Mae’n gynllun newydd o’r radd flaenaf sy’n cynnig dull newydd o fyw yn ddiweddarach mewn bywyd – gan gyfuno rhyddid eich cartref eich hun â sicrwydd o gymorth ar y safle.
Maent yn gwbl hunangynhwysol, wedi’u cynllunio i’r safonau uchaf o ran hygyrchedd ac effeithlonrwydd ynni — maent yn gyfforddus, yn fforddiadwy, ac yn ecogyfeillgar. Mae yna:
- 49 o unedau un ystafell wely
- 11 o unedau dwy ystafell wely
Mae’r cynllun Tai â Gofal pwrpasol hwn, sydd yng nghanol Llaneirwg, yn darparu fflatiau hunangynhwysol o ansawdd uchel sydd wedi’u cynllunio gyda chysur, diogelwch a chymuned mewn golwg.



Mae fflatiau wedi’u cynllunio’n benodol i addasu i anghenion newidiol preswylwyr
Mae pob fflat yn cynnwys:
- Ystafell(oedd) wely fawr
- Lolfa / ystafell fwyta / cegin cynllun agored
- Cawod mynediad isel
- Socedi a switshys golau hygyrch
- Gwresogi o dan y llawr drwy’r fflat i gyd
- Digon o le storio
Mae chwe lifft teithwyr cwbl hygyrch sy’n darparu mynediad i’r lloriau uchaf.
Mae pob fflat yn hunangynhwysol ac mae ganddo ei ddrws ffrynt, cegin, ystafell fyw, ystafell wely ac ystafell ymolchi ei hun. Mwynhewch fannau a rennir gan gynnwys:
- Dwy lolfa gymunedol
- Cegin Gymunedol
- Golchdy Cymunedol
- Balconïau preifat
- Swyddfa staff
- Ystafell i Westeion
- Gardd gymunedol hardd
- Mae ystafell gyfforddus i westeion ar gael
- am dâl bach, ynghyd ag
- ystafell wely ag ystafell ymolchi a chyfleusterau te/coffi.
Gall preswylwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol os ydynt yn dymuno. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys:
- Siop trin gwallt
- Ceiropodyddion
- Optegwyr
- Dosbarthiadau ymarfer corff
- Digwyddiadau cymdeithasol a gweithgareddau lles – clwb, sesiwn grefft, Tai Chi a llawer mwy i’r rheini sydd eisiau cymryd rhan. Mae rhai gweithgareddau yn cael eu darparu am ddim.
Mae yna lawer o amwynderau lleol, fel:
- Siopau lleol,
- Safle bws y tu allan i’r cynllun,
- Meddygfa,
- Deintyddfa,
- Fferyllfa,
- Hyb Llaneirwg,
- Canolfan Arddio Caerdydd, a
- Tesco.





