiliaid contract sy’n debygol o gael eu heffeithio’n sylweddol

Yn ogystal â hyn, dim ond pan fydd trothwy ‘cynigion perthnasol’ yn cael ei gyrraedd yn gyfreithiol y mae angen ymgynghori.  Cynigion perthnasol ar faterion rheoli tai yw:

  1. rhaglen newydd o gynnal a chadw, gwella neu ddymchwel anheddau sy’n ddarostyngedig i gontractau meddiannaeth, neu
  2. newid yn arfer neu bolisi’r landlord mewn perthynas â rheoli, cynnal a chadw, gwella neu ddymchwel anheddau o’r fath

Os bodlonir y paramedrau hyn, rhaid i’r Cyngor ymgynghori ac ystyried barn deiliaid contract cyn gwneud penderfyniadau terfynol ar gynigion rheoli tai

Mae’n bwysig nodi nad yw ‘cynigion perthnasol’ yn cynnwys cynigion mewn perthynas â rhent sy’n daladwy na thaliadau am wasanaethau a chyfleusterau a ddarperir gan y landlord.

Datganiad o Drefniadau

Pan fydd cynnig perthnasol wedi’i nodi sy’n bodloni’r meini prawf ar gyfer ymgynghori (fel y nodir uchod) bydd yr ymgynghoriad hwn yn cael ei reoli gan y Tîm perthnasol sy’n rheoli’r prosiect.

Bydd y Tîm hwn yn nodi’r ffordd fwyaf priodol o gyfathrebu’r cynnig i’r deiliaid contract yr effeithir arnynt.  Bydd hyn, o leiaf, yn cynnwys llythyr sy’n nodi manylion llawn y cynnig (gan gynnwys unrhyw luniadau/cynlluniau) a chais am adborth erbyn dyddiad penodol.

Bydd y dyddiad ar gyfer adborth o leiaf fis o’r dyddiad ar y llythyr a bydd yr holl adborth yn cael ei ystyried a’i gofnodi gan y Tîm.   Os oes angen, gellir cynnal cyfweliadau pellach, galwadau ffôn neu ymweliadau pellach i ymateb i’r adborth a ddarperir.

Bydd ffyrdd eraill o ymgynghori yn cael eu hystyried yn unol â graddfa’r cynnig rheoli tai a gallant gynnwys digwyddiadau cymunedol, grwpiau rhanddeiliaid neu ddiwrnod agored lle byddai deiliaid contract ac aelodau o’r cyhoedd yn gallu mynychu mewn person.  Gall dulliau eraill gynnwys dosbarthu taflenni i eiddo sy’n amgylchynu’r cynllun arfaethedig a / neu boster o newidiadau arfaethedig mewn Hyb.

Bydd ystyriaeth hefyd yn cael ei roi i anghenion y grŵp a gellir darparu deunyddiau mewn ieithoedd perthnasol neu destunau amgen ar gais.  Hefyd, darperir rhif cyswllt er mwyn rhoi adborth, a bydd ymweliad cartref gan Swyddog perthnasol yn cael ei ystyried os gofynnir amdano.

Bydd gwybodaeth am unrhyw newidiadau ar gael ar wefan y Cyngor.

Argaeledd Datganiad

Gwneir y datganiad hwn o drefniadau o dan Adran 234 o’r Ddeddf.   Mae ar gael, yn ddim, ac ar gais, mewn Hybiau lleol ar gyfer deiliaid contract ac aelodau o’r cyhoedd.

Mae crynodeb o’r datganiad hwn hefyd ar gael a bydd yn cael ei ddarparu yn rhad ac am ddim.  Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg.

Crynodeb o Ddatganiad Trefniadau Ymgynghori Cyngor Caerdydd

Mae datganiad o drefniadau ymgynghori Cyngor Caerdydd yn nodi ei rwymedigaethau cyfreithiol (o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i ymgynghori â deiliaid contractau.

Mae’r datganiad yn esbonio pryd a sut y bydd y broses ymgynghori yn cael ei defnyddio.

Mae’r datganiad a’r crynodeb ar gael ar gais, ac yn rhad ac am ddim, mewn Hybiau lleol ar gyfer deiliaid contract ac aelodau o’r cyhoedd.

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg.

 

1 – A ddaeth i rym ar 1 Rhagfyr 2022

2 – Diffinnir ‘grŵp perthnasol’ o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi fel grŵp sy’n ffurfio grŵp cymdeithasol penodol neu’n meddiannu anheddau sy’n ffurfio dosbarth gwahanol (boed hynny drwy gyfeirio at y math o annedd, neu’r ystâd dai neu’r ardal fwy arall y maent wedi’u lleoli ynddi)