
Gobeithiwn na fydd raid i chi wneud cwyn. Fodd bynnag, os gwnewch, mae gennym dîm penodol sydd yn gallu ymchwilio i faterion ar sail ddi-baid a chymryd camau i ddatrys unrhyw faterion a godir. Mae’n ddefnyddiol os ydych yn gallu cynnwys unrhyw fanylion perthnasol, fel dyddiadau neu rifau cyfeirio, wrth gysylltu i gynorthwyo ein hymchwiliadau.
Yr hyn y gallwn ni roi cymorth yn ei gylch
Rydym yn ymdrin ag amrywiaeth o faterion, gan gynnwys:
- gwasanaethau digartrefedd ac atal digartrefedd,
- gofalu, atgyweirio tai a chynnal a chadw wedi’i gynllunio,
- ymddygiad gwrthgymdeithasol,
- rheoli tenantiaeth,
- rheoli ystadau,
- budd-daliadau,
- Hybiau,
- rhenti,
- prydles, a
- gorfodi dyledion.
Amser ymateb disgwyliedig
Byddwn yn anfon llythyr atoch yn cydnabod ein bod wedi derbyn eich cwyn o fewn 5 diwrnod gwaith.
Mae’r llythyr hwn yn cadarnhau y byddwn yn ymchwilio ac yn ceisio ymateb i’r gŵyn o fewn 20 diwrnod gwaith, lle bo hynny’n bosibl.
Gwneud cwyn
Gallwch wneud cwyn mewn sawl ffordd:
- llenwch ffurflen gwyno ar-lein,
- e-bost cwyniontai@caerdydd.gov.uk,
- ffôn 029 2087 2088,
- ewch i’ch Hyb lleol, neu
- lawrlwythwch y ffurflen gwyno a’i hanfon atom drwy’r post.
Cwynion a Chanmol
Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW