Bydd y rhan fwyaf o bobl oedran gweithio sydd angen help i dalu eu rhent yn derbyn Credyd Cynhwysol a gyhoeddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Gall y rhai sydd o oedran pensiwn, neu’r rhai nad ydynt eto wedi trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol, fod yn derbyn Budd-dal Tai, a gyhoeddir gan y Cyngor lleol.

Credyd Cynhwysol

Mae Credyd Cynhwysol yn daliad misol sengl i bobl oedran gweithio neu i bobl sy’n ennill incwm isel. Fel arfer, caiff ei dalu fel taliad misol sengl i aelwyd gyfan a gall gynnwys help tuag at gostau tai.

Fel arfer, caiff ei dalu’n uniongyrchol i’r hawliwr, a’i gyfrifoldeb ef yw talu’r rhent ei hun. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, gellir talu costau tai yn syth i’r landlord, a gelwir hyn yn Drefniadau Talu Amgen (TTA). Os yw eich deiliad contract (tenant) yn cael trafferth talu ei rent, gallwch ofyn am Daliad a Reolir i Landlord gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. I gael mwy o wybodaeth am sut mae Credyd Cynhwysol yn cael ei asesu, sut y gall eich deiliad contract hawlio, a sut i wneud cais am TTA ewch i wefan GOV.UK.

Budd-dal Tai

Os yw eich deiliad contract (tenant) yn derbyn Budd-dal Tai ac wedi llofnodi’r adran rhannu gwybodaeth ar y ffurflen gais am Fudd-dal Tai, gallwch ofyn ynghylch hawliad eich deiliad contract am fudd-dal.

Gallwch gysylltu â ni drwy e-bostio budd-daliadau@caerdydd.gov.uk neu ffonio 029 2087 1071.

Bydd angen i chi gyflwyno’r canlynol:

  • eich enw neu enw eich cwmni,
  • eich cyfeiriad neu gyfeiriad eich cwmni, ac
  • enw a chyfeiriad eich deiliad contract.

Mae gwybodaeth benodol y gallwn ei rhannu gyda chi. Er enghraifft:

  • a yw eich deiliad contract wedi hawlio neu adnewyddu ei hawliad am fudd-dal tai, a manylion y dyddiad y gwnaeth yr hawliad hwn,
  • a ydym wedi penderfynu a oes ganddo hawl i gael budd-dal,
  • a ydym wedi gwneud taliad i’ch deiliad contract a’r dyddiad hawlio, ac
  • a oes angen mwy o wybodaeth arnom i benderfynu ar hawliad eich deiliad contract a pha wybodaeth gyffredinol sydd ei hangen arnom.

Nid oes modd dweud wrthych:

  • swm y budd-dal a gyfrifwyd,
  • y rhesymau dros benderfyniad ynghylch budd-dal neu sut y gwnaethom ei gyfrifo, neu
  • fanylion penodol yr ydym wedi gofyn amdanynt gan ddeiliad y contract.

Mewn rhai sefyllfaoedd, gellir hefyd drafod a yw hawliad eich deiliad contract:

  • wedi’i ohirio, neu
  • wedi’i ganslo.

Derbyn taliadau Budd-dal Tai

Os yw eich deiliad contract yn derbyn Budd-dal Tai, fel arfer bydd yn cael ei dalu’n uniongyrchol iddo, oni bai ei fod yn cael ei ddiogelu gan y polisi diogelu a’i fod wedi gwneud cais i gael ei roi ar hyn. Enghreifftiau o bryd y bydd y polisi diogelu yn cael ei ddefnyddio yw:

  • os oes ôl-ddyledion rhent o 8 wythnos neu fwy,
  • os oes tystiolaeth nad yw deiliad y contract yn debygol o dalu ei rent,
  • os yw deiliad y contract yn cael trafferth rheoli ei arian, neu
  • os yw’r landlord wedi helpu i gael neu gadw ei denantiaeth.

Os yw deiliad y contract yn derbyn budd-dal tai yn uniongyrchol ac nad yw’n talu ei rent, dylech gysylltu â ni ar unwaith. Byddwn yn atal taliadau pellach nes bod ymchwiliad llawn wedi’i gynnal. Fel arfer, bydd angen i chi gyflwyno prawf o ddiffyg talu i ni ystyried gwneud unrhyw daliadau pellach yn uniongyrchol i’r landlord yn hytrach na deiliad y contract.

Cysylltu â ni

Os yw eich deiliad contract yn cael trafferth talu ei rent, dylai gysylltu â ni ar 029 2087 1071 neu fynd i Hyb.

Cewch wybod pa wasanaethau sydd ar gael i landlordiaid.

Hefyd yn yr adran hon