Rydych yn lesddeiliad gyda’r Cyngor os ydych wedi prynu eiddo ar lesddaliad:

  • dan gynllun Hawl i Brynu’r llywodraeth, neu
  • oddi wrth lesddeiliad presennol.

Contract rhwng landlord, yn yr achos hwn, y Cyngor, a lesddeiliad yw les. Mae’r les yn rhoi’r hawl i’r lesddeiliad feddiannu’r eiddo am gyfnod penodol o amser.

Cyn i chi brynu’r eiddo, dylai eich cyfreithiwr fod wedi esbonio eich les yn llawn fel eich bod yn deall eich cyfrifoldebau chi fel lesddeiliad, a’n cyfrifoldebau ni fel y landlord. Dylai eich cyfreithiwr fod wedi rhoi copi o’r les i chi.

Os ydych yn prynu eiddo ar lesddaliad, nid ydych yn berchen ar adeiledd yr adeilad, fel y waliau allanol, y ffenestri, y to, y mannau cymunedol neu’r tir y mae’n sefyll arno. Bydd y rhain yn parhau’n eiddo i’r Cyngor, a’r Cyngor sy’n gyfrifol am atgyweirio a chynnal a chadw’r mannau hyn.

Fel lesddeiliad, codir ffi gwasanaeth flynyddol arnoch sy’n talu am y canlynol:

  • eich cyfran o unrhyw waith atgyweirio a chynnal a chadw a wneir i’r mannau hyn;
  • yswiriant adeiladau, a
  • ffi reoli.

Mae croeso i chi gysylltu â ni os oes unrhyw gwestiynau gennych.

Ffôn: 029 2053 7150

E-bost: LesddaliadHiB@caerdydd.gov.uk

Y Tîm Lesddaliadau
Ystafell 342, 3ydd Llawr
Neuadd y Sir
Caerdydd
CF10 4UW

I gael cyngor ar lesddaliadau, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori ar Lesddaliadau. Gallwch wneud apwyntiad ar wefan y Gwasanaeth Cynghori ar Lesddaliadau.

Os ydych yn profi unrhyw anawsterau ariannol, gallwch gysylltu â ni drwy fynd i’ch Hyb lleol.

Mae sefydliadau defnyddiol eraill yn cynnwys:

Bil tâl gwasanaeth blynyddol i lesddeiliaid

Mae taliadau gwasanaeth ar gyfer lesddeiliaid yn cael eu talu i’r Cyngor ar gyfer y canlynol:

  • talu am eich cyfran o gost atgyweirio, cynnal a chadw a gwella’r mannau cymunedol ac adeiledd allanol yr adeilad,
  • yswiriant adeiladau, a
  • gwasanaethau i’r eiddo.

Mae’r Cyngor yn gyfrifol am gynnal a chadw ei adeiladau er budd tenantiaid a lesddeiliaid.  Mae’r gwaith cynnal a chadw yn cynnwys atgyweiriadau ymatebol a chynlluniau wedi’u cynllunio sy’n helpu i ymestyn hyd oes yr eiddo.

Nid yw’r Cyngor yn ychwanegu maint elw at unrhyw waith a wneir.  Dan delerau’r les, bydd y Cyngor dim ond yn trosglwyddo costau gwirioneddol i’r lesddeiliad.

Mae’r taliadau gwasanaeth ar gyfer lesddeiliaid yn amrywio bob blwyddyn a chânt eu pennu gan y gwaith a’r gwasanaethau a wneir. Nid yw’n anarferol i fil tâl gwasanaeth fod yn uwch o’i gymharu â blwyddyn flaenorol.

Mae eich bil tâl gwasanaeth blynyddol yn daladwy ar alwad dan delerau eich les o fewn 30 diwrnod. Fodd bynnag, mae’r Cyngor fel arfer yn caniatáu i lesddeiliaid ad-dalu mewn rhandaliadau misol. Rhaid i chi glirio’r balans erbyn diwedd pob blwyddyn ariannol (31 Mawrth).

Gall bil tâl gwasanaeth nodweddiadol gynnwys y canlynol:

  • glanhau a gofalu,
  • atgyweiriadau a chynnal a chadw,
  • cynnal a chadw’r tir,
  • yswiriant adeiladau,
  • gwres,
  • gofalwr,
  • trydan cymunedol, a
  • ffi reoli.

​Gallwch wneud taliadau gyda cherdyn credyd neu ddebyd gan ddefnyddio ein gwasanaeth awtomataidd ar 029 2044 5900.

Fel arall, gallwch ein ffonio ar 029 2053 7150 i siarad ag aelod o’r tîm a all gymryd eich taliad.

Sicrhewch fod rhif eich cyfrif wrth law.

Yswiriant adeiladau

Fel eich landlord, mae’r Cyngor yn gyfrifol am drefnu yswiriant adeiladau ar gyfer eiddo ar lesddaliad. Rhaid i’r Cyngor ymgynghori â’r holl lesddeiliaid a allai gael eu heffeithio. Rhaid i’r Cyngor roi hysbysiad o fwriad i chi i ymrwymo i’r cytundeb ac ymhen amser bydd yn rhaid iddo gyflwyno hysbysiadau pellach.

Mae angen yswiriant ar y Cyngor i sicrhau bod ei adeiladau’n cael eu diogelu rhag peryglon yswiriadwy, ac i gyflawni ei rwymedigaethau sydd wedi’u cynnwys yn y les. Yna codir y premiwm yswiriant ar lesddeiliaid fel rhan o’r tâl gwasanaeth.

