Rydym yn rhoi cymorth personol i deuluoedd ac unigolion i’ch helpu i oresgyn problemau, cynnal eich tenantiaeth, a byw yn annibynnol.

Gall y tîm Cynnal Tenantiaeth eich helpu os ydych chi’n ei chael hi’n anodd rheoli eich tenantiaeth, neu os oes angen cymorth arnoch gyda’ch tenantiaeth gan eich bod yn agored i niwed. Bydd y cymorth hwn yn cynnwys ymweliadau rheolaidd â chartrefi ac mae’n canolbwyntio ar denantiaid y gallai fod angen trefniadau gwahanol arnynt yn yr hirdymor.

Byddwch yn cael swyddog cymorth pwrpasol i’ch helpu i greu cynllun gweithredu unigol i reoli eich tenantiaeth.  Bydd y gefnogaeth a’r cynllun hwn yn barhaus. Er enghraifft, os oes angen i chi gael gwared ar eitemau neu wneud atgyweiriadau i’ch cartref, gallai swyddog weithio gyda chi i roi trefn ar eich eiddo a’ch helpu i gael gwared ar unrhyw beth nad ydych ei eisiau mwyach.  Gallai’r swyddog hefyd drefnu unrhyw atgyweiriadau i sicrhau bod eich cartref yn ddiogel ac yn gyfforddus.

Gallwn hefyd eich atgyfeirio at sefydliadau neu dimau eraill i’ch helpu i reoli eich tenantiaeth. Mae rhai o’r timau rydym yn gweithio gyda nhw yn cynnwys Tîm Cyswllt Lles neu Ymddygiad Gwrthgymdeithasol y cyngor, Gwasanaethau Cyffuriau, Alcohol neu Iechyd Meddwl Cymunedol y GIG a sefydliadau trydydd sector neu elusennol eraill.

Cael eich atgyfeirio at ein gwasanaethau

Mae ein gwasanaethau ond ar gael os yw cyngor neu wasanaeth partner yn credu y gallech elwa o’n cefnogaeth.

Os ydych chi’n credu bod angen cymorth ychwanegol arnoch gyda’ch tenantiaeth, ffoniwch 029 2053 7501 neu gallwch gysylltu ag un o’n Hybiau lleol.

Gallwn hefyd helpu aelwydydd preifat neu aelwydydd rhent preifat i drefnu a gwaredu llwythi o eitemau yn eich cartref. Mae hwn yn gynllun peilot sy’n rhedeg tan fis Mawrth 2024.

Os ydych chi’n meddwl y gallech elwa o’r gwasanaeth hwn, anfonwch e-bost atom ar cynnal.tenantiaeth@caerdydd.gov.uk.

Mae’r Tîm Gweithredu Lleol yn gweithio gyda thrigolion ledled Caerdydd i wella cymdogaethau a’u hannog i ymfalchïo yn eu cymdogaeth.  Is-bennawd y tîm yw “cydweithio i lanhau” gan adlewyrchu natur gymunedol a chydlynol y gwasanaeth.

Mae’r Tîm Gweithredu Lleol yn gweithio gyda’r gymuned i:

  • Helpu trigolion i gael gwared â sbwriel a gwastraff o’u gerddi
  • Helpu trigolion i dorri a chael gwared â gordyfiant
  • Hyrwyddo dim taflu sbwriel a sesiynau casglu sbwriel
  • Gweithio ochr yn ochr â sefydliadau lleol yn yr ardaloedd i gefnogi trigolion
  • Rhoi cymorth cynaliadwy i drigolion sy’n agored i niwed yn yr hirdymor
  • Cyfeirio trigolion at wasanaethau eraill lle bo angen

Mae’r Cydlynwyr Ystadau yn cefnogi’r gymuned drwy greu mwy na dim ond ystadau glanach a mwy taclus, ond i gynnwys trigolion yn y broses gan eu gwneud yn falch o’u cymdogaeth drwy:

  • Annog gweithio gydag adrannau mewnol a sefydliadau allanol, gwirfoddolwyr, Carwch Eich Cartref a sefydliadau trydydd sector eraill
  • Cefnogi ‘Hyrwyddwyr Stryd’ fel rhan o grwpiau gwirfoddoli lleol a chyfeirio trigolion sydd am wirfoddoli yn eu hardal leol.
  • Cydweithio â thrigolion i gynnal digwyddiadau gweithredu cymunedol i’w hannog i ymfalchïo yn eu hardal
  • Gweithio gyda chlybiau gardd presennol neu gefnogi’r broses o greu rhai newydd. Helpu trigolion i ennill y sgiliau i’w helpu i gynnal eu gerddi
  • Gweithio gydag ysgolion i gael sylw’r genhedlaeth iau fel y bydd plant o oedran ifanc yn dysgu sut i ymfalchïo yn eu cymuned ac eisiau ailgylchu.
  • Parhau i weithio’n agos gyda Rheoli Gwastraff i ddatblygu mentrau ar y cyd i hyrwyddo ailgylchu gyda’r gymuned

I gael mwy o wybodaeth e-bostiwch tîmlleol@caerdydd.gov.uk neu ffoniwch 029 2087 2787.

