Bydd angen i chi ddod â’r dystiolaeth briodol i’ch cyfweliad.
Efallai na fydd eich cais yn cael ei dderbyn nes i chi ddarparu’r holl wybodaeth briodol yr ydym wedi gofyn amdani. Os na fyddwch yn dod â’r dystiolaeth gyda chi i’ch cyfweliad, gallai achosi oedi cyn i chi gael lle ar y rhestr aros tai.
Cofiwch, os byddwch yn rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol i ni, bydd hyn yn oedi eich cais a gallem dynnu unrhyw gynnig o lety yn ôl. Mae’n drosedd ennill contract meddiannaeth yn seiliedig ar wybodaeth ffug neu gamarweiniol.
Rhaid i ni weld y ddogfen wreiddiol bob amser – ni allwn dderbyn llungopïau.
Bydd angen i chi ddarparu un o’r canlynol fel prawf adnabod ar gyfer chi’ch eich hun ac unrhyw ymgeisydd ar y cyd:
- trwydded yrru â ffotograff,
- pasbort.
Os nad oes gennych drwydded yrru neu basbort, dewch ag un o’r canlynol:
- tystysgrif geni,
- tystiolaeth o’ch rhif yswiriant gwladol.
Os nad oes gennych chi neu unrhyw gyd-ymgeisydd basbort Prydeinig ac na chawsoch eich geni yn y DU, bydd angen i chi ddarparu:
- eich cod rhannu statws ar-lein.
Os ydych wedi nodi eich bod yn ddigartref, bydd angen i chi ddarparu unrhyw un o’r canlynol sy’n berthnasol i’ch sefyllfa ddigartrefedd:
- hysbysiad a gyflwynwyd gan eich landlord,
- llythyr cyflogwr yn cadarnhau prawf o lety clwm,
- papurau rhyddhau o’r Lluoedd Arfog.
Bydd angen i chi ddarparu prawf o breswylfa ar gyfer pob aelod o’r cartref gan gynnwys plant:
Ar gyfer yr ymgeisydd/ymgeiswyr ac aelodau o’r cartref sy’n oedolion
Gellir derbyn unrhyw un o’r dogfennau canlynol fel prawf o breswylfa bresennol a dylai fod wedi’i dyddio o fewn y 6 mis diwethaf gyda’r cyfeiriad presennol arno:
- bil trydan/nwy/dŵr y cartref neu ddatganiad ffôn symudol,
- bil treth gyngor / llythyr budd-dal tai,
- slip cyflog â chyfeiriad,
- datganiadau banc / cymdeithas adeiladu,
- budd-dal plant / lwfans ceisio gwaith / llyfr pensiwn,
- trwydded deledu,
- dogfennau cofrestru car,
- gohebiaeth oddi wrth un o adrannau’r Llywodraeth fel yr Adran Gwaith a Phensiynau, y GIG neu Fisâu a Mewnfudo y DU,
- llythyr gan goleg / ysgol,
- cytundeb tenantiaeth (os gwnaethoch chi ei lofnodi o fewn y pedair wythnos diwethaf).
Prawf o breswylfa – plant
Gellir derbyn unrhyw un o’r canlynol fel tystiolaeth o breswylfa ar gyfer plant o dan 16 oed, neu blant rhwng 16 a 18 oed sydd mewn addysg llawn amser:
- llythyr budd-dal plant, wedi’i ddyddio o fewn y 4 wythnos diwethaf, gyda chyfeiriad yn cyfateb i’r cyfeiriad ar y cais.
- llythyr budd-dal plant, o fwy na 4 wythnos yn ôl, ynghyd â datganiad banc diweddaraf yr ymgeisydd sy’n dangos credyd y budd-dal a chyfeiriad y cais.
- eich llythyr dyfarniad Credyd Cynhwysol diweddaraf neu sgrinluniau o’ch dyddiadur Credyd Cynhwysol yn dangos eich enw a’ch cyfeiriad, eich hawl i’r elfen plant ohono ac enwau’r plant rydych chi’n derbyn hyn ar eu cyfer,
- prawf ar-lein o’ch hawl i fudd-dal plant trwy gov.uk.
Bydd angen i chi ddarparu un o’r canlynol fel prawf o feichiogrwydd (mae angen i’r dyddiad geni disgwyliedig fod yn weladwy):
- tystysgrif mamolaeth – Ffurflen MAT B1,
- cerdyn cyn geni.
Os ydych wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, bydd angen i chi ddarparu prawf o un o’r canlynol:
- papurau rhyddhau o’r Lluoedd Arfog.
- llythyr / gwaith papur gan y Lluoedd Arfog yn cadarnhau’r dyddiad rhyddhau disgwyliedig.
Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth sy’n dangos eich hanes cyfeiriadau dros y 2 flynedd diwethaf. Gellir derbyn unrhyw un o’r dogfennau canlynol sy’n dangos eich cyfeiriad i brofi cysylltiad lleol:
- bil trydan/nwy/dŵr y cartref neu ddatganiad ffôn symudol,
- bil treth gyngor / llythyr budd-dal tai,
- slip cyflog â chyfeiriad,
- datganiadau banc / cymdeithas adeiladu,
- budd-dal plant / lwfans ceisio gwaith / llyfr pensiwn,
- trwydded deledu,
- dogfennau cofrestru car,
- gohebiaeth oddi wrth un o adrannau’r Llywodraeth fel yr Adran Gwaith a Phensiynau, y GIG neu Fisâu a Mewnfudo y DU,
- llythyr gan goleg / ysgol,
- cytundeb tenantiaeth.
Os ydych wedi nodi bod ci gennych, bydd angen i chi ddarparu’r canlynol:
- rhif microsglodyn y ci.