Gwasanaeth a ddarperir gan Gyngor Caerdydd i annog deiliaid contract (tenantiaid) i gymryd rhan yn eu cymuned yw Tenantiaid Ynghyd

Rydym ni’n gweithio drwy gydol y flwyddyn, gan ymgysylltu â deiliaid contract a lesddeiliaid ar amrywiaeth o bynciau.

Mae gennym adnoddau i ddeiliaid contract ddechrau eu grwpiau eu hunain. Rydym ni’n cynnig cyngor i’w helpu ar hyd y ffordd nes eu bod yn grŵp cymunedol swyddogol, gyda’r hyder i wneud gwahaniaeth yn eu cymuned leol.

Cymorth gan Tenantiaid Ynghyd

  • Os oes gennych chi unrhyw broblemau gyda’r gwasanaethau a gynigir gan adran Tai Cyngor Caerdydd, gallwn ni gael sgwrs i weld a allwn ni helpu, neu a oes unrhyw opsiynau nad ydych chi wedi’u hystyried.
  • Ni yw’r pwynt ymateb cyntaf ar lawer o faterion cysylltiedig. Rydym ni wedi’n hyfforddi i allu rhoi cyngor i ddeiliaid contract a lesddeiliaid ar nifer o wasanaethau’r Cyngor ac yn gallu cyfeirio at sefydliadau perthnasol os oes angen.
  • Rydym ni’n gweithio’n uniongyrchol gyda gwasanaethau i Mewn i Waith i gynnig cyfleoedd i ddeiliaid contract a lesddeiliaid y Cyngor ddychwelyd i’r gwaith. Mae hyn yn cynnwys ein rhaglen Pasbort i Waith lle gall deiliaid contract a lesddeiliaid fanteisio ar gwrs y telir amdano (hyd at werth £1000) i ddod o hyd i yrfa y maent yn ei mwynhau.
  • Rydym ni’n cynnig grantiau prosiect arbennig o hyd at £1000 i ddeiliaid contract ffurfio eu grwpiau eu hunain i gynnal digwyddiadau yn y dyfodol. Rydym ni wedi cefnogi grwpiau gyda dathliadau Eid, dathliadau’r Coroni, arian gardd gymunedol a llawer mwy.

Digwyddiadau cymunedol

  • Rydym ni’n cynnal digwyddiadau tymhorol ar gyfer deiliaid contract a lesddeiliaid. Mae’r rhain yn cynnwys ein cynhadledd tenantiaid flynyddol, ein cinio mawr i’r henoed a pharti Nadolig ar ddiwedd y flwyddyn. Rydym ni hefyd yn cynnal boreau coffi rheolaidd sy’n rhoi lle diogel i ddeiliaid contract a lesddeiliaid sgwrsio, gwneud ffrindiau a chodi unrhyw broblemau y maent wedi’u cael gyda’u cymuned neu adran Tai Cyngor Caerdydd.
  • Gallwn ni helpu i’ch cyflwyno i gymdogion neu i ddod o hyd i hobi rydych chi’n ei hoffi gyda deiliaid contract a lesddeiliaid eraill. Mae’r rhain yn cynnwys garddio cymunedol, cerdded ci gyda Cartref Cŵn Caerdydd, neu weithgareddau lles cyffredinol. Rydym ni’n croesawu awgrymiadau am weithgareddau eraill a gallwn ni hefyd eich helpu i ffurfio grŵp cydnabyddedig swyddogol os hoffech chi ddechrau eich un eich hun!
  • Unwaith y flwyddyn, rydym ni’n cynnal ein cystadleuaeth Garddio Gwych. Mae hon yn gystadleuaeth garddio sydd wedi’i hanelu at ddeiliaid contract a lesddeiliaid y Cyngor i annog balchder ym mannau gwyrdd Caerdydd. Mae chwe chategori yn amrywio o ‘Ardd Flaen’ i ‘Wedi Gwella Fwyaf’ gyda gwobrau ariannol ar gyfer yr enillwyr. Caiff y rhain eu cyhoeddi yn ein cynhadledd tenantiaid flynyddol.

Arolygon ac ymgynghoriadau

Gallwn ni eich helpu i leisio eich barn. Mae Tenantiaid Ynghyd yn cynnal ymgynghoriadau ar draws y ddinas ar dai a materion eraill y Cyngor i sicrhau bod eich barn yn helpu i ddatblygu a gwella Caerdydd.

Rydym ni’n cyhoeddi arolygon drwy gydol y flwyddyn yn ogystal â’n harolwg boddhad tenantiaid blynyddol. Mae’r arolygon yn rhoi adborth i Gyngor Caerdydd i wella ei wasanaethau yn seiliedig ar ymatebion deiliaid contract a lesddeiliaid.

Os ydych chi’n llenwi arolygon, yn dechrau grŵp cymunedol neu’n trefnu sesiwn casglu sbwriel gymunedol, gallwn ni gynnig ‘points4u’ sy’n bwyntiau y gellir eu cyfnewid am dalebau siopa!

Rydym ni bob amser yn chwilio am bobl i ymuno â’n grwpiau, felly os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am y cymorth rydym ni’n ei gynnig neu ddigwyddiadau yn y dyfodol, cysylltwch â ni.

Cysylltu â ni

E-bost: Tenant.participation@cardiff.gov.uk

Hefyd yn yr adran hon