
Os ydych chi dros 16 oed ac yn byw yn barhaol yn y DU, gallwch wneud cais i ymuno â’r Rhestr Aros Tai. Mae gennym restr aros gyffredin, sy’n golygu mai dim ond ar gyfer y rhestr hon y mae angen i chi ymgeisio i gael eich cofrestru ar gyfer holl eiddo’r cyngor a chymdeithasau tai yng Nghaerdydd.
Rydym am sicrhau ein bod yn rhoi cartrefi i bobl sydd ag anghenion llety. Rydym yn blaenoriaethu’r rhai sydd wedi byw yn barhaus yng Nghaerdydd am 2 flynedd neu fwy. Cysylltiad lleol yw’r enw rydyn ni wedi’i roi ar hyn.
Mae anghenion llety yn cynnwys pethau fel:
- bod yn ddigartref,
- cyflwr meddygol sy’n cael ei waethygu gan eich llety presennol,
- cartref gorlawn,
- tanfeddiannu eiddo Cyngor neu Gymdeithas Dai nad yw bellach yn fforddiadwy oherwydd caledi a achoswyd gan eich llety presennol, neu
- fyw mewn llety anfoddhaol. Er enghraifft, heb ddŵr poeth neu wres.
Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais drwy lenwi ein ffurflen cais am dŷ.
Os ydych chi’n cael trafferth cwblhau’r cais ar-lein, gallwch gwblhau ffurflen gais bapur. Gallwch:
- ein ffonio ni ar 029 2053 7111,
- ymweld â’ch hyb lleol, neu
- ddefnyddio’r ffurflen gyswllt a byddwn yn eich ffonio.
Ar ôl i ni dderbyn eich cais, cewch eich gwahodd i gyfweliad fel y gallwn ddeall mwy am eich angen o ran tai.
Gallwch ddewis cymaint o ardaloedd o’r ddinas ag y dymunwch ond dylech gofio mai ychydig iawn o eiddo sydd gennym mewn rhai ardaloedd, ac efallai na fyddant yn dod ar gael yn aml iawn.
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y bydd angen i chi ddewis o leiaf 2 ardal lle mae tai cymdeithasol ar gael yn amlach. Bydd hyn yn helpu i sicrhau y cewch y cyfle gorau o gael eich cartrefu.
Byddwn yn dweud wrthych os mai dyma’r achos yn ystod eich cyfweliad am dŷ.
Os byddwn yn derbyn eich cais am dŷ, gallwn ddweud wrthych:
- faint o eiddo o’r maint sydd ei angen arnoch sydd ym mhob ardal,
- faint a gafodd eu gosod yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a
- faint o ymgeiswyr eraill sy’n aros amdanynt.
Gallwch hefyd ddod o hyd i’r wybodaeth hon ar ein cyfrifiannell amser aros.
Gallwch newid eich ardaloedd dewisol ar unrhyw adeg drwy:
- ffonio’r llinell gyngor tai ar 029 2053 7111,
- mynd i’ch hyb lleol, neu
- e-bostio SLU-RhestrAros@caerdydd.gov.uk Rhaid anfon eich e-bost o’r cyfeiriad e-bost ar eich cais.
Os ydych chi wedi’ch cofrestru fel person digartref ac yn gwneud cais i ymuno â’r Rhestr Aros Tai, bydd angen i chi gysylltu â ni ar ein llinell gyngor a byddwn yn trosglwyddo’r holl fanylion i’ch Swyddog Digartrefedd.
I benderfynu eiddo o ba faint sydd ei angen arnoch, rydym yn caniatáu un ystafell wely ar gyfer:
- Cyplau sy’n oedolion
- Unrhyw oedolyn arall (16 oed neu hŷn)
- Unrhyw ddau blentyn o’r un rhyw dan 16 oed
- Unrhyw ddau blentyn dan 10 oed
- Unrhyw blentyn arall
Mae’r math o eiddo a gynigir i chi yn dibynnu ar eich teulu. Rydym yn defnyddio canllawiau ychydig yn wahanol i Gymdeithasau Tai, ond yn gyffredinol:
- Cynigir tai â 2 ystafell wely neu fwy i aelwydydd sy’n cynnwys plentyn neu blant cyn aelwydydd heb blant.
- Nid yw fflatiau a fflatiau deulawr uwchben llawr cyntaf adeilad yn cael eu cynnig i deuluoedd â phlant dan 8 oed oni bai bod Menter Gosod Tai’n Lleol ar waith ar gyfer yr ardal hon. Defnyddir Mentrau Gosod Tai’n Lleol i fynd i’r afael â phroblemau penodol mewn ardal.
- Mae byngalos, a rhai fflatiau, ond yn cael eu cynnig i bobl hŷn neu bobl sy’n anabl.
