Chi sy’n gyfrifol am gadw y tu fewn i’ch cartref yn lân ac wedi’i addurno’n dda.

Chi sydd hefyd yn gyfrifol am gadw’r ardd, y cyrtiau cymunedol ac unrhyw fannau agored eraill yn daclus. Mae hyn yn cynnwys cadw eich gardd yn daclus trwy dorri’r glaswellt a thocio perthi.

Os ydych chi’n cael unrhyw anawsterau wrth gadw eich eiddo neu’ch gardd i safon resymol, neu os hoffech chi roi gwybod am bryderon am ardd cymydog sydd hefyd yn un o denantiaid y Cyngor, cysylltwch â’r tîm Rheoli Tenantiaethau ar 029 2053 7501 neu e-bostiwch RheoliTenantiaethau@caerdydd.gov.uk

Dysgwch beth i’w wneud os oes gennych leithder neu lwydni.

Mae gennych hawl i ofyn am wneud newidiadau i’ch cartref fel tenant y Cyngor. Rhaid i’r cais hwn fod yn ysgrifenedig, a bydd angen i chi dderbyn cadarnhad ysgrifenedig gennym ni yn cytuno i’ch cais.  Ni fyddwn yn gwrthod os yw’r cais yn rhesymol ac nad yw’n gwneud yr eiddo’n anniogel neu’n lleihau ei werth.

Gwneud newidiadau heb ganiatâd y Cyngor

Os byddwch yn newid eich cartref heb ein cytundeb ysgrifenedig, efallai y byddwn yn dweud wrthych am ddychwelyd yr eiddo i’w gyflwr blaenorol. Os na fyddwch yn gwneud hyn, gallwn wneud y gwaith a bydd yn rhaid i chi dalu amdano.  Rhaid i chi beidio â gwaredu waliau na thynnu unrhyw ran arall o’ch cartref heb gytundeb ysgrifenedig y Cyngor.

Addasu atig

Nid ydym yn debygol iawn o roi caniatâd ar gyfer addasu atig. Os nad oes digon o le gennych yn eich eiddo, cysylltwch â’r Tîm Rheoli Tenantiaethau i drafod y posibilrwydd o wneud cais i drosglwyddo i eiddo mwy neu opsiynau a chyngor ailgartrefu eraill.

Llawr laminedig

Os ydych yn byw mewn fflat uwchben y llawr gwaelod, nid ydym yn caniatáu i chi osod lloriau laminedig. Mae hyn oherwydd y gall achosi niwsans sŵn i drigolion eraill.

Os ydych yn byw mewn eiddo cyngor ac yn gosod lloriau laminedig, byddwch yn ymwybodol, os bydd angen i ni wneud gwaith ar yr eiddo sy’n cynnwys tynnu’r lloriau (fel ar ôl gwaith ail-wifro), na fyddwn yn talu’r gost am ailosod neu adnewyddu’r lloriau.

Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am wneud cais i wneud gwelliannau neu newidiadau, cysylltwch â’r tîm Rheoli Tenantiaethau ar 029 2053 7501 neu e-bostiwch RheoliTenantiaethau@caerdydd.gov.uk.

Cerbydau Trydan

Mae’n rhaid i chi ofyn am ganiatâd os ydych am osod pwynt gwefru ceir trydan. Mae angen i chi hefyd ofyn am ganiatâd os ydych yn ystyried cadw sgwter symudedd. Cysylltwch â’r Tîm Rheoli Tenantiaethau i drafod hyn ar 029 2053 7501.

Gall eich swyddog tenantiaeth gynnal ymweliad o’r enw gwiriad cyflwr eiddo i sicrhau bod eich cartref yn ddiogel, ac yn cael ei gadw’n lân ac wedi’i addurno’n dda. Mae’r ymweliad hefyd yn rhoi cyfle i chi drafod unrhyw broblemau sydd gennych gyda’ch cartref neu’r ardal leol.

Swyddogion Tenantiaeth sy’n cynnal yr ymweliadau ac maent i gyd yn cario prawf adnabod i ddangos eu bod yn gweithio i Gyngor Caerdydd.

Os ydych am redeg busnes neu fasnach yn eich cartref, bydd angen i chi ofyn am ganiatâd. Rhaid i’r cais fod yn ysgrifenedig a chael ei anfon at y Tîm Rheoli Tenantiaethau i’w ystyried a sicrhau nad yw’r busnes yn golygu bod eich cartref yn cael ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw beth sy’n torri telerau ac amodau eich contract meddiannaeth (tenantiaeth). E-bostiwch eich cais ysgrifenedig i’r Tîm Rheoli Tenantiaethau yn RheoliTenantiaethau@caerdydd.gov.uk.

