
P’un a ydych yn berchen ar eich cartref eich hun, neu’n rhentu gan landlord, mae nifer o opsiynau tai y gallech fod am feddwl amdanynt wrth i chi fynd yn hŷn.
Os dymunwch aros yn eich cartref presennol, gallai cymorth, addasiadau a mesurau diogelwch ychwanegol eich helpu i barhau i fyw’n annibynnol.
Neu efallai y teimlwch ei bod yn adeg i chi symud i dŷ llai, neu le lle mae rhywun wrth law i’ch helpu mewn argyfwng, neu’n fwy rheolaidd.
Gallwch ddarllen y Canllaw Opsiynau Tai Age UK i helpu i benderfynu ar y ffordd orau ymlaen.
Gall Cyngor Caerdydd a’n Cymdeithasau Tai partner gynnig nifer o opsiynau os hoffech symud i eiddo mwy addas.
Mae Cynlluniau Byw yn y Gymuned (a elwid gynt yn Dai Gwarchod) yn fath o dai â chymorth, sydd wedi’u dylunio gydag anghenion pobl hŷn mewn golwg.
Nid ydynt yr un peth â chartrefi preswyl neu nyrsio. Mae gan bob tenant ei fflat annibynnol ar wahân (heb ei ddodrefnu). Mae tenantiaid yn gallu byw eu bywydau eu hunain ac yn gallu penderfynu a ydynt am gymryd rhan mewn digwyddiadau cymdeithasol a gweithgareddau eraill a drefnir ar y safle.
Ar hyn o bryd rydym yn adnewyddu ein holl gartrefi byw yn y gymuned gyda llawer ohonynt eisoes wedi’u cwblhau.
Gwasanaethau a ddarperir mewn cynllun byw yn y gymuned
Mae rhai gwahaniaethau rhwng cynlluniau, ond fel arfer mae ganddyn nhw:
- Fflatiau neu fflatiau un ystafell hunangynhwysol.
- System larwm mwg.
- Rheolwr cynllun o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod oriau swyddfa, i’ch helpu a’ch cefnogi, darparu cyngor a hwyluso digwyddiadau a gweithgareddau.
- Gwasanaeth larwm Teleofal 24 awr ar gyfer argyfyngau.
- Ystafell i westeion. Codir tâl o £10 y noson. Gall tenantiaid drefnu gyda rheolwr y cynllun os oes ganddynt berthynas neu ffrind agos sydd am aros am noson neu ddwy.
- Lolfa gymunedol ar gyfer cymdeithasu ac adloniant.
- Ystafelloedd golchi dillad gyda pheiriannau golchi a sychwyr. Mae rota ar gyfer pryd mae tenantiaid yn gallu defnyddio’r peiriannau.
- Lifftiau.
- Camerâu diogelwch teledu cylch cyfyng mewn rhai ardaloedd.
- Wi-Fi.
Hefyd ar gael mewn rhai cynlluniau mae:
- Trwyddedau teledu ar ostyngiad.
- Gerddi cymunedol.
- Lle storio sgwteri symudedd.
- Rampiau.
- Drysau mwy llydan.
- Ymweliadau llyfrgell deithiol.
Lleoliadau cynlluniau byw yn y gymuned
Mae ein llety i’w gael ledled Caerdydd ac mae i gyd yn gwbl hygyrch o ganol y ddinas.
Gallwch ddarganfod mwy am bob un o’n cynlluniau byw yn y gymuned.
Cymhwysedd
Mae’n rhaid i chi fod yn 60 oed neu’n hŷn i fod yn gymwys ar gyfer y rhan fwyaf o gynlluniau byw yn y gymuned. Mewn rhai cynlluniau, gallwch fod yn 55 oed neu’n hŷn.
Os ydych chi’n Ddeiliad Contract gyda Chyngor Caerdydd ac yn byw mewn eiddo sy’n rhy fawr i’ch anghenion ac rydych yn cael trafferth gyda’r rhent, biliau cyfleustodau neu waith cynnal a chadw’r ardd, mae Cydlynydd Maint Cywir pwrpasol a all eich helpu i edrych ar eiddo addas. Gallant helpu gydag unrhyw broblemau sydd gennych wrth geisio dod o hyd i eiddo o faint gwahanol a gallant weld pa gymhellion sydd ar gael i’ch helpu i symud. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Cydlynydd Maint Cywir ar 029 2053 6415.
Sut i wneud cais
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn denant neu symud o’ch tenantiaeth bresennol, gallwch ymuno â’r rhestr aros tai.
Os hoffech i ni anfon y ffurflen atoch, ffoniwch 029 2053 7111. Bydd ein tîm hefyd yn gallu eich helpu i lenwi’r ffurflen os oes angen.
Rhent
Os ydych ar incwm isel, efallai y gallwch gael Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol i helpu gyda’r rhent a rhai rhannau o’r tâl gwasanaeth.
I gael rhagor o wybodaeth am rent a thaliadau gwasanaeth, ffoniwch 029 2053 7111.
Mae byngalo yn eiddo lle mae’r holl ystafelloedd a chyfleusterau ar 1 lefel. Gall mynediad i’r eiddo fod yn wastad neu ar ffurf grisiau. Mae gan fyngalos yr un cyfleusterau ac amwynderau ag unrhyw eiddo arall. Mae gan bob un ohonynt fynediad i ardd gefn.
Mae gennym fyngalos ymddeol ledled Caerdydd, ac maent wedi’u dynodi ar gyfer pobl dros 60 oed yn unig. Rhaid i’r holl aelwyd fod dros 60 oed.