- Cynigir fflatiau un ystafell wely i oedolion sengl dan 35 oed cyn pob ymgeisydd arall.
Rydym wedi rhannu’r rhestr aros yn fandiau. Os cewch eich derbyn ar y rhestr aros, byddwn yn edrych ar eich anghenion llety ac a oes gennych gysylltiad lleol i benderfynu ar eich band.
Bandiau A a B
Mae’r bandiau yma ar gyfer pobl sydd ag anghenion llety a chysylltiad lleol â Chaerdydd.
Os yw’ch angen yn frys, byddwch yn ymuno â band A. Er enghraifft, os oes gennych gyflwr meddygol sy’n bygwth bywyd ac sy’n cael ei waethygu gan eich cartref presennol.
Os yw’ch angen yn llai brys, byddwch yn ymuno â band B. Er enghraifft, os ydych chi mewn cartref gorlawn.
Bandiau C a D
Mae’r bandiau yma ar gyfer pobl sydd ag anghenion llety ond nad oes ganddynt gysylltiad lleol â Chaerdydd.
Os yw’ch angen yn frys, byddwch yn ymuno â band C. Os yw’ch angen yn llai brys, byddwch yn ymuno â Band D.
Band E
Mae’r band yma ar gyfer pobl sydd â chysylltiad lleol â Chaerdydd ond sydd heb anghenion llety.
Band F
Mae’r band yma ar gyfer pobl sydd heb gysylltiad lleol â Chaerdydd nac anghenion llety.
Defnyddir amser aros i benderfynu ar eich safle yn y band. Pan fyddwch yn ymuno â’r rhestr aros, byddwch ar waelod eich band. Y person ar frig y band yw’r person sydd wedi bod yn aros hiraf.
Cofiwch, rydym yn cynnig cyfran o’n heiddo i denantiaid Cyngor a Chymdeithasau Tai sydd angen eiddo llai, ac i bobl sy’n ddigartref.
Mewn achosion eithriadol, byddwn yn blaenoriaethu ailgartrefu ymgeiswyr sydd ag anghenion llety dybryd.
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno’r cais, byddwn yn eich ffonio i helpu gyda’r camau nesaf. Mae’r rhain yn cynnwys cyfweliad gydag Ymgynghorydd Tai a fydd yn rhoi gwybodaeth a chyngor i chi am eich opsiynau tai. Os na fyddwch yn mynychu’r apwyntiad, ni fyddwch yn cael eich cofrestru ar y rhestr aros.
Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi am ragor o wybodaeth. Gallai’r wybodaeth hon gynnwys:
- cyfeiriad gan eich landlord blaenorol, neu
- fwy am sut mae byw yn eich cartref presennol yn effeithio ar unrhyw gyflyrau meddygol sydd gennych chi.
Pan fydd gennym yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom, byddwn yn penderfynu a allwch ymuno â’r Rhestr Aros Tai. Byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi am y penderfyniad.
Cofiwch, os byddwch yn rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol i ni, bydd hyn yn oedi eich cais a gallem dynnu unrhyw gynnig o lety yn ôl. Mae’n drosedd ennill contract meddiannaeth yn seiliedig ar wybodaeth ffug neu gamarweiniol.
Ceisiadau papur
Byddwn yn eich gwahodd i gyfweliad unwaith y byddwn wedi derbyn eich cais. Bydd angen i chi ddod ag unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth arall rydym wedi gofyn amdanynt. Os na fyddwch yn dod â’r pethau hyn, gallai achosi oedi cyn i chi gael lle ar y rhestr aros.
Os bydd eich amgylchiadau’n newid, dywedwch wrthym cyn gynted ag y gallwch chi, gan y gallai effeithio ar eich band.
Efallai y bydd angen i chi lenwi ffurflen newydd neu gyfarfod â ni eto i drafod y newidiadau.
Mae newidiadau’n cynnwys:
- newid cyfeiriad,
- aelod o’r teulu yn gadael neu’n ymuno â’ch aelwyd,
- ychwanegu neu ddileu cyd-ymgeisydd, neu
- fabi yn cael ei eni.
Gallem dynnu’ch cynnig o lety yn ôl os yw’n seiliedig ar hen wybodaeth.
Os caiff eich cais ei symud i fand uwch, byddwn yn defnyddio’r dyddiad y newidiodd eich amgylchiadau i benderfynu ar eich safle ar y rhestr aros. Rydym yn gwneud hyn i gydnabod bod pobl eisoes wedi bod yn aros.
Os yw eich cais yn aros yn yr un band neu’n cael ei symud i un is, ni fydd dyddiad eich cais yn newid.
Ar ôl i chi wneud cais
Dysgwch fwy am yr hyn sy’n digwydd ar ôl i chi wneud cais.
