Chwiliwch am eich eiddo - nodwch naill ai'ch cod post neu enw cyfan/rhan o enw'ch stryd.



Mae Cyngor Caerdydd wedi cynnal tua 12,000 o arolygon asbestos domestig a byddant yn parhau nes bod ein heiddo i gyd yn cael eu harolygu. Mae canfyddiadau'r arolwg wedi dangos bod dim o'r asbestos a nodwyd yn cael ei ystyried yn risg uchel.

Mae'r rhan fwyaf o'r asbestos a nodwyd wedi cael ei ystyried yn risg isel neu isel iawn. Nid yw asbestos yn risg os yw mewn cyflwr da ac nad yw'n cael ei aflonyddu.

Os caiff deunydd asbestos ei ddifrodi neu ei ddosbarthu fel risg canolig neu uchel, byddwn yn cymryd camau ar unwaith i'w atgyweirio, ei ddiogelu neu ei dynnu.

Cofiwch: Nid yw asbestos yn risg os yw mewn cyflwr da ac nad yw'n cael ei amharu arno.

Diffinnir y categorïau risg fel a ganlyn:

Risg Isel Iawn neu Risg Isel, mae'r rhain yn gategorïau sy'n cael eu defnyddio o ran deunyddiau sy'n cynnwys asbestos mewn cyflwr da ac wedi'u lleoli mewn ardal lle mae'n annhebygol y cawn nhw eu difrodi neu eu hamharu arnynt.

Risg Ganolig, mae'r categori hwn yn berthnasol i ddeunyddiau sy'n cynnwys asbestos sydd mewn cyflwr da ond wedi'u lleoli mewn ardal lle credir y gallent gael eu difrodi.

Risg Uchel, mae'r categori hwn yn berthnasol i ddeunyddiau sy'n cynnwys asbestos lle mae angen cymryd camau rheoli ar frys i wneud y deunydd sy'n cynnwys asbestos yn ddiogel.

Os ydych yn denant y Cyngor ac eisiau gwneud gwaith a allai darfu ar ddeunydd sy'n cynnwys asbestos, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am asbestos yn eich cartref, cysylltwch â'n Llinell Gymorth Asbestos ar 029 2087 2088.