Rhaid i bob landlord sicrhau bod eiddo’n addas i fyw ynddo ar ddechrau ac yn ystod y contract meddiannaeth (tenantiaeth).

Rhaid i’ch landlord sicrhau bod larwm mwg ar bob llawr yr eiddo. Rhaid iddo hefyd sicrhau bod larwm carbon monocsid mewn unrhyw ystafell sy’n cynnwys llosgwr tanwydd solet, fel tân agored neu stof tanwydd deuol.

Nid yw eich landlord yn gyfrifol am y difrod rydych yn ei achosi drwy beidio â gofalu am yr eiddo na’i gynnwys yn briodol.

Os oes angen atgyweiriadau ar eich cartref neu os nad yw eich cartref yn ddiogel, dylech gysylltu â’ch landlord yn ysgrifenedig. Dylai drefnu unrhyw waith atgyweirio angenrheidiol, a rhaid iddo sicrhau bod yr eiddo yn addas i fyw ynddo.

Os oes anghydfod yn ystod eich tenantiaeth, rhaid i chi barhau i dalu’ch rhent. Bydd llys yn penderfynu pwy sydd ar fai – chi neu’ch landlord. Efallai y bydd angen i chi dalu unrhyw rent sy’n ddyledus.

I gael mwy o wybodaeth am broblemau yn ystod eich tenantiaeth, gallwch ddarllen am gyfraith tai Llywodraeth Cymru.

Dylech gysylltu â’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (GRhR) os ydych yn cael problemau gyda’r canlynol:

  • atgyweiriadau i eiddo rhent
  • diogelwch o fewn eiddo rhent
  • diogelwch o fewn Tai Amlfeddiannaeth
  • cael eich aflonyddu gan eich landlord, neu
  • droi allan yn anghyfreithlon

Problemau gyda chymdogion

Gallwch roi gwybod am lygredd sŵn os ydych yn cael problemau gyda chymdogion, fel:

  • cerddoriaeth uchel,
  • sŵn parhaus gan anifeiliaid,
  • larymau eiddo / car,
  • sŵn o eiddo masnachol,
  • offerynnau cerdd, a
  • gwaith y cartref ar adegau afresymol

Os ydych yn cael problemau gyda chael eich aflonyddu gan gymdogion gwrthgymdeithasol, dywedwch wrth eich landlord a chysylltwch â Heddlu De Cymru ar 101.

Problemau gyda landlord

Dylech gysylltu â’n llinell cyngor tai os:

  • oes gennych ôl-ddyledion rhent
  • ydych yn ei chael hi’n anodd fforddio eich rhent
  • ydych wedi derbyn Rhybudd i Ymadael
  • ydych yn cael problemau gyda diffyg atgyweirio, neu
  • yw’r berthynas rhyngoch chi a’ch landlord wedi chwalu

Ffoniwch: 029 2057 0750

Hefyd yn yr adran hon