Ar ôl i ni asesu eich cais, byddwn yn anfon llythyr atoch yn nodi:
- rhif cyfeirnod eich cais,
- dyddiad eich cais,
- eich band blaenoriaeth, a
- maint eich eiddo.
Os oes angen i ni asesu unrhyw aelod o’r aelwyd am gyflwr meddygol neu amgylchiadau eraill, gall eich band fynd i fyny neu lawr yn dibynnu ar ganlyniad yr asesiad. Byddwn yn ysgrifennu atoch ac yn rhoi gwybod i chi am y canlyniad.
Gallwch ddewis sut y byddwn yn cysylltu â chi. Gallwn e-bostio, ffonio neu decstio, ond byddwn bob amser yn anfon llythyr atoch i gadarnhau unrhyw gynnig o lety.
Cofiwch ddweud wrthym os bydd eich manylion cyswllt yn newid drwy:
- ffonio 029 2053 7111, neu
- e-bostio SLU-RhestrAros@caerdydd.gov.uk.
Os byddwch yn derbyn y cynnig, ein nod yw rhoi syniad i chi o bryd y bydd yr eiddo yn debygol o fod yn barod.
Yna byddwn yn cysylltu â chi i drefnu cyfweliad cofrestru tenantiaeth mewn Hyb.
Gall yr apwyntiadau hyn gymryd hyd at 2 awr i’w cwblhau, yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Bydd angen i chi ddod â phrawf adnabod a phrawf o’ch cyfeiriad presennol.
Os ydych yn gyd-ymgeisydd, bydd angen i’r ddau ohonoch ddod â’r rhain.
Byddwn yn cynnig hyd at 2 opsiwn llety i chi. Os byddwch yn gwrthod y cynnig cyntaf, byddwn yn gofyn am fwy o fanylion am eich anghenion llety ac yn diweddaru eich cais. Os byddwch yn gwrthod cynnig arall, bydd eich cais yn cael ei dynnu’n ôl o’r rhestr aros, ac ni fyddwch yn gallu ailymgeisio am 12 mis.
Os ydych ar y rhestr ddigartrefedd neu flaenoriaeth uchel, neu os ydych yn cael eich ‘gadael mewn meddiannaeth’ o eiddo cyngor neu gymdeithas dai, byddwch yn cael 1 cynnig rhesymol o lety. Ystyr cael eich ‘gadael mewn meddiannaeth’ yw os yw deiliad contract yn gadael yr eiddo neu’n marw ac nad oes gennych hawl awtomatig i olynu’r contract. Os gwrthodwch y cynnig hwn, byddwn yn tynnu’ch cais yn ôl. Rydym yn argymell eich bod yn cael cyngor cyn gwneud penderfyniad. Ewch i’ch hyb leol, os gwelwch yn dda.
Os oes gennym ddyletswydd i’ch cynorthwyo o dan gyfraith digartrefedd a’ch bod yn gwrthod cynnig rhesymol, bydd hyn hefyd yn golygu y bydd ein dyletswydd digartrefedd i chi yn dod i ben.
Os ydym wedi rhoi llety dros dro i chi, gofynnir i chi adael os byddwch chi’n derbyn y cynnig.
Gallwch ofyn am adolygiad o unrhyw benderfyniad rydym wedi’i wneud ynglŷn â’ch cais, gan gynnwys:
- y penderfyniad i leihau dewis,
- y band a ddyfarnwyd i gais,
- y penderfyniad i wahardd cais, a
- chynigion llety.
Cofiwch fod yn rhaid i chi ofyn am adolygiad o fewn 21 diwrnod i’r penderfyniad gwreiddiol.
Caiff adolygiadau eu cynnal gan swyddog nad oedd yn rhan o’r penderfyniad gwreiddiol.
Gallwch ofyn am adolygiad drwy:
- ffonio 029 2053 7111, neu
- e-bostio SLU-RhestrAros@caerdydd.gov.uk.
Gwybodaeth ychwanegol
Dysgwch fwy am y broses ymgeisio.
Rhaid i chi lenwi’r ffurflen sgrinio bob blwyddyn i aros ar y rhestr aros. Byddwn yn anfon y ffurflen atoch yn y post ac mae’n rhaid i chi ei dychwelyd o fewn 14 diwrnod i’r dyddiad ar y llythyr.
Dywedwch wrthym os bydd eich amgylchiadau’n newid.
Sganiwch neu tynnwch llun o’r ffurflen a’i e-bostio at SLU-RhestrAros@caerdydd.gov.uk.
Gallwch gyflwyno’r ffurflen mewn unrhyw hyb lleol.
Gallwch hefyd ei anfon atom drwy’r post.
