Os ydych chi’n byw yn un o’n blociau o fflatiau, Cynlluniau Byw yn y Gymuned, Cynlluniau Byw’n Annibynnol neu lety â chymorth, gallwch roi gwybod i ni am faterion yn y mannau cymunedol neu ardd.

Gallwch adrodd am nifer o faterion ar wefan Cyngor Caerdydd:

Gallwch roi gwybod am unrhyw faterion eraill yn y bloc neu’r mannau cymunedol drwy gysylltu â ni.

Ein cyfrifoldebau

Mae ein Timau Gofalwyr a’n Gofalwyr Ymatebol yn gyfrifol am lanhau a chynnal archwiliadau diogelwch mewn:

  • 857 o flociau fflatiau isel
  • 8 o flociau fflatiau uchel
  • 11 o gynlluniau byw yn y gymuned
  • 13 o gynlluniau llety â chymorth

Mae cyfrifoldebau’r Tîm Gofalwyr yn cynnwys:

  • Glanhau ac adrodd am broblemau o fewn ardaloedd cymunedol blociau
  • Gwirio am darfu ar asbestos
  • Rhoi gwybod am risgiau tân
  • Glanhau pob bloc
  • Rhoi gwybod am waith atgyweirio

Mae gofalwr neu warden ar y safle o ddydd Llun i ddydd Gwener ym mhob bloc uchel, llety â chymorth, a chynlluniau byw yn y gymuned a all helpu gydag unrhyw broblemau.

Mae’r gofalwyr symudol yn mynychu’r holl flociau isel bob pythefnos, rhwng dydd Llun a dydd Gwener.

Mae cyfrifoldebau’r Tîm Gofalwyr Ymatebol yn cynnwys:

  • Cael gwared ar gasgliadau gwastraff swmpus a thipio anghyfreithlon
  • Dileu risgiau tân
  • Clirio eiddo gwag mewn fflatiau, tai a gerddi
  • Cael gwared ar ordyfiant
  • Golchi cyrtiau a glanhau ardaloedd biniau’n drwyadl bob blwyddyn
  • Glanhau cynlluniau llety â chymorth
  • Cael gwared ar graffiti

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â ni.

Cysylltu â ni

E-bost:  GwasanaethauGofalu@caerdydd.gov.uk

Ffôn: 029 2053 7160

Hefyd yn yr adran hon