Mae eiddo rhent preifat yn eiddo y mae landlord preifat (nid y Cyngor na Chymdeithas Tai) yn berchen arno y gall rhywun fyw ynddo am ffi fisol (a elwir fel arfer yn rhent).
Dod o hyd i eiddo
Gallwch ddod o hyd i eiddo drwy gysylltu ag asiantaethau a gwefannau achrededig fel Rightmove, Zoopla ac Openrent. Gallwch hefyd fynd i asiantau eiddo.
Gallwch wirio a yw landlord neu asiantaeth â thrwydded, a bod eiddo wedi’i gofrestru trwy Rhentu Doeth Cymru.
Os ydych yn bwriadu hawlio Credyd Cynhwysol neu fudd-dal tai, dylech wirio cyfraddau’r lwfans tai lleol ar gyfer anghenion eich cartref. Gallwch wirio cyfraddau’r lwfans tai lleol ar y gyfrifiannell DirectGov.
Os oes angen help arnoch gyda hyn, cysylltwch â’n tîm LLETY ar 029 2057 0750 (dewiswch opsiwn 1) neu LLETY@caerdydd.gov.uk.
Gallwn hefyd eich helpu i chwilio am lety rhent preifat yn ein gweithdai Chwilio am Gartref yn yr Hybiau. Mae’r gweithdai yn cael eu cynnal gan ein tîm i Mewn i Waith Mae mwy o wybodaeth ar wefan y Gwasanaeth i Mewn i Waith
Blaendal
Efallai y bydd eich landlord newydd yn gofyn am flaendal (a elwir weithiau’n fond) cyn dechrau eich contract. Mae hyn fel arfer tua mis o rent ac fe’i defnyddir i dalu am unrhyw gost atgyweirio neu daliadau sy’n weddill os daw’r contract i ben.
Mae angen i’ch landlord gyhoeddi datganiad ysgrifenedig o fewn 14 diwrnod i’r dyddiad meddiannu.
Rhaid i’ch landlord neu’ch asiant gofrestru’r blaendal mewn Cynllun Diogelu Blaendal cydnabyddedig o fewn 30 diwrnod i ddyddiad dechrau eich contract. Rhaid iddo hefyd roi manylion ysgrifenedig i chi o hyn o fewn 30 diwrnod i ddyddiad dechrau eich contract.
Os ydych yn cael trafferth dod o hyd i flaendal ar gyfer eich eiddo newydd, yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y gallwn helpu gyda hyn. Cysylltwch â’n tîm LLETY ar 029 2057 0750 (dewiswch opsiwn 1) neu LLETY@caerdydd.gov.uk
Pan fyddwch yn symud i mewn, efallai y bydd eich landlord neu’ch asiant yn cwblhau stocrestr gyda chi. Dyma gofnod o sut mae’r eiddo’n edrych wrth i chi symud i mewn, gan gynnwys pa ddodrefn, eitemau trydanol ac offer sydd wedi’u darparu.
Mae bob amser yn syniad da edrych drwy’r stocrestr i wirio a yw’n gynrychiolaeth gywir o’r eiddo. Efallai y bydd eich landlord neu’ch asiant yn gofyn i chi lofnodi copi i gadarnhau eich bod yn hapus gyda’r cynnwys.
Rhent
Eich rhent yw’r swm o arian a bennir gan y landlord yr ydych yn cytuno i’w dalu, am yr hawl i fyw mewn eiddo.
Mae hwn fel arfer yn daliad misol, ond dylech gadarnhau hyn gyda’ch landlord. Bydd eich contract yn nodi faint o rent y dylech ei dalu a pha mor aml.
Eich cyfrifoldeb chi yw talu rhent ar amser. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael derbynebau am unrhyw daliadau a wnewch.
Os na fyddwch yn talu’r rhent, gall y landlord ddechrau achos i’ch troi allan o’r eiddo.
Ni ddylech atal rhent mewn ymgais i orfodi’r landlord i wneud gwaith atgyweirio. Bydd hyn yn cynyddu eich risg o gael eich troi allan. I gael gwybodaeth am yr hyn i’w wneud os nad yw’ch landlord yn cymryd camau i wneud atgyweiriadau yn eich cartref, ewch i Shelter Cymru.
Gallwch hefyd gysylltu â’r Ganolfan Dewisiadau Tai ar 029 2057 0750 neu e-bostio DatrysiadauTai@caerdydd.gov.uk.
Mae mwy o wybodaeth ar wefan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir.
Os ydych yn cael trafferth talu’ch rhent, cysylltwch â ni ar 029 2057 0750.
Ffi gadw
Efallai y bydd eich landlord yn gofyn am ffi gadw i dynnu’r eiddo oddi ar y farchnad tra ei fod yn cwblhau gwiriadau angenrheidiol. Uchafswm o un wythnos o rent yw’r ffi hon.
Fel blaendal, mae hwn yn ffi y gellir ei had-dalu. Os ydych yn cael yr eiddo, dylai eich landlord newydd naill ai ddychwelyd y taliad hwn neu ei ddidynnu o rent y mis cyntaf.
Os nad ydych yn cael yr eiddo, dylai eich landlord ddychwelyd y taliad oni bai ei fod yn teimlo eich bod wedi ei gamarwain yn fwriadol cyn iddo ddechrau ei wiriadau. Os ydych yn dymuno herio hyn, gallwch siarad â wefan Cyngor ar Bopeth neu wefan Shelter Cymru, neu ofyn am gyngor cyfreithiol annibynnol.
Biliau trydan/nwy/dŵr/ffôn
Cyn i chi lofnodi contract, dylech gael gwybod a yw gwasanaethau nwy, trydan, dŵr a ffôn wedi’u cynnwys yn y rhent. Efallai y bydd angen i chi dalu cyflenwyr trydan/nwy/dŵr/ffôn ar wahân.