Uned Dyraniadau ac Ailgartrefu
Tîm Rhestr Aros, Cyngor Caerdydd
Neuadd y Sir
Caerdydd
CF10 4UW
Cofiwch, os na fyddwch yn dychwelyd y ffurflen sgrinio ar amser, bydd eich cais yn cael ei dynnu’n ôl. Bydd wedyn angen i chi ddechrau cais newydd gyda dyddiad cofrestru newydd.
Pan fyddwch yn gwneud cais am dŷ, rhaid i chi ddweud wrthym a ydych wedi bod yn denant cyngor neu gymdeithas dai o’r blaen.
Byddwn yn gofyn am eirda tenantiaeth gan eich landlord. Bydd y camau nesaf yn dibynnu ar y geirda a dderbyniwn.
Gall y broses gymryd tua 4 i 6 wythnos. Yn ystod y cyfnod hwn, gellid gohirio eich cais tra bod y gwiriadau hyn yn cael eu gwneud. Mae’r gwiriadau hyn yn cynnwys gwirio tenantiaethau blaenorol ac unrhyw gollfarnau troseddol. Os caiff eich cais ei gofrestru, bydd hynny’n cael ei wneud o’r dyddiad y gwnaethoch gais, nid pan gwblhawyd y gwiriadau, fel na fyddwch yn colli amser.
Gallem wahardd ymgeiswyr tai, neu unrhyw un arall ar yr un cais oherwydd ymddygiad yn y gorffennol, megis:
- rhai collfarnau troseddol,
- ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu
- statws mewnfudo.
Rydym yn ystyried y rhain fesul achos.
Wrth wneud cais am dŷ, rhaid i chi ddatgan a oes gennych chi neu unrhyw un ar eich cais gollfarn droseddol heb ei disbyddu. Byddwn yn ymchwilio i’ch collfarnau i wirio a ydych chi’n addas ar gyfer cynnig. Yn dibynnu ar eich hanes, efallai y byddwch yn ddarostyngedig i’r Polisi Gwahardd.
Os ydych chi wedi cael eich gwahardd o’r rhestr aros am wrthod cynigion eiddo, ni allwch wneud cais nes bod y cyfnod gwahardd wedi dod i ben. Bydd y dyddiad y gallwch ailymgeisio ar y llythyr a gawsoch. Os ydych chi wedi colli’r llythyr ac eisiau gwirio pryd y gallwch ailymgeisio, gallwch ffonio 029 2053 7111.
Byddwch yn cael cyfle i apelio yn erbyn gwaharddiad pan fydd yn dechrau. Bydd ffurflen apelio yn cael ei chynnwys gyda’r llythyr sy’n rhoi gwybod i chi am eich gwaharddiad. Gallwch hefyd gael cyngor o’ch Hyb lleol neu’r Ganolfan Dewisiadau Tai.
Efallai y byddwn yn atal eich cais am dŷ dros dro os oes arnoch ddyled sy’n gysylltiedig â thenantiaeth. Er enghraifft, ôl-ddyledion rhent. Efallai y bydd arnoch ddyled i’ch awdurdod lleol presennol neu flaenorol, neu i gymdeithas dai. Bydd angen i chi ddelio â’r ddyled i dderbyn cynigion llety.
Os yw eich cais wedi’i atal dros dro oherwydd dyled sy’n gysylltiedig â thenantiaeth, dylech ddelio â’r ddyled hon cyn gynted ag y gallwch. Gallai hyn olygu clirio’r ddyled, neu sefydlu cynllun ad-dalu gyda’r credydwr. Dylech gysylltu â’r landlord y mae arnoch ddyled iddo am arweiniad yn gyntaf. Fel arall, gallwch gael cyngor gan:
- eich hyb lleol, neu
- Y Tîm Cyngor Ariannol.
Gallwch ofyn am adolygiad o’r penderfyniad i’ch atal dros dro drwy gysylltu â ni – byddwn yn anfon y ffurflen berthnasol atoch.
Os ydych wedi cael eich atal dros dro o’r rhestr aros oherwydd ôl-ddyledion tenant presennol neu flaenorol, bydd angen i chi dalu neu leihau faint o arian sy’n ddyledus. Os nad ydych yn siŵr o’r swm, a’ch bod yn denant presennol neu flaenorol i Gyngor Caerdydd, bydd angen i chi ffonio ein Tîm Cyllid ar 029 2053 7350 i benderfynu ar drefniant.
Os ydych chi’n denant Cymdeithas Dai, bydd angen i chi siarad â’u Tîm Rhenti a Chyllid.
Pan fydd eich dyledion wedi’u clirio neu eu lleihau’n briodol, gallwn ailasesu’r penderfyniad i’ch atal dros dro o’r rhestr aros.