LLETY yw Gwasanaethau Cymorth Landlord/Landlordiaid ag Eiddo, Tenantiaeth, Ymholiadau Cyngor Caerdydd. Ein nod yw ei gwneud yn syml i chi osod a rheoli eich eiddo.
Rydym yn cydnabod y gall gosod eiddo deimlo’n frawychus ac yn gymhleth, yn enwedig gyda chyflwyniad deddfwriaeth newydd. Dyna pam mae ein gwasanaeth wedi’i gynllunio i gyd-fynd â’ch anghenion fel landlord.
Trwy ein cynlluniau, gallwn gynnig y canlynol:
- dim ffioedd rheoli,
rhent gwarantedig (os yw’r eiddo’n cael ei feddiannu ai peidio), - grantiau gwella cartrefi o hyd at £15,000,
gwasanaeth rheoli eiddo llawn lle rydym yn gwneud unrhyw waith atgyweirio a gwasanaethu, ac - asesiad cyn-denantiaeth gyda darpar denantiaid i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer eich eiddo.
Ar hyn o bryd rydym yn cynnig dau gynllun ar gyfer landlordiaid preifat:
- Y Cynllun Sector Rhent Preifat (gosod trwom ni)
- Y Cynllun Prydlesu Sector Rhent Preifat (a reolir gennym ni ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru). Enw arall ar hyn yw Cynllun Lesio Cymru.
Mae’r cynlluniau hyn wedi’u cynllunio ar gyfer landlordiaid a hoffai gymryd cam yn ôl neu sy’n well ganddynt gymryd mwy o ran yn y gwaith o reoli eu heiddo o ddydd i ddydd.
Os nad ydych yn siŵr pa gynllun fyddai’n gweithio orau i chi, edrychwch ar ein taflen gymhariaeth i gael mwy o wybodaeth am bob cynllun.
Y Cynllun Sector Rhent Preifat (gosod trwy Gyngor Caerdydd)
Trwy ein cynllun Sector Rhent Preifat, ein nod yw creu perthynas lwyddiannus rhyngoch chi a’ch deiliaid contract trwy roi cymorth cyn-denantiaeth ac adsefydlu.
Rydym yn deall y byddai llawer o landlordiaid yn hoffi parhau’n rhan o’r gwaith o reoli’r eiddo o ddydd i ddydd. Os hoffech chi barhau’n rhan o’r gwaith hwn, dyma’r cynllun perffaith i chi.
Mae’r cynllun hwn yn eich galluogi i gynnal dull ymarferol o ymdrin â’ch eiddo a chyswllt â’ch tenant. Byddwch hefyd yn cael cymorth gan y tîm LLETY heb unrhyw ffi reoli. Byddwch yn cael pecyn ariannol wedi’i deilwra i’ch helpu chi a’ch tenant.
Rydym yn cynnig pwynt cyswllt pwrpasol i’ch tywys trwy’r daith i osodiad llwyddiannus gydag amrywiaeth o fuddion gwahanol i’ch cefnogi chi a’ch tenant.
Buddion y cynllun hwn yw:
Buddion i Landlordiaid
- Gwasanaeth paru â deiliaid contract – byddwn yn nodi rhai deiliaid contract addas. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi ddewis pa ddeiliad contract rydych yn teimlo fyddai fwyaf addas ar gyfer eich eiddo.
- Fforddiadwyedd i ddeiliad y contract – byddwn yn sicrhau bod darpar ddeiliad y contract yn gallu fforddio’r rhent a’i fod yn ymwybodol o’i gyfrifoldebau.
- Ymweliadau gyda chwmni – rydym yn mynychu pob ymweliad gyda darpar ddeiliaid contract i’w cefnogi nhw a chi.
- Dim ffioedd rheoli.
- Cefnogaeth a chymorth ariannol i gofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru.
- Archwiliadau eiddo am ddim gan ein Asesydd Amodau Eiddo cymwys.