Mae eich cyfraniad yswiriant adeiladau yn eich yswirio yn erbyn y canlynol:

  • tân,
  • storm,
  • llifogydd,
  • ymsuddiant, a
  • risgiau eraill y ceir yswiriant yn eu herbyn fel arfer.

Ni fyddai yswiriant adeiladau yn yswirio unrhyw ôl traul yn yr eiddo.

Os oes angen copi o’ch manylion polisi, cysylltwch ag Yswiriant Cyngor Caerdydd ar 029 2087 2247.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill sy’n ymwneud ag yswiriant, mae croeso i chi gysylltu â’r Tîm Lesddaliadau ar 029 2053 7150.

Atgyweiriadau ymatebol a gwaith cynnal a chadw wedi’i gynllunio

Mae’r Cyngor yn gyfrifol am gynnal a chadw ei adeiladau er budd deiliaid contract (tenantiaid) a lesddeiliaid.  Mae’r gwaith cynnal a chadw yn cynnwys atgyweiriadau ymatebol a chynlluniau wedi’u cynllunio sy’n helpu i ymestyn hyd oes yr eiddo.

Nid yw’r Cyngor yn ychwanegu maint elw at unrhyw waith a wneir ganddo. Dan delerau’r les, mae’r Cyngor dim ond yn trosglwyddo costau gwirioneddol i’r lesddeiliad.

Gwneir unrhyw waith cynnal a chadw wedi’i gynllunio dan Adran 20 ac Adran 20ZA Deddf Landlord a Thenant 1985. Mae hyn yn golygu y byddai’r Cyngor yn ymgynghori â lesddeiliaid os yw’r gwaith a wneir dros £250 fesul lesddeiliad. Gwaith mawr yw hyn.

Nid yw gwaith mawr fel paentio, adnewyddu to ac uwchraddio ffenestri wedi’i gynnwys yn eich bil tâl gwasanaeth blynyddol. Bydd y Cyngor yn creu cyfrif ar wahân i roi amser i chi glirio’r balans.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am unrhyw waith cynnal a chadw wedi’i gynllunio ar wefan Tenantiaid Ynghyd. Caiff y wefan hon ei defnyddio i roi gwybod i chi am y newyddion a’r newidiadau diweddaraf. Bydd y Tîm Tenantiaid Ynghyd hefyd yn rhoi gwybod i chi am ddigwyddiadau a sut y gallwch gymryd rhan.

Gallwch gofrestru heddiw a dweud eich dweud trwy gymryd rhan mewn polau ac arolygon barn ar faterion fel atgyweiriadau a thaliadau gwasanaeth. Ar ôl i chi gofrestru, gallwn sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn eich ardal chi a’r newidiadau a fydd yn effeithio arnoch.

Ffi reoli

Mae’r rhan fwyaf o filiau tâl gwasanaeth yn cynnwys ffi reoli ac mae’n daladwy dan delerau eich les. Mae nifer fach o fflatiau wedi eu prynu cyn cynllun Hawl i Brynu y llywodraeth nad yw’n caniatáu i’r Cyngor adennill y ffi reoli.

Mae’r ffi reoli yn gyfradd safonol sy’n berthnasol i holl lesddeiliaid Hawl i Brynu’r Cyngor. Mae hon yn talu am yr holl gostau sy’n gysylltiedig â rheoli’r cyfrifon tâl gwasanaeth a delio ag ymholiadau lesddeiliaid. Mae hefyd yn cynnwys cyfran lesddeiliaid o dreuliau cyffredinol fel safleoedd, cyflogau a threuliau swyddfa nad ydynt yn dibynnu ar faint, oedran na chyfansoddiad yr adeilad.

Yswiriant cynnwys

Mae’r Cyngor yn cynnig yswiriant cynnwys cartref i bob tenant a lesddeiliad ar raddfa cost isel. Mae’r yswiriant hwn yn diogelu’r rhan fwyaf o nwyddau’r cartref a’r eiddo personol yn eich cartref. Dysgwch fwy am yswiriant cynnwys cartref cost isel sydd ar gael i lesddeiliaid. Mae manylion llawn y polisi ar gael ar gais.

Os oes diddordeb gennych mewn derbyn y cynnig hwn, cysylltwch â’n tîm cyllid ar 029 2053 7382.

Cymorth ariannol i lesddeiliaid

Os ydych yn ei chael yn anodd talu naill ai eich tâl gwasanaeth blynyddol neu eich morgais, efallai y gallwch wneud cais am gymorth gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Gall y Tîm Cyngor Ariannol hefyd gynnig cymorth. I gael mwy o wybodaeth, ewch i’w wefan.

Enw’r cymorth hwn yw Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais (CLlF). Fodd bynnag, mae’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer CLlF yn llym ac mae’r cymorth sydd ar gael yn gyfyngedig.

Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i chi fod yn derbyn un o’r budd-daliadau canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn seiliedig ar incwm)
  • Credyd Cynhwysol (oni bai eich bod chi neu eich partner yn derbyn incwm a enillir)
  • Credyd Pensiwn (Credyd Gwarant)

Dylech bob amser gysylltu â’ch darparwr morgais os ydych yn cael trafferth talu eich morgais gan y gall eich helpu i gadw eich cartref.