Mae Cyngor Caerdydd yn rheoli dau safle Sipsiwn a Theithwyr parhaol – Ffordd Rover (Mapiau Google) a Shirenewton (Mapiau Google).
Rydym yn cynnig cyfanswm o 80 o leiniau preswyl ar draws y 2 safle. Rydym hefyd yn rheoli gwersylloedd anawdurdodedig ar draws y ddinas.
Mae gan bob llain ei ffens derfyn ei hun a giât arddull fferm, ac adeilad cyfleustodau gyda chegin ac ystafell ymolchi. Darperir trydan a dŵr trwy fesuryddion rhagdalu yn y ddau safle. Mae rhai adeiladau cyfleustodau wedi’u haddasu ar gyfer pobl ag anableddau.
Shirenewton
Mae Shirenewton yn safle mawr gyda chyfanswm o 59 o leiniau. Darperir cysylltiadau dŵr a charthffosiaeth ar gyfer y prif gartrefi symudol. Mae Dechrau’n Deg yn gweithredu o’r neuadd gymunedol ar y safle yn ystod y tymor. Mae hefyd ardal chwaraeon aml-ddefnydd a pharc i hyrwyddo chwarae plant.
Ffordd Rover
Ffordd Rover yw’r safle llai gyda 21 o leiniau. Mae adeilad modiwlaidd bach ar gael ar y safle i sectorau trydydd parti ei ddefnyddio i ddarparu gwasanaethau.
Mae swyddfa ar gael ar y ddau safle. Mae rheolwyr y safleoedd yn gweithio o’r swyddfeydd hyn yn ystod oriau craidd. Mae staff y safleoedd ar gael i gefnogi preswylwyr gyda phethau fel credydau cyfleustodau, cymorth cyffredinol, a gofyn am waith atgyweirio.
Y rhestr aros
Mae gennym restr aros ar wahân ar gyfer safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn ychwanegol at y rhestr aros gyffredin ar gyfer tai prif ffrwd. Gall unrhyw un sy’n 16 oed neu’n hŷn wneud cais i ymuno â’r rhestr (Doc). Gallwch wneud cais am y ddau safle.
Os byddwch yn gwneud cais, rhoddir pwyntiau i chi yn ôl eich amgylchiadau, a chynigir y lleiniau sydd ar gael i’r ymgeisydd ar frig y rhestr aros. Mae’r Polisi Dyrannu Lleiniau Sipsiwn a Theithwyr yn cael ei adolygu ar hyn o bryd, ond mae ceisiadau’n dal i gael eu derbyn.
Wrth feddwl am eich opsiynau tai, byddwch yn ymwybodol bod y galw am leiniau’n uchel a bod yr amseroedd aros yn hir iawn. Ychydig iawn o leiniau sy’n dod ar gael ar y naill safle neu’r llall, ond ar hyn o bryd mae dros 50 o ymgeiswyr ar y rhestr aros.
Rydym wedi cynnal Asesiad o Lety Sipsiwn a Theithwyr yn unol ag Adran 102 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 ac mae gwaith yn cael ei wneud i fodloni’r anghenion a nodwyd.
Beth sy’n digwydd os cewch gynnig llain
Os cynigir llain i chi, gofynnir i chi lofnodi cytundeb ysgrifenedig a byddwch yn gallu cadw’ch llain cyhyd â’ch bod yn cadw at delerau’r cytundeb hwnnw.
Y cytundeb ysgrifenedig yw eich cytundeb tenantiaeth. Mae’n rhestru eich cyfrifoldebau chi a’n dyletswyddau ni.
Yn dibynnu ar eich incwm, efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth gyda’ch costau llety a’ch ffioedd llain. Dysgwch fwy am gael help.
Opsiynau tai eraill
Efallai y byddwch am feddwl am opsiynau eraill, fel chwilio am dŷ neu fflat rhent preifat, sydd ar gael yn rhwydd yn y rhan fwyaf o ardaloedd y ddinas.
Efallai y byddwch hefyd eisiau ymuno â’r rhestr aros gyffredin ar gyfer cartref y Cyngor neu gartref Cymdeithas Dai ond gall amseroedd aros fod yn hir. Gallwch gael gwybod pa mor hir y gallai fod yn rhaid i chi aros trwy ddefnyddio’r gyfrifiannell amser aros.
Gallwch aros ar y rhestr aros Sipsiwn a Theithwyr. Os ydych yn byw mewn tŷ prif ffrwd, ni fydd hyn yn effeithio ar eich safle ar y rhestr honno.
Rhoi gwybod am wersyll anawdurdodedig
Os byddwch yn dod yn ymwybodol o wersyll anawdurdodedig, ffoniwch C2C ar 029 2087 2088
Cysylltiadau defnyddiol
Gwasanaeth Sipsiwn a Theithwyr Cyngor Caerdydd
Ffordd Rover – Ffôn: 029 2048 9602
Shirenewton – Ffôn: 029 2079 1694
E-bost: cyswlltgts@caerdydd.gov.uk
Gypsies and Travellers Wales
Ffôn: 029 2021 4411
E-bost: info@gtwales.org.uk