- Pecyn iechyd a diogelwch gyda grantiau adnewyddu ar gael os oes angen.
- Bydd cymorth ar gael i bob aelwyd trwy gydol cyfnod y contract meddiannaeth.
- Mae’r pecyn hwn yn eich galluogi i barhau i reoli eich eiddo yn annibynnol.
Adnewyddu a gwella eiddo
Os oes angen gwaith adnewyddu ar eich eiddo i fodloni safonau ar gyfer rhentu, efallai y gallwch gael help ariannol.
Gallwch gael grant nad oes angen ei ad-dalu os oes angen i chi wneud gwelliannau.
Gallwch ddod o hyd i’ch dyfynbrisiau eich hun ar gyfer y gwaith gyda chontractwyr lleol.
Bydd archwiliad eiddo llawn yn cael ei gynnal cyn ac ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau.
Y wybodaeth sydd ei hangen gennych chi
Os ydych yn prydlesu eich eiddo gyda ni, bydd angen i chi gyflwyno’r canlynol:
- Tystysgrif Diogelwch Nwy Ddilys
- Tystysgrif Diogelwch Trydanol Ddilys
- TPY (Tystysgrif Perfformiad Ynni) Ddilys
Y Cynllun Prydlesu Sector Rhent Preifat (a ariennir gan Lywodraeth Cymru)
Mae ein Cynllun Prydlesu Sector Rhent Preifat yn gynllun a ariennir drwy Lywodraeth Cymru ac a reolir gennym ni.
Nod y cynllun yw dileu’r pwysau os hoffech weithredu dull llai ymarferol o reoli eich eiddo. Mae’r prydlesi ar gael am hyd at bum mlynedd.
Mae’r cynllun yn cynnig y pecyn rheoli eiddo llawn i chi
sy’n cynnwys:
- rhent gwarantedig,
- grantiau adnewyddu o hyd at £15,000, a’r
- holl waith atgyweirio a chynnal a chadw’r eiddo (gan gynnwys gwasanaethu nwy a thrydanol).
Rydym hefyd yn rhoi cymorth tai parhaus i ddeiliad y contract, gydag archwiliadau eiddo rheolaidd, i helpu i gynnal tenantiaeth lwyddiannus. Bydd yr eiddo yn cael ei ddychwelyd i chi yn yr un cyflwr (gan ystyried ôl traul).
Buddion y cynllun hwn yw:
Buddion i Landlordiaid
- Incwm sefydlog gwarantedig hyd yn oed os yw deiliad y contract yn penderfynu symud a bod yr eiddo’n wag. Mae’r swm y byddwch yn ei dderbyn wedi’i bennu ar y gyfradd lwfans tai lleol.
- Taliadau a wneir yn uniongyrchol i chi.
- Bydd cymorth ar gael i bob aelwyd trwy gydol cyfnod y brydles.
- Nid oes angen unrhyw gyswllt â deiliad y contract.
- Gwaith archwilio a chynnal a chadw’r eiddo trwy gydol cyfnod y brydles.
- Yn ystod cyfnod y brydles, ni fydd angen i chi wneud unrhyw waith atgyweirio na chynnal a chadw. Ni fydd angen i chi gynnal archwiliadau diogelwch nwy blynyddol, na phrofion trydanol bob 5 mlynedd (os bydd eu hangen o fewn cyfnod y brydles) gan y byddwn ni’n gwneud y rhain. Os oes unrhyw ddifrod gan ddeiliad y contract, bydd hyn hefyd yn cael ei gywiro heb unrhyw gost nac anghyfleustra i chi.
- Bydd yr eiddo yn cael ei ddychwelyd i chi yn yr un cyflwr ag ar ddechrau’r brydles (gan ystyried ôl traul).
Adnewyddu a gwella eiddo
Os oes angen gwaith adnewyddu ar eich eiddo i fodloni safonau ar gyfer rhentu, efallai y gallwch gael help ariannol.
