
Yn dibynnu ar eich math o gontract meddiannaeth (cytundeb tenantiaeth), efallai y bydd opsiynau gwahanol ar gael i chi o ran cael mynediad at lety mwy priodol. Fodd bynnag, mae’r rhestr aros ar gyfer tai cymdeithasol yn hir iawn ac ar hyn o bryd mae dros 8,000 o bobl ar y rhestr aros am dai cymdeithasol.
Os nad yw eich eiddo’n ddigon mawr ar gyfer anghenion eich teulu yna mae’n bosib y gallwch gael cymorth gan y Gwasanaethau Cynghori ar Dai.
Byddwn yn cwblhau asesiad o’ch cartref i weld a ydych yn orlawn yn statudol. Os ydych chi, yna byddwn yn eich helpu i chwilio am lety arall yn y sector rhentu preifat. Byddwn hefyd yn cwblhau asesiad ariannol ac anghenion i sicrhau bod y llety arall yn addas ac yn fforddiadwy i chi.
Os yw eich eiddo mewn cyflwr gwael
Os yw eich eiddo mewn cyflwr gwael, mae angen i chi ddweud wrth eich landlord neu asiant. Dylech geisio cysylltu â nhw trwy neges destun neu e-bost fel bod gennych gofnod.
Mae ganddyn nhw gyfrifoldeb i wneud yn siŵr bod yr eiddo’n cyrraedd safonau penodol, ac mae’n debygol y byddan nhw am wybod am unrhyw beth neu bethau sydd angen eu trwsio cyn gynted â phosibl.
Os ydych yn cael trafferth datrys y mater, gallwch gysylltu â’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir a fydd yn cwblhau archwiliad o’ch eiddo ac yn dweud wrthych pa gamau y gallent eu rhoi ar waith ar eich rhan. Gallwch hefyd gysylltu â’r Gwasanaethau Cynghori ar Dai sy’n gallu cynnig cyngor a chefnogaeth ynghylch cyflwr gwael. Byddwn yn gallu cysylltu â’ch landlord a’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir i gasglu’r holl wybodaeth berthnasol a helpu i ddod o hyd i’r ateb mwyaf priodol.
Os yw’ch eiddo yn anaddas oherwydd anghenion meddygol
Os yw’ch eiddo yn anaddas oherwydd anghenion meddygol, efallai y gallwch gael help gan ein Tîm Atal. Byddwn yn cwblhau asesiad o’ch cartref a’ch anghenion meddygol i weld a oes angen unrhyw addasiadau arnoch yn eich cartref presennol neu a oes angen llety arbenigol arnoch.
Byddwn yn ystyried a allwn eich helpu i wneud addasiadau yn eich cartref presennol. Os nad oes modd gwneud hynny, byddwn yn eich helpu i chwilio am lety arall yn y sector rhentu preifat.
Os nad yw’ch eiddo’n ddigon mawr ar gyfer anghenion eich teulu ac os ydych yn ddeiliaid contract (tenant) gyda chymdeithas dai, yna mae angen i chi siarad â’ch swyddog tai. Byddant yn eich helpu gyda chais ar gyfer y rhestr trosglwyddo tai.
Os yw’ch eiddo’n un sydd angen atgyweiriadau, bydd angen i chi hysbysu eich cymdeithas dai.
Os yw eich eiddo’n anaddas oherwydd anghenion meddygol ac rydych yn ddeiliaid contract gyda chymdeithas dai, mae angen i chi siarad â’ch swyddog tai. Byddant yn gallu eich helpu gydag addasiadau i’ch llety presennol. Os nad yw hyn yn bosibl, byddant yn eich helpu i wneud cais i drosglwyddo.
Os ydych wedi bod yn ddeiliaid contract ers dros flwyddyn ac os oes gennych Gontract Meddiannaeth diogel, gallwch gofrestru gyda Homeswapper i gyfnewid.
Os byddwch yn dewis cysylltu â’r Gwasanaethau Cynghori ar Dai am help, ein cymorth fyddai chwilio am lety rhent preifat. Rydych yn debygol o golli’r hawliau contract meddiannaeth diogel sydd gennych ar hyn o bryd gyda’r gymdeithas dai.
Mae’n bwysig eich bod chi’n dechrau’r broses hon mor gynnar â phosibl fel y gall eich swyddog tai wneud yr ymholiadau hyn a’ch helpu i ddod o hyd i ateb.
Os nad yw eich eiddo yn ddigon mawr ar gyfer anghenion eich teulu a’ch bod yn ddeiliad contract (tenant) Cyngor Caerdydd, gallwch ofyn am drosglwyddiad tai drwy:
- ffonio 029 2053 7111
- e-bostio ymholiadautai@caerdydd.gov.uk,
- neu ymweld â Hyb.
Os yw’ch eiddo mewn cyflwr gwael, rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda.
Os ydych yn ddeiliad contract y cyngor a’ch eiddo yn anaddas oherwydd anghenion meddygol, bydd angen i chi gysylltu â Rheoli Tenantiaeth drwy e-bostio RheoliTenantiaethau@caerdydd.gov.uk.
Os ydych wedi bod yn ddeiliaid contract ers dros flwyddyn ac os oes gennych Gontract Meddiannaeth diogel, gallwch gofrestru gyda Homeswapper i gyfnewid.
Os byddwch yn dewis cysylltu â’r Gwasanaethau Cynghori ar Dai am help, ein cymorth fyddai chwilio am lety rhent preifat. Rydych yn debygol o golli’r hawliau contract meddiannaeth diogel sydd gennych ar hyn o bryd gyda’r cyngor.
Mae’n bwysig eich bod chi’n dechrau’r broses hon mor gynnar â phosibl fel y gall eich swyddog tai wneud yr ymholiadau hyn a’ch helpu i ddod o hyd i ateb.
Os yw’ch eiddo yn anaddas oherwydd ei fod yn rhy fawr
Os ydych yn cael trafferth gyda’r rhent, biliau cyfleustodau, neu waith cynnal a chadw’r ardd oherwydd eich bod yn byw mewn tŷ sy’n rhy fawr ar gyfer eich anghenion, gallwch gysylltu â’n Cydlynydd Maint Cywir a all eich helpu i edrych ar eiddo addas.
Gallant helpu gydag unrhyw broblemau rydych chi’n eu cael wrth ddod o hyd i eiddo o faint gwahanol a gallant weld pa gymhellion sydd ar gael i’ch helpu i symud. I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch SLUYmweld@caerdydd.gov.uk neu ffoniwch 029 2053 7522.