Y Tîm Cyswllt Lles yw tîm dynodedig i ddeiliaid contract Cyngor Caerdydd (tenantiaid) i helpu gyda chyllid a chyllidebu. Mae’r swyddogion yn darparu Gwasanaeth Cyngor Ariannol holistig i helpu i greu cynlluniau fforddiadwy i ad-dalu rhent a biliau eraill y cartref.

Gall Swyddogion Cyswllt Lles gynnig:

  • Apwyntiadau yn y cartref, mewn Hyb neu dros y ffôn. Cysylltwch â’r Llinell Gyngor ar 029 2087 1071.
  • Help i wneud cais am grantiau, gostyngiadau a budd-daliadau.

Help gydag ôl-ddyledion rhent.

  • Cyngor ar y cap budd-daliadau a’r cynlluniau sydd ar gael i ddeiliaid contract i’w helpu yn ôl i’r gwaith.
  • Cyngor ar gyllidebu a dyledion sylfaenol gan ddefnyddio’r ‘Datganiad Ariannol Safonol’.
  • Cymorth digidol a chyllidebu i helpu deiliaid contract gyda Chredyd Cynhwysol.
  • Asesiadau incwm a thaliadau i roi trefniadau fforddiadwy ar waith ar gyfer ad-dalu rhent, biliau a dyledion.

Mae croeso i chi gysylltu â ni os hoffech chi gael cymorth.

Ffôn: 029 2087 1071

E-bost: cyswlltlles@caerdydd.gov.uk

Mae’n bwysig fel deiliaid contract (tenantiaid) y gallwch gynnal eich llety a byw’n annibynnol. Rydym yn darparu gwasanaethau cymorth personol i deuluoedd ac unigolion i’w helpu i ddelio â phroblemau.

Gallai’r problemau hyn gynnwys:

  • datrys dyledion ac ôl-ddyledion,
  • bygythiad neu risg o golli tenantiaeth,
  • dechrau contract meddiannaeth newydd,
  • cyllidebu,
  • bod yn agored i niwed,
  • gallu i ymdopi â materion tenantiaeth,
  • magu hyder,
  • iechyd a diogelwch cyffredinol yn y cartref,
  • cysylltu â chyfleustodau, neu
  • gael cymorth gan asiantaethau eraill.

Ydw i’n gymwys?

I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun, rhaid i chi:

  • fod yn 16 oed neu’n hŷn,
  • bod yn byw yng Nghaerdydd, a
  • naill ai mewn perygl o fod yn ddigartref neu golli’ch llety, neu ar fin dechrau contract meddiannaeth newydd (tenantiaeth).

I gael mynediad i’r gwasanaeth, rhaid i chi fod yn agored i niwed ac yn wynebu rhwystr penodol sy’n eich atal rhag cael mynediad at wasanaethau cyngor a chymorth yn yr Hyb. Er enghraifft:

  • Trais domestig,
  • Camddefnyddio alcohol neu gyffuriau,
  • Teulu un rhiant,
  • Anhawster neu anabledd dysgu,
  • Salwch cronig, neu
  • Berson ifanc sy’n gadael gofal.

Pwy all atgyfeirio?

Os oes angen cymorth arnoch, mae angen i chi gael eich atgyfeirio gan:

  • weithiwr cymdeithasol,
  • swyddog tai,
  • gweithiwr iechyd proffesiynol, neu
  • swyddog Hyb.

Ni allwn dderbyn hunan-atgyfeiriadau.

Rhaid i chi hefyd fod yn ymwybodol o’r atgyfeiriad a’r cais am gymorth sy’n cael eu gwneud ar eich rhan. Rhaid i chi roi eich caniatâd a bod yn barod i dderbyn y cymorth.

Sut mae’r cynllun yn gweithio?

Rhaid i’r atgyfeiriwr lenwi ffurflen atgyfeirio gan roi manylion llawn eich anghenion. Os ydych yn bodloni’r meini prawf, bydd sefydliad partner yn cynnal asesiad.

Os gallwn helpu, caiff gweithiwr cymorth ei benodi i’ch cefnogi a mynd i’r afael â’ch anghenion.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â ni.

Ffôn: 029 2053 7342

E-bost: timcymorthynolyrangen@caerdydd.gov.uk

Gallwch hefyd fynd i unrhyw Hyb.

 

Hefyd yn yr adran hon