Mae Rhentu Doeth Cymru yn gynllun gan Lywodraeth Cymru er mwyn helpu i sicrhau cartrefi rhent diogel ac iach i denantiaid yng Nghymru.
Os ydych yn landlord neu’n asiant yng Nghymru, mae gennych ddyletswyddau cyfreithiol i’w cyflawni o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
Cofrestriad landlord
Fel landlord, bydd angen i chi gofrestru.
Dysgwch fwy am gofrestru a ffioedd ar wefan Rhentu Doeth Cymru.
Trwyddedu Landlordiaid ac Asiantau
Mae gwefan Rhentu Doeth Cymru yn darparu canllawiau ar gyfer landlordiaid hunan-reoli ac asiantau gosod.
Gofynion hyfforddiant ar gyfer trwyddedu
Fel rhan o’r broses drwyddedu, rhaid i landlord neu asiant gwblhau hyfforddiant Rhentu Doeth Cymru cymeradwy cyn cyflwyno cais. Mae opsiynau ystafell ddosbarth ac ar-lein ar gael i fodloni eich hoff arddulliau dysgu.
Darganfod eich opsiynau hyfforddiant.
Nodwch: mae gofynion Rhentu Doeth Cymru yn ychwanegol i ofynion trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth (HMO) yn Neddf Tai 2004.
Cosbau am beidio â chydymffurfio
Mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn gweithio’n agos gyda Rhentu Doeth Cymru i adnabod eiddo a landlordiaid nad ydynt wedi eu cofrestru.
Gallai methu â chydymffurfio â’r gofynion hyn arwain at:
- hysbysiadau cosb benodedig,
- erlyn troseddol a dirwyon,
- gorchmynion ad-dalu rhent,
- gorchymyn atal rhent, neu
- gyfyngu ar eich gallu i sicrhau meddiant o’r eiddo.
Dysgu am gosbau am beidio â chydymffurfio.
Tenantiaid
Gallwch chi wirio’n ddienw a yw eich landlord neu asiant yn cydymffurfio drwy ddefnyddio cofrestr gyhoeddus Rhentu Doeth Cymru (Cofrestr Gyhoeddus).
Os ydych chi’n ymwybodol o landlord neu asiant sy’n gweithredu’n anghyfreithlon, cysylltwch â Rhentu Doeth Cymru.
Darganfod mwy am gymorth i denantiaid gan Rentu Doeth Cymru.