Ni fyddwn yn rhoi caniatâd i’ch cartref cyngor gael ei ddefnyddio ar gyfer bridio cŵn neu anifeiliaid, prynu a gwerthu ceir, neu fusnes paratoi bwyd.

Cyn rhoi caniatâd ysgrifenedig, byddwn yn gwirio na fydd y busnes arfaethedig yn ymyrryd â’r eiddo nac yn achosi niwsans i’ch cymdogion a’r bobl yn eich ardal leol. Efallai y bydd angen i chi hefyd gael caniatâd cynllunio, trwydded fusnes, ac yswiriant busnes i redeg y busnes.

Os byddwn yn rhoi caniatâd ond yna’n derbyn cwynion am y busnes neu am y ffordd y mae eich eiddo’n cael ei ddefnyddio, gellir tynnu’r caniatâd hwn yn ôl.

Yn gyffredinol, byddem yn rhoi caniatâd i’r rhai sy’n gweithio i gyflogwr ac sy’n gweithio gartref. Fodd bynnag, ni fydden yn rhoi caniatâd ar gyfer unrhyw beth sy’n achosi niwsans i’ch cymdogion. Cysylltwch â Rheoli Tenantiaethau ar 029 2053 7501 os oes unrhyw gwestiynau gennych.

Mae ardaloedd cymunedol mewn bloc o fflatiau yn fannau a rennir gyda phreswylwyr eraill. Mae’r ardaloedd hyn weithiau’n cynnwys cyrtiau, grisiau, lifftiau, pennau grisiau, goleuadau a neuaddau mynediad.

Mae gan bob preswylydd sy’n byw mewn bloc gyfrifoldeb ar y cyd am yr ardaloedd hyn. Os ydych yn byw mewn bloc o fflatiau byddwch yn sicrhau:

  • nad oes unrhyw ymyrraeth â diogelwch. Er enghraifft, ni ddylai drysau mynediad cymunedol fod ar agor, ac ni ddylid gadael dieithriaid i mewn i’r adeilad heb weld prawf adnabod.
  • bod ardaloedd cymunedol yn cael eu cadw’n lân, yn daclus ac yn glir o rwystr.
  • y bydd cyn lleied â phosib o risgiau tân yn yr ardaloedd cymunedol.
  • bod ardaloedd cymunedol yn cael eu cadw yn rhydd o eitemau personol. Er enghraifft, matiau drws, esgidiau, planhigion neu feiciau.
  • bod eich ymwelwyr yn ymddwyn mewn modd cyfrifol ac yn defnyddio’r system mynediad yn briodol ac nad ydynt yn loetran yn yr ardal gymunedol.

Os ydych yn profi problemau yn yr ardaloedd cymunedol ac yr hoffech ofyn am gyngor neu wneud cwyn, cysylltwch â’r tîm Rheoli Tenantiaethau ar 029 2053 7501 neu e-bostiwch RheoliTenantiaethau@caerdydd.gov.uk.

Os ydych yn byw mewn eiddo cyngor, fel arfer caniateir i chi gadw anifail anwes os oes gennych eich gardd eich hun a mynediad iddi.  Fodd bynnag, yn unol â’ch contract meddiannaeth tai (tenantiaeth), mae telerau eraill y mae’n rhaid i chi eu dilyn.

Y rhain yw:

  • Ni ddylai eich anifail anwes neu’ch anifeiliaid anwes achosi niwsans neu godi ofn ar bobl eraill.

Dylech fod yn ymwybodol o’r canlynol:

  • Mae gan y Cyngor yr hawl i gyfyngu ar nifer yr anifeiliaid sydd gennych, neu i ofyn i chi eu gwaredu’n gyfan gwbl. Os nad ydych yn cyfyngu ar nifer yr anifeiliaid neu’n eu gwaredu, efallai y byddwn yn ceisio cymryd camau cyfreithiol.

Mae rhai anifeiliaid anwes na fyddwch yn gallu eu cadw yn eich cartref, gan gynnwys anifeiliaid fferm, anifeiliaid peryglus a chŵn sy’n cael eu hystyried yn fridiau gwaharddedig. Mae’r rhain ar hyn o bryd yn cynnwys:

  • Pit Bull Terrier
  • Tosa Siapaneaidd
  • Dogo Argentino
  • Fila Brasileiro
  • XL Bully – mae’r Llywodraeth wrthi’n cynllunio i wneud hwn yn frîd gwaharddedig

Os ydych am gadw ieir, hwyaid a cholomennod mae’n rhaid i chi gael caniatâd ysgrifenedig gennym. Ni chaniateir i chi gadw ceiliogod.

