Dewch o hyd i wybodaeth am wneud newidiadau i’ch contract meddiannaeth.
Cyd-ddeiliaid contractau
Os oes gan 2 neu fwy o bobl gontract meddiannaeth ar gyfer eiddo, fe’u gelwir yn gyd-ddeiliaid contract (cyd-denantiaid).
Os byddwn yn cytuno i’r newidiadau, gellir ychwanegu neu dynnu cyd-ddeiliad contract o gontract (tenantiaeth) heb fod angen dod ag un contract i ben a dechrau contract arall. Mae hyn yn gwneud rheoli cyd-gontractau yn haws.
Olyniaeth
Pan fydd deiliad contract (tenant) yn marw, weithiau gellir trosglwyddo’r contract meddiannaeth (tenantiaeth) i berson arall. Gelwir hyn yn olyniaeth. Mae meini prawf penodol sydd yn caniatáu i hyn ddigwydd. a byddwn yn edrych ar bob sefyllfa fesul achos.
Newidiodd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 y ffordd y gellir trosglwyddo eiddo i bartner neu aelod o’r teulu os bydd deiliad y contract yn marw.
Dan y Ddeddf, caniateir hyd at ddwy olyniaeth i’ch contract (tenantiaeth), os oes person sy’n bodloni’r meini prawf.
Os cafodd eich tenantiaeth ei throsglwyddo i chi cyn 1 Rhagfyr 2022, oherwydd eich bod yn briod neu’n bartner i’r ymadawedig, gall fod 1 olyniaeth neu fwy ar eich ôl.
Os cafodd eich contract ei drosglwyddo i chi cyn 1 Rhagfyr 2022 ar ôl i aelod arall o’r teulu (nid priod na phartner) farw, ni chaniateir olyniaeth arall.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar Ffôn: 029 2053 7501 e-bost: rheolitenantiaethau@caerdydd.gov.uk