Wedi’i leoli mewn ffordd bengaead dawel, yn agos at goridor yr M4 a’r A48 yn Llaneirwg, mae Tŷ Broadlands yn cynnwys 33 eiddo hunangynhwysol, gan gynnwys:

  • 29 fflat un ystafell wely,
  • 1 fflat dwy ystafell wely,
  • 2 fyngalo un ystafell wely, ac
  • 1 byngalo dwy ystafell wely.

Mae gan Tŷ Broadlands ardd hyfryd, gyda seddi awyr agored. Mae lle i dyfu eich llysiau neu ffrwythau eich hun os ydych yn dda yn tyfu pethau.  Mae croeso i ffrindiau a theulu aros dros nos yn yr ystafell i westeion, sydd â gwely dwbl ac ensuite, am £10 y noson.

Mae rheolwr y cynllun ar gael yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener i gynnig cyngor ar faterion o ddydd i ddydd ac i helpu mewn argyfwng. Mae gan bob fflat hefyd larwm yn gysylltiedig â Teleofal gan gynnig cymorth 24 awr a sicrwydd pan nad yw rheolwr y cynllun ar y safle.

Broadlands House

Er mwyn gwneud mynediad yn haws i holl ddeiliaid contract, mae gan Tŷ Broadlands:

  • fynediad gwastad a ramp i mewn i’r cynllun,
  • lifft i’r lloriau uchaf,
  • lifft grisiau,
  • drysau mynediad awtomataidd,
  • ardaloedd cymunedol hygyrch i gadeiriau olwyn,
  • gardd hygyrch a,
  • rheiliau gafael

Mae Tŷ Broadlands yn gweithio tuag at achrediad gyda’r Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall ar gyfer safon golwg tai. Mae’r cynllun yn anelu at gyrraedd safon platinwm drwy:

  • ddatblygu gwybodaeth a sgiliau staff yn barhaus, a
  • chreu amgylcheddau cartref sy’n gwella ansawdd bywyd.

Mae gan bob fflat yng Tŷ Broadlands ei chegin a’i hystafell ymolchi ei hun. Mae cyfleusterau eraill yn cynnwys:

  • lolfa gymunedol
  • cegin gymunedol
  • golchdy cymunedol
  • lle i wefru a chadw sgwteri
  • llety i westeion
  • gardd gymunedol
  • swyddfa staff

Gall preswylwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol os ydynt yn dymuno. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys:

  • bingo,
  • boreau coffi,
  • teithiau dydd,
  • rafflau,
  • prynhawniau sinema,
  • sesiynau crefft,
  • cinio iach,
  • boreau brecwast,
  • gwasanaethau iechyd a lles,
  • dosbarthiadau cryfder a chydbwysedd,
  • defnyddio technoleg,
  • garddio a llawer mwy!

Mae’r rhan fwyaf o’r gweithgareddau hyn yn cael eu cyflwyno’n rhad ac am ddim.

Mae llu o amwynderau o fewn tua hanner milltir i Dŷ Broadlands, sy’n cynnwys:

  • Tesco Extra, ar draws y ffordd,
  • Safle bws y tu allan i’r cynllun,
  • Meddygfa,
  • Deintyddfa,
  • Fferyllfa,
  • Mannau addoli,
  • Llyfrgell,
  • Swyddfa bost,
  • Trin gwallt, a
  • Lawnt fowlio.

Lleoliad