
Os ydych yn siŵr nad ydych am fod yn ddeiliad contract (tenant) Cyngor Caerdydd mwyach, bydd angen i chi roi gwybod i ni yn ysgrifenedig a rhoi o leiaf pedair wythnos o rybudd.
I gael ffurflen hysbysiad ymadael, gallwch:
- ffonio 029 2053 7501,
- e-bostio RheoliTenantiaethau@caerdydd.gov.uk, neu
- fynd i unrhyw Hyb.
Sylwer:
- Bydd y cyfnod rhybudd o bedair wythnos yn dechrau ar yr un diwrnod y derbynnir yr hysbysiad wedi’i lofnodi.
- Bydd eich contract meddiannaeth (tenantiaeth) yn dod i ben bedair wythnos yn ddiweddarach, a bydd disgwyl i chi ddychwelyd eich allweddi atom erbyn canol dydd ar y dyddiad a nodir yn yr hysbysiad (neu’r diwrnod gwaith nesaf os bydd hyn yn disgyn ar Ŵyl y Banc).
- Ni fydd symud allan a dychwelyd eich allweddi o fewn y cyfnod rhybudd o bedair wythnos yn dod â’ch contract meddiannaeth i ben yn gynt a bydd y rhent llawn yn parhau i gael ei godi arnoch tan ddiwedd y cyfnod o bedair wythnos.
- Os byddwch yn gadael eich cartref ac nad ydych yn rhoi rhybudd i ni, bydd eich cyfrif rhent yn parhau i redeg a byddwch yn atebol am unrhyw ôl-ddyledion rhent, hyd yn oed os ydych eisoes wedi symud i gyfeiriad arall.
- Os byddwch yn gadael eich cartref ac yn dychwelyd eich allweddi heb roi rhybudd ysgrifenedig i ni, nid yw hyn yn dod â’ch contract meddiannaeth i ben a bydd y rhent llawn yn parhau i gael ei godi arnoch.
Cyn gadael yr eiddo, rhaid i chi symud popeth nad yw’n perthyn i ni neu nad oedd yno cyn i chi symud i mewn.
Rhaid i chi sicrhau bod yr eiddo’n glir o’r holl feddiannau personol, dodrefn a sbwriel. Rhaid i chi hefyd sicrhau bod y gerddi a’r ardaloedd cymunedol yn glir o sbwriel, malurion a meddiannau.
Os na fyddwch yn clirio’ch cartref a’ch gardd, byddwn yn eu clirio ac yn gwaredu unrhyw eitemau sydd ar ôl. Codir tâl arnoch am symud a gwaredu’r eitemau hyn.
Rhaid i chi sicrhau bod yr eiddo yn ddiogel cyn i chi ddychwelyd yr allweddi. Mae hyn yn golygu cloi pob drws a ffenestr cyn i chi adael.
Cyn i chi adael eich eiddo, dylech wneud y canlynol:
- Sicrhau bod yr eiddo’n lân ac yn daclus heb unrhyw ddifrod. Byddwn yn caniatáu rhywfaint o ôl traul, ond gallwn godi tâl arnoch os oes angen i ni glirio eich eiddo neu wneud atgyweiriadau oherwydd eich bod wedi newid, difrodi neu esgeuluso’r eiddo.
- Symud yr holl sbwriel, dodrefn ac eiddo o’ch cartref, y llofft, yr ardd a’r sied (os oes gennych un). Os oes angen i chi waredu unrhyw ddodrefn mawr, gallwch drefnu casgliad gwastraff swmpus.
- Talu unrhyw rent sy’n ddyledus a thaliadau eraill. Rhowch wybod i ni os ydych yn cael unrhyw broblemau wrth dalu eich rhent.
- Dweud wrth yr adran Treth Gyngor eich bod yn symud a rhoi cyfeiriad anfon ymlaen.
- Dweud wrth eich darparwyr cyfleustodau (trydan, nwy, dŵr) eich bod yn symud. Bydd angen i chi ddod â’ch cyfrifon i ben neu newid eich manylion. Gofynnir i chi roi darlleniadau mesurydd.
- Dweud wrth eich Banc, eich Cymdeithas Adeiladu, eich Cwmni Yswiriant ac unrhyw sefydliadau eraill rydych yn delio â nhw eich bod yn symud.
- Ailgyfeirio’ch post gan ddefnyddio gwefan Swyddfa’r Post.
- Dweud wrth eich meddyg a’ch ysgol (os oes gennych blant) os ydych yn symud allan o’r ardal.
- Sicrhau bod pawb yn yr eiddo wedi symud allan.
Gallwch fynd â’r holl allweddi a ffobiau i unrhyw Hyb. Bydd ymgynghorydd tai yn sicrhau ei fod yn cymryd yr allweddi oddi wrthych ac yn rhoi derbynneb i chi yn cadarnhau bod yr allweddi wedi’u derbyn.
Os na fyddwch yn dychwelyd yr allweddi cyn canol dydd ar y diwrnod y bydd eich contract meddiannaeth yn dod i ben, byddwch yn gyfrifol am y rhent tan y diwrnod y caiff yr allweddi eu dychwelyd.
