Mae Llys Brentwood yn Llanisien, Caerdydd. Mae gan y cynllun 35 o fflatiau hunangynhwysol, gan gynnwys:

  • 5 o fflatiau un ystafell,
  • 29 o fflatiau un ystafell wely, ac
  • 1 fflat dwy ystafell wely.

Mae’r cynllun yn agos at lawer o gyfleusterau lleol. Mae ganddo ddwy ystafell gymunedol wych, ac ystafell dawel lle gallwch ddarllen llyfr neu wrando ar gerddoriaeth. Ceir gerddi dymunol gyda phatio ac ardal eistedd y tu allan. Mae croeso i breswylwyr wahodd ffrindiau neu berthnasau i aros yn yr ystafell i westeion, sydd a dau wely seng ac ensuite, y gellir ei harchebu am £10 y noson.

Mae rheolwr y cynllun ar gael yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener i gynnig cyngor ar faterion o ddydd i ddydd ac i helpu mewn argyfwng. Mae gan bob fflat hefyd larwm yn gysylltiedig â Teleofal gan gynnig cefnogaeth 24 awr a sicrwydd pan nad yw rheolwr y cynllun ar y safle.

Brentwood Court

Er mwyn gwneud mynediad yn haws i holl ddeiliaid y contract, mae gan Llys Brentwood:

  • fynediad gwastad a ramp i mewn i’r cynllun,
  • lifft i’r lloriau uchaf,
  • lifft grisiau,
  • drysau mynediad awtomataidd,
  • ardaloedd cymunedol hygyrch i gadeiriau olwyn,
  • gardd hygyrch a
  • rheiliau gafael.

Mae Llys Brentwood yn gweithio tuag at achrediad gyda’r Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall ar gyfer safon golwg tai. Mae’r cynllun yn anelu at gyrraedd safon platinwm drwy:

  • ddatblygu gwybodaeth a sgiliau staff yn barhaus, a
  • creu amgylcheddau cartref sy’n gwella ansawdd bywyd.

Mae gan bob fflat yn Llys Brentwood ei chegin a’i hystafell ymolchi ei hun. Mae cyfleusterau eraill yn cynnwys:

  • Dwy lolfa gymunedol
  • cegin gymunedol
  • golchdy cymunedol
  • lle i wefru a chadw sgwteri
  • llety i westeion
  • gardd gymunedol
  • swyddfa staff

Gall preswylwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol os ydynt yn dymuno. Mae rhai o’r gweithgareddau hefyd ar agor i aelodau o’r gymuned leol. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys:

  • bingo,
  • boreau coffi,
  • teithiau dydd,
  • rafflau,
  • prynhawniau sinema,
  • sesiynau crefft,
  • cinio iach,
  • boreau brecwast,
  • gwasanaethau iechyd a lles,
  • dosbarthiadau cryfder a chydbwysedd,
  • defnyddio technoleg,
  • garddio a llawer mwy!

Mae’r rhan fwyaf o’r gweithgareddau hyn yn cael eu cyflwyno’n rhad ac am ddim.

Mae llawer o gyfleusterau o fewn tua hanner milltir i Llys Brentwood, megis:

  • siopau lleol,
  • safle bws y tu allan i’r cynllun,
  • meddygfa,
  • deintyddfa,
  • fferyllfa,
  • mannau addoli,
  • swyddfa’r post,
  • siop trin gwallt, a
  • banc a chymdeithas adeiladu.

Lleoliad