Mae Nelson House yn Butetown, Caerdydd ac mae’n cynnwys:
- 44 fflat un ystafell wely.
Mae gan y cynllun 15 llawr, fodd bynnag, mae’r llety i bobl hŷn yn rhedeg o’r llawr cyntaf i’r wythfed llawr. Mae’r fflatiau llawr uchaf yn gartrefi i deuluoedd. Mae rhai golygfeydd gwych ar draws canol y ddinas a Bae Caerdydd, sydd o fewn cyrraedd y cynllun a thaith gerdded fer neu ar fws o ganol tref Canol Caerdydd. Mae gardd fynediad wastad y tu ôl i’r adeilad, wedi’i chau ar gyfer preswylwyr, gyda pagoda i fwynhau’r haul.
Mae nifer o wasanaethau symudol yn ymweld â Nelson House yn rheolaidd, gan gynnwys:
- triniwr gwallt,
- gwasanaeth dosbarthu bwyd, a
- ‘siopau’ symudol sy’n darparu bwydydd, nwyddau cartref a dillad.
Mae rheolwr y cynllun ar gael yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener i gynnig cymorth a cyngor ar faterion o ddydd i ddydd ac i helpu mewn argyfwng. Mae gan bob fflat hefyd larwm yn gysylltiedig â Teleofal gan gynnig cymorth 24 awr a sicrwydd. Mae’r cynllun hefyd yn elwa o wasanaeth concierge 24 awr rhithwir sy’n cynnig sicrwydd ychwanegol i breswylwyr.



Er mwyn gwneud mynediad yn haws i bob tenant, mae gan Nelson House:
- fynediad gwastad a ramp,
- drysau mynediad awtomataidd,
- lifftiau (rhai gyda seddau) i’r lloriau uchaf,
- ardaloedd cymunedol hygyrch i gadeiriau olwyn,a
- rheiliau gafael.
Mae gan bob fflat yn Nelson House ei chegin a’i hystafell ymolchi ei hun. Mae cyfleusterau eraill yn cynnwys:
- lolfa gymunedol,
- cegin gymunedol,
- golchdy cymunedol,
- Storfa sgwteri
- gardd gymunedol, a
- swyddfa staff.
Gall preswylwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol os ydynt yn dymuno. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys:
- bingo,
- boreau coffi,
- teithiau dydd,
- rafflau,
- prynhawniau sinema,
- sesiynau crefft,
- cinio iach,
- boreau brecwast,
- gwasanaethau iechyd a lles,
- dosbarthiadau cryfder a chydbwysedd,
- defnyddio technoleg,
- garddio a llawer mwy!
Mae’r rhan fwyaf o’r gweithgareddau hyn yn cael eu cyflwyno’n rhad ac am ddim.
Mae llawer o gyfleusterau o fewn tua hanner milltir i Nelson House, megis:
- safle bws (o fewn 100 llath),
- siop leol (o fewn 200 llath),
- swyddfa bost (o fewn 200 llath),
- meddygfa (o fewn 100 llath),
- addoldai,
- Banc a Chymdeithas Adeiladu, a
- siop trin gwallt.