Mae gennym 4 fflat un ystafell, 548 o fyngalos un ystafell wely a 69 o fyngalos dwy ystafell wely. Gan mai cartrefi y mae galw mawr amdanynt yw’r rhain, mae’r tebygolrwydd o sicrhau un yn gyfyngedig a gallai olygu aros yn hir.
Hygyrchedd
Mae ein byngalos i gyd yn amrywio o ran lefel eu hygyrchedd, o fynediad gwastad i fynediad grisiog. Efallai y bydd modd i ni osod ramp os oes angen. Gallwn hefyd osod canllawiau. Maent i gyd hefyd yn amrywio o ran bod mewn ardal wastad neu fryniog.
Nid ydym yn gosod cawodydd cerdded i mewn ac ystafelloedd gwlyb fel arfer, ond rydym wedi gosod llawer o gawodydd cerdded i mewn neu ystafelloedd gwlyb ar draws ein stoc fyngalos. Os cynigir byngalo i chi, byddwn yn asesu eich angen ar y pryd ac yn nodi’r llety priodol ar gyfer eich anghenion. Efallai y byddwn yn gallu gosod cyfleusterau amgen yn nes ymlaen.
Storio sgwteri symudedd
Nid yw ein byngalos yn dod gyda lle storio sgwteri neu fynediad pŵer y tu allan fel arfer, ond mae rhai wedi’u gosod.
Os na allwch ymdopi heb ofal gartref mwyach, gallwn asesu eich anghenion a’ch helpu i ystyried eich holl opsiynau.
Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y byddwch am ystyried llety gofal ychwanegol. Mae hyn yn cynnig gofal a chymorth 24 awr, wrth gynnal eich annibyniaeth mewn fflat hunangynhwysol.
Mae Linc Cymru a Cymdeithas Tai Hafod yn cynnig cynlluniau gofal ychwanegol yng Nghaerdydd. Gallwch wneud cais am y math hwn o lety gyda’r darparwyr.
Os ydych chi’n berchennog tŷ neu’n denant, efallai y byddwch am ystyried symud i eiddo llai.
Os ydych yn berchennog tŷ, gall symud i eiddo llai ryddhau rhywfaint o arian i chi ei fwynhau yn eich ymddeoliad, a lleihau eich biliau a’ch costau cynnal a chadw. Gallwch gysylltu â gwerthwyr tai lleol i’ch helpu i ddod o hyd i gartref addas.
Os byddai’n well gennych symud i eiddo tai cymdeithasol llai, gallwch hefyd ymuno â rhestr aros tai Caerdydd.
Os ydych yn denant gyda’r Cyngor neu gymdeithas dai, gallwch wneud cais i gyfnewid â thenant arall neu drosglwyddo i eiddo arall.
Os ydych chi’n cael trafferth gyda rhent, cyfleustodau, neu gynnal a chadw’r ardd oherwydd bod eich eiddo’n rhy fawr ar gyfer eich anghenion, gallwch gysylltu â’n Cydlynydd Maint Cywir.
Gallant eich helpu i ddod o hyd i eiddo addas a gweld pa gymhellion sydd ar gael i’ch helpu i symud.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â ni.
Ffôn: 029 2053 7522
E-bost: maintcywir@caerdydd.gov.uk
Llety rhent preifat
Os ydych am barhau i rentu’n breifat, mae ein tîm Cymorth Digidol yn gallu eich helpu.
Mae’r Gwasanaeth i Mewn i Waith yn cynnal sesiynau cymorth Homefinder yn ein Hybiau. Yn y sesiynau, maen nhw’n gallu eich helpu i chwilio am gartrefi rhent preifat ac ymholi amdanynt ar-lein.
Hefyd maen nhw’n gallu eich helpu i:
- lywio trwy wefannau eiddo,
- cysylltu ag asiantaethau landlordiaid neu osod i holi am eiddo,
- ennill y sgiliau a magu’r hyder i ddefnyddio dyfeisiau a chwblhau tasgau ar-lein yn hyderus ac yn ddiogel, a
- datblygu sgiliau digidol i’ch galluogi i chwilio ar-lein am gartrefi rhent preifat yn annibynnol.I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.
Ffôn: 029 2087 1071
E-bost: cymorthdigidol@caerdydd.gov.uk
Cymorth Digidol
Gallwn ni eich helpu i fynd ar-lein neu gael gafael ar offer i wneud hynny. Mae’r cymorth yn cynnwys:
- defnyddio eich dyfais,
- lawrlwytho apiau,
- mynd ar-lein yn ddiogel,
- dod o hyd i wybodaeth ar-lein,
- cael mynediad i wasanaethau’r Cyngor,
- llenwi ffurflenni, a
- datrys problemau cyffredinol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.
Ffôn: 029 2087 1071
E-bost: mailto:cymorthdigidol@caerdydd.gov.uk
Porth
Rydym yn gallu eich helpu gydag amrywiaeth o bethau, gan gynnwys:
- sefydlu cyfrif e-bost,
- gwneud cais am rai budd-daliadau ar-lein, a
- chael mynediad i wasanaethau’r Cyngor ar-lein.
Os ydych chi’n chwilio am waith neu’n chwilio am swydd arall, gallwn ni hefyd eich helpu i:
- ysgrifennu CV,
- gwneud cais am swyddi ar-lein,
- ysgrifennu llythyrau eglurhaol,
- hyfforddiant sgiliau gwaith,
- technegau cyfweld, a
- magu eich hyder.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.
Ffôn: 029 2087 1071