Mae Tŷ Addison yn Nhredelerch, Caerdydd. Mae gan y cynllun 44 o fflatiau hunangynhwysol, gan gynnwys:
- 32 fflat un ystafell wely, a
- 12 fflat dwy ystafell wely.
Mae’r cynllun ar ben Heol Casnewydd, gyda golygfeydd ysblennydd dros Fôr Hafren i’r de a mynydd Caerffili i’r gogledd. Mae llawer o gyfleusterau lleol gerllaw. Mae gan y cynllun ddwy ystafell gymunedol wych, a gerddi hardd wedi’u tirlunio gyda phagoda ac ardal eistedd y tu allan. Mae teras to hefyd i fwynhau’r golygfeydd. Mae croeso i breswylwyr wahodd ffrindiau neu berthnasau i aros yn yr ystafell i westeion, sydd â dau wely sengl ac ensuite, y gellir ei harchebu am £10 y noson.
Mae rheolwr y cynllun ar gael yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener i gynnig cyngor ar faterion o ddydd i ddydd ac i helpu mewn argyfwng. Mae gan bob fflat hefyd larwm yn gysylltiedig â Teleofal gan gynnig cymorth 24 awr a sicrwydd pan nad yw rheolwr y cynllun ar y safle.

Er mwyn gwneud mynediad yn haws i’r holl ddeiliaid contract, mae gan Dŷ Addison:
- fynediad gwastad a ramp i mewn i’r cynllun,
- lifft i’r lloriau uchaf,
- drysau mynediad awtomataidd,
- fflatiau ac ardaloedd cymunedol hygyrch i gadeiriau olwyn,
- gardd hygyrch a,
- rheiliau gafael.
Mae Tŷ Addison wedi cael ei achredu gan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion am safon golwg tai. Mae’r cynllun wedi cyflawni safon platinwm:
- trwy ddatblygu gwybodaeth a sgiliau staff yn barhaus, a
- thrwy greu amgylcheddau cartref sy’n gwella ansawdd bywyd.
Mae gan bob fflat yn Nhŷ Addison ei chegin a’i hystafell ymolchi ei hun. Mae cyfleusterau eraill yn cynnwys:
- dwy lolfa gymunedol,
- cegin gymunedol,
- golchdy cymunedol,
- lle i wefru a chadw sgwteri,
- llety i westeion,
- gardd gymunedol, a
- swyddfa staff.
Mae yna lawer o gyfleusterau gerllaw Tŷ Addison, fel:
- siopau lleol,
- safle bws y tu allan i’r cynllun,
- meddygfa,
- deintyddfa,
- fferyllfa,
- mannau addoli,
- swyddfa’r post,
- siop trin gwallt, a
- banc a chymdeithas adeiladu.
Gweithgareddau cymdeithasol
Gall preswylwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol os ydynt yn dymuno. Mae rhai o’r gweithgareddau hefyd ar agor i aelodau o’r gymuned leol. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys:
Mae’r rhan fwyaf o’r gweithgareddau hyn yn cael eu cynnal am ddim.