Os na allwch fynd i Hyb, cysylltwch â ni ar 029 2053 7501.
Pan fyddwch yn rhoi hysbysiad i ddod â’ch contract meddiannaeth, dylech dalu’ch rhent hyd at ddyddiad gorffen eich contract meddiannaeth ac unrhyw daliadau eraill sy’n ddyledus i ni.
Os oes gennych rent i’w dalu ar ôl i’ch contract meddiannaeth ddod i ben, gelwir hyn yn ôl-ddyledion blaenorol.
Os na fyddwch yn talu unrhyw daliadau sy’n ddyledus, gallai hyn effeithio arnoch wrth wneud cais am dai cymdeithasol yn y dyfodol.
Os ydych yn cael unrhyw drafferth wrth dalu’r arian sy’n ddyledus gennych, neu os hoffech gael cyngor pellach ar wneud taliadau, ffoniwch ein Tîm Cyllid ar 029 2053 7350 neu ein tîm Cyswllt Lles ar 029 2087 1071.
Os bydd eich amgylchiadau’n newid, gallwch ofyn am ganslo’ch hysbysiad cyn dyddiad gorffen eich contract meddiannaeth, ond efallai na fyddwn yn gallu derbyn y cais hwn. Rhaid i’ch cais fod yn ysgrifenedig, gallwch fynd â hwn i Hyb neu ei anfon i RheoliTenantiaethau@caerdydd.gov.uk. Bydd swyddog tenantiaeth yn asesu’r wybodaeth a’r rhesymau pam eich bod wedi penderfynu canslo’ch hysbysiad. Bydd yn cysylltu â chi gyda phenderfyniad.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ganslo’ch hysbysiad i ddod â’ch contract meddiannaeth i ben, cysylltwch â ni ar 029 2053 7501 neu ewch i Hyb.
Os na fyddwch yn gadael ar y dyddiad y cytunwyd arno, gellir cymryd camau i’ch symud o’r eiddo.
Os ydych eisiau copi o’ch contract meddiannaeth tai, gallwch fynd i unrhyw Hyb gyda phrawf o bwy ydych chi a bydd swyddog yn gallu argraffu copi i chi.
Ni allwn roi hyn i rywun ar eich rhan.
Os ydych yn mynd i fod oddi cartref am fwy na 28 diwrnod, bydd angen i chi roi gwybod i ni am eich rhesymau, gallwch wneud hyn drwy fynd i Hyb neu gysylltu â Rheoli Tenantiaethau ar 029 2053 7501 neu e-bostio RheoliTenantiaethau@caerdydd.gov.uk. Gall rhai o’r rhesymau dros beidio â bod yn yr eiddo am gyfnod hir gynnwys:
- bod yn yr ysbyty,
- bod yn y carchar,
- gweithio i ffwrdd, neu
- ymweld â theulu dramor.
Byddwch yn dal i fod yn gyfrifol am dalu’r rhent tra byddwch i ffwrdd o’r eiddo. Os ydych yn cael Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol, bydd angen i chi roi gwybod iddynt na fyddwch yn yr eiddo dros dro.
Os yw’n edrych fel nad ydych yn byw yn eich cartref mwyach, efallai y byddwn yn ystyried bod eich eiddo wedi’i adael. Er enghraifft, os ydych wedi symud eich holl eiddo neu os nad ydych yn defnyddio’r eiddo fel eich prif gartref. Mae hyn yn torri telerau ac amodau eich contract meddiannaeth tai.
Os credwn y gallai eich eiddo fod wedi’i adael, bydd swyddog tenantiaeth yn ceisio cysylltu â chi i drafod eich contract meddiannaeth. Os bydd hyn yn digwydd, rhaid i chi ymgysylltu â’r swyddog a thrafod unrhyw faterion rydych yn eu profi yn eich cartref. Bydd yn gallu rhoi cyngor ac arweiniad i chi a’ch cyfeirio at wasanaethau gwahanol yn dibynnu ar natur unrhyw bryderon sydd gennych.
Ar ôl yr ymchwiliad, os yw’r swyddog tenantiaeth o’r farn bod yr eiddo wedi’i adael, byddwn yn ceisio adennill meddiant. Mae hyn yn golygu y bydd eich contract meddiannaeth yn dod i ben.
Rydym yn mynd ati i geisio cefnogi deiliaid contract sy’n agored i niwed a allai fod yn cael trafferth wrth gynnal tenantiaeth lwyddiannus. Os ydych yn cael unrhyw drafferth wrth reoli eich tenantiaeth neu os hoffech gael cyngor cyffredinol ar gontractau meddiannaeth, cysylltwch â ni.
Cysylltu â ni
Ffoniwch Rheoli Tenantiaethau: 029 2053 7501
Ffoniwch y Llinell Gyngor: 029 2087 1071
E-bostiwch: RheoliTenantiaethau@caerdydd.gov.uk
Ewch i’ch Hyb lleol.