Gallwch gael grant nad oes angen ei ad-dalu o hyd at £5,000 os oes angen i chi wneud gwelliannau.
Mae grant ychwanegol nad oes angen ei ad-dalu o hyd at £5,000 ar gael i helpu gydag effeithlonrwydd ynni yn yr eiddo.
Os yw eich eiddo yn cael ei ystyried yn gartref gwag ar gofnodion treth gyngor y cyngor, efallai y byddwch yn gymwys i gael £5,000 arall mewn grantiau adnewyddu.
Gallwch gael hyd at £15,000 mewn grantiau nad oes angen eu had-dalu ar y cynllun hwn.
Byddwn yn cynnal arolwg eiddo ac yn nodi unrhyw angen am welliannau.
Gallwch ddod o hyd i’ch dyfynbrisiau eich hun ar gyfer y gwaith gyda chontractwyr lleol.
Bydd archwiliad eiddo llawn yn cael ei gynnal cyn ac ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau.
Y wybodaeth sydd ei hangen gennych chi
Os ydych yn prydlesu eich eiddo i ni, bydd angen i chi gyflwyno’r canlynol:
- Tystysgrif Diogelwch Nwy
- Tystysgrif Diogelwch Trydanol
- Tystysgrif Perfformiad Ynni
- Arolwg asbestos (os yw ar gael)
- Asesiad Risg Tân (os yw ar gael)
- Yswiriant Adeiladau (gan gynnwys atebolrwydd cyhoeddus)
- Cadarnhad bod gennych yr yswiriant priodol i gymryd rhan yn y cynllun
- Caniatâd ysgrifenedig (drwy lythyr neu e-bost) yn cadarnhau bod eich rhoddwr benthyciadau yn cytuno i chi gymryd rhan yn y cynllun am 5 mlynedd (os yw’r eiddo yn cael ei forgeisio)
- Copi o dystysgrif a chynllun y gofrestrfa tir
Byddwch yn gyfrifol o hyd am dalu unrhyw gostau gwasanaeth sy’n gysylltiedig â’r eiddo ac unrhyw waith allanol i’r eiddo.
Ein hymrwymiadau
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i chi, ein landlordiaid yng Nghaerdydd.
Trwy roi eich eiddo yn ein dwylo ni, gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd ein tîm yn eich cefnogi trwy’r daith osod o’r dechrau i’r diwedd.
Rydym wedi ymrwymo i weithio er budd i chi a’ch eiddo.
Dyma’r hyn mae un o’n landlordiaid sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth wedi dweud:
“Penderfynon ni rentu ein fflat 1 ystafell wely trwy Gynllun Prydlesu Cyngor Caerdydd.
Bydd rhent yn cael ei dderbyn p’un ai y mae’r fflat yn cael ei feddiannu ai peidio. Bydd y Cyngor yn delio ag unrhyw broblemau gan ein gadael yn rhydd o unrhyw bryderon a allai godi yn y dyfodol.
Ar y cyfan, rhentu di-drafferth.”
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech drafod buddion pob cynllun, cysylltwch â ni. Gallwn hefyd anfon ffurflen datganiad o ddiddordeb atoch.
- Ffôn: 02920 537 292
- E-bost: LLETY@caerdydd.gov.uk
- Dewch i’n gweld yn Hyb y Llyfrgell Ganolog.
Rydym yn cynnal Fforwm Landlordiaid Caerdydd yn Neuadd y Sir. Mae’r fforwm yn cael ei gynnal bob 2 fis. Ewch i Rhentu Doeth Cymru i gael gwybod pryd mae’r fforwm landlordiaid nesaf.
Os hoffech gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio landlordiaid i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:
- gwasanaethau,
- mentrau, a
- chymhellion.
E-bostiwch y tîm LETS yn nodi yr hoffech danysgrifio i’r rhestr.