Anifeiliaid anwes mewn fflatiau

Os ydych yn byw mewn fflat, mae’n rhaid i chi ofyn am ganiatâd a chael caniatâd gennym cyn cael ci. Bydd angen i chi gwblhau a llofnodi ffurflen o’r enw Cytundeb Perchennog Ci Cyfrifol.  Gallwch ofyn am y ffurflen hon mewn unrhyw Hyb neu drwy gysylltu â’r tîm Rheoli Tenantiaethau ar 029 2053 7501 neu e-bostiwch RheoliTenantiaethau@caerdydd.gov.uk.

Dim ond un ci (heblaw am gŵn cymorth) y caniateir ei gadw mewn blociau aml-lawr neu lety pobl hŷn.

Nid oes angen caniatâd arnoch i gadw cath o fewn fflat cyngor, ond gall y Cyngor gyfyngu ar nifer y cathod a ganiateir o fewn fflat.

Cwynion am eich anifeiliaid anwes

Rydym yn cael cwynion am anifeiliaid anwes ac mae rhai o’r cwynion mwyaf cyffredin y mae’r Cyngor yn eu derbyn am gŵn tenantiaid yn ymwneud â:

  • Chyfarth
  • Baeddu
  • Cael eu gadael heb oruchwyliaeth
  • Bridio
  • Ddim yn cael eu cadw ar dennyn mewn ardaloedd cymunedol
  • Beth allai ddigwydd os bydd rhywun yn cwyno am eich anifail anwes

Os byddwn yn derbyn cwynion dro ar ôl tro, efallai y byddwn yn gofyn i chi waredu’r anifail. Mae hyn yn dibynnu ar ddifrifoldeb y gŵyn. Byddwn yn ystyried camau cyfreithiol os nad yw’r anifail yn cael ei waredu.

Beth i’w wneud os ydych yn poeni am anifail neu’r ffordd y mae’n cael ei drin

Os oes gennych bryderon am les anifail heb oruchwyliaeth, cysylltwch â Warden Cŵn y Cyngor ar 029 2071 1243. Mae’r Gwasanaeth Wardeniaid Cŵn ar gael rhwng 8.30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Iau a rhwng 08.30am a 4.30pm ar ddydd Gwener.

Gallwch hefyd gysylltu â llinell greulondeb neu esgeulustod yr RSPCA ar 0300 1234 999.

Os ydych yn profi problemau gydag anifail anwes cymydog ac yr hoffech ofyn am gyngor neu wneud cwyn, cysylltwch â’r tîm Rheoli Tenantiaethau ar 029 2053 7501, e-bostiwch RheoliTenantiaethau@caerdydd.gov.uk, neu ewch i unrhyw Hyb.

Dylech barchu’ch cymdogion, eich cymuned a swyddogion y cyngor sy’n darparu gwasanaethau.

Ni fyddwn yn goddef deiliaid contract (tenantiaid) sy’n difrodi eu cartrefi neu eu cymunedau, neu sy’n achosi niwsans i’w cymdogion neu’n eu cam-drin. Mae o fudd i bawb ein bod yn cymryd llinell gref yn erbyn ymddygiad o’r fath.  Byddwn yn ceisio datrys unrhyw broblemau, ond byddwn yn cymryd camau i droi allan y rhai sy’n cam-drin eu heiddo, eu cymdogion neu staff y cyngor.

 

Ein cyfrifoldeb ni fel landlord

Fel eich landlord, ein cyfrifoldeb ni yw darparu llety i chi sy’n cael ei reoli’n dda ac sydd mewn cyflwr da.

Mae gennym Swyddogion Tenantiaeth, Swyddogion Cyllid a Swyddogion Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a all helpu os ydych yn cael trafferth talu eich rhent neu’n cael trafferth gyda chymdogion.

 

Contractau i denantiaid newydd

Os ydych yn ddeiliad contract (tenant) tro cyntaf gyda’r Cyngor, byddwch yn cael contract rhagarweiniol 12 mis (cytundeb tenantiaeth).  Bydd eich contract (tenantiaeth) yn dod yn gontract diogel (tenantiaeth) ar ôl y cyfnod o 12 mis oni bai bod unrhyw achos o dôr-contract.

Mae contractau rhagarweiniol (cytundeb tenant rhagarweiniol) yn caniatáu i ni, fel landlord cymunedol, weithredu’n gyflym i ddod â chontract (tenantiaeth) y rhai sy’n peri anawsterau i ben. Mae hyn er budd cymdogaethau a chymunedau.

 

Datganiad gofal cwsmer

Rydym wedi ymrwymo i ofal cwsmeriaid.

Byddwn yn ceisio sicrhau bod y gwasanaeth a gynigwn, ar bob cam, o’r safon uchaf posibl a’n bod yn ymateb i anghenion ein cwsmeriaid.

Cysylltu â ni

Dysgwch sut i:

Ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill, e-bostiwch: RheoliTenantiaethau@caerdydd.gov.uk

Hefyd yn yr adran hon