Wedi’i leoli mewn ffordd bengaead dawel, mae Llys Sandown yng Nghaerau, Caerdydd. Mae’r cynllun yn cynnwys 31 o fflatiau, sy’n cynnwys:
- 24 o fflatiau un ystafell wely, a
- 7 o fflatiau dwy ystafell wely.
Mae gan Llys Sandown ardd brydferth, sydd â phwll pysgod a phagoda i chi eu mwynhau. Mae lle i dyfu eich llysiau neu ffrwythau eich hun os ydych yn dda yn tyfu pethau. Mae croeso i ffrindiau a theulu aros dros nos yn yr ystafell i westeion, sydd â gwely dwbl ac ensuite, am £10 y noson.
Mae rheolwr y cynllun ar gael yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener i gynnig cyngor ar faterion o ddydd i ddydd ac i helpu mewn argyfwng. Mae gan bob fflat hefyd larwm yn gysylltiedig â Teleofal gan gynnig cefnogaeth 24 awr a sicrwydd pan nad yw rheolwr y cynllun ar y safle.


Er mwyn gwneud mynediad yn haws i holl ddeiliaid contract, mae gan Llys Sandown:
- fynediad gwastad a ramp i mewn i’r cynllun,
- lifft i’r lloriau uchaf,
- lifft grisiau,
- drysau mynediad awtomataidd,
- ardaloedd cymunedol hygyrch i gadeiriau olwyn,
- gardd hygyrch a
- rheiliau gafael
Mae Llys Sandown wedi’i achredu’n llawn gan y Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall ar gyfer safon golwg tai sy’n cyrraedd safon platinwm trwy ddatblygu gwybodaeth a sgiliau staff yn barhaus, a thrwy greu amgylcheddau cartref sy’n gwella ansawdd bywyd.
Mae gan bob fflat yn Llys Sandown ei chegin a’i hystafell ymolchi ei hun. Mae cyfleusterau eraill yn cynnwys:
- Dwy lolfa gymunedol,
- cegin gymunedol,
- golchdy cymunedol,
- lle i wefru a chadw sgwteri,
- llety i westeion,
- gardd gymunedol, a
- swyddfa staff.
Mae llawer o gyfleusterau o fewn tua hanner milltir i Llys Sandown, megis:
- siopau lleol,
- safle bws (rownd y gornel),
- meddygfa,
- deintyddfa,
- addoldai,
- llyfrgell symudol (yn dod yn wythnosol,
- swyddfa’r post,
- siop trin gwallt (mae siop trin gwallt symudol hefyd yn ymweld â Llys Sandown bob wythnos),
- swyddfa dai, a
- chanolfannau ddydd.
Gweithgareddau mymdeithasol
Gall preswylwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol os ydynt yn dymuno. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys:
Mae’r rhan fwyaf o’r gweithgareddau hyn yn cael eu cyflwyno’n rhad ac am ddim.