Cynllun Byw yn y Gymuned newydd o’r radd flaenaf sy’n cynnig dull newydd o fyw yn ddiweddarach mewn bywyd, gan gyfuno annibyniaeth eich cartref eich hun gyda sicrwydd cymorth a chyfleusterau cymunedol ar y safle. Mae’r cynllun wedi’i ddatblygu gan Gyngor Caerdydd i ddarparu tai carbon isel o ansawdd uchel a fforddiadwy i breswylwyr hŷn, gan eu helpu i fyw’n annibynnol wrth i’w hanghenion newid dros amser. 

Mae 41 o fflatiau un a dwy ystafell wely cwbl hygyrch. 

Mae’r Cynllun Byw yn y Gymuned pwrpasol hwn yn darparu fflatiau hunangynhwysol o ansawdd uchel sydd wedi’u cynllunio gyda chysur, diogelwch, hygyrchedd a chymuned mewn golwg. Mae’r datblygiad hefyd yn cynnwys canolfan gymunedol amlswyddogaethol, gerddi wedi’u tirlunio, ac Ardal Chwaraeon Aml-ddefnydd (AChA) ar gyfer trigolion a’r gymuned ehangach. 

TG2
TG3
TG4

Mae’r Fflatiau hyn wedi’u cynllunio i gefnogi anghenion newidiol preswylwyr, gan alluogi pobl hŷn i fyw’n annibynnol gyda’r sicrwydd o wasanaethau cymorth a chyfleusterau cymunedol sydd ar gael pan fo angen. 

Mae pob fflat yn cynnwys:  

  • Ystafelloedd gwely cwbl hygyrch 
  • Mannau amwynder allanol preifat, e.e. balconi, ac ati 
  • Gwresogi o dan y llawr drwy’r fflat i gyd 
  • Mynediad i gyfleusterau i breswylwyr a rennir 
  • Mynediad i gyfleusterau cymunedol a mannau cyfarfod hyblyg o fewn yr hyb cymunedol cyfagos 
  • Technoleg carbon isel a systemau ynni clyfar wedi’u cynllunio i leihau costau rhedeg a chefnogi byw’n gynaliadwy 

Mae’r cynllun yn cynnig amgylchedd diogel, croesawgar a chefnogol, gan alluogi preswylwyr i fyw’n annibynnol tra’n elwa ar gyfleusterau ar y safle, gweithgareddau cymdeithasol rheolaidd, a gwasanaethau cymorth wrth law pan fo angen. 

Mae pob fflat yn hunangynhwysol ac mae ganddo ei ddrws ffrynt, cegin, ystafell fyw, ystafell wely ac ystafell ymolchi ei hun. Mwynhewch fannau a rennir gan gynnwys:   

  • Lolfa gymunedol i breswylwyr ymlacio, cymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgareddau 
  • Gweithgareddau cymdeithasu ac i breswylwyr o fewn mannau cymunedol a rennir 
  • Gerddi cymunedol wedi’u tirlunio 
  • Mannau cyfarfod hyblyg yn yr hyb cymunedol ar y safle 
  • Neuadd gymunedol fawr gyda chyfleusterau cegin ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau 
  • Ardal Chwaraeon Aml-ddefnydd (AChA) a chyfleusterau cymunedol ar gael fel rhan o’r datblygiad ehangach 
  • Lleoliad cymunedol ar y safle sy’n hyrwyddo annibyniaeth, lles a chysylltiad cymdeithasol 

Gall preswylwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol os ydynt yn dymuno. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys: 

  • Lolfa gymunedol 
  • Cymdeithasu a gweithgareddau preswyl 
  • Golchdy cymunedol 
  • Gardd gymunedol 
  • Cyfleusterau i westeion ar gyfer teulu a ffrindiau sy’n ymweld 
  • Gweithgareddau cymdeithasol rheolaidd 
  • Cyfleoedd lles yn y gymuned 

Mae yna lawer o amwynderau lleol, fel: 

  • Siopau lleol,   
  • Safle bws ger y cynllun, 
  • Meddygfa,  
  • Deintyddfa, 
  • Fferyllfa, 
  • Hyb Lleol, 
  • Asda,   
  • Lidl

Lleoliad