Wedi’i leoli rhwng Canol Dinas Caerdydd a Bae Caerdydd mewn rhan brysur a bywiog o Grangetown, mae gan gynllun Byw yn y Gymuned Llys Worcester 33 o fflatiau hunangynhwysol sy’n cynnwys:
- 5 fflat un ystafell,
- 27 fflat un ystafell wely, ac
- 1 fflat dwy ystafell wely.
Mae gan Worcester Court ardd hyfryd, sydd wedi ennill gwobrau am ei harddwch. Mae gan yr ardd hyfryd hon ardal eistedd ac ystafell wydr. Mae lle i dyfu eich llysiau neu ffrwythau eich hun os ydych yn dda yn tyfu pethau. Mae croeso i ffrindiau a theulu aros dros nos yn yr ystafell i westeion, sydd â gwely dwbl ac ensuite, am £10 y noson.
Mae rheolwr y cynllun ar gael yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener i gynnig cyngor ar faterion o ddydd i ddydd ac i helpu mewn argyfwng. Mae gan bob fflat hefyd larwm yn gysylltiedig â Teleofal gan gynnig cefnogaeth 24 awr a sicrwydd pan nad yw rheolwr y cynllun ar y safle.

Er mwyn gwneud mynediad yn haws i bob tenant, mae gan Worcester Court:
- mynediad gwastad a ramp i’r cynllun,
- lifft i’r lloriau uchaf,
- lifft grisiau,
- drysau mynediad awtomataidd
- ardaloedd cymunedol hygyrch i gadeiriau olwyn,
- gardd hygyrch a
- rheiliau cydio
Mae gan bob fflat yn Llys Worcester ei chegin a’i hystafell ymolchi ei hun. Mae cyfleusterau eraill yn cynnwys:
- Lolfa gymunedol
- Cegin gymunedol
- Golchdy cymunedol
- Lle i wefru a chadw sgwteri
- Llety i westeion
- Gardd gymunedol
- Swyddfa staff
Mae llawer o gyfleusterau o fewn tua hanner milltir i Llys Worcester, megis:
- Archfarchnad Asda,
- Parc Manwerthu Bae Caerdydd,
- siop leol,
- trafnidiaeth gyhoeddus,
- meddygfa,
- deintyddfa,
- mannau addoli,
- llyfrgell,
- swyddfa bost, a
- siop trin gwallt
Gweithgareddau mymdeithasol
Gall preswylwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol os ydynt yn dymuno. Mae rhai o’r gweithgareddau hefyd ar agor i aelodau o’r gymuned leol. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys:
Mae’r rhan fwyaf o’r gweithgareddau hyn yn cael eu cyflwyno’n rhad ac am ddim.