Cael gwybod am lety dros dro.
Rwy’n ddigartref ac mae angen llety dros dro arnaf
Byddwn yn dod o hyd i lety brys i chi a’ch aelwyd, os ydych:
- yn cael eich asesu yn ddigartref,
- mewn angen â blaenoriaeth, ac
- yn gymwys i gael cymorth tai
Os ydych mewn perygl o fod yn ddigartref, cysylltwch â’n Tîm Atal Digartrefedd i atal yr angen am lety brys.
Pryd y cysylltir â mi am leoliad?
Ar hyn o bryd rydym yn profi galw digynsail am lety dros dro. Gall hyn effeithio ar ba mor gyflym y gallwn eich rhoi mewn llety. Fodd bynnag, byddwn yn sicrhau y cysylltir â chi a’ch lleoli cyn i chi fynd yn ddigartref ar y stryd.
Sut le fydd fy llety dros dro?
Yn anffodus, mae’r galw am gyflenwad tai a llety dros dro yng Nghaerdydd yn anhygoel o uchel. Efallai na fyddwn yn gallu dweud wrthych ymlaen llaw lle y cewch eich rhoi oherwydd pwysau’r galw.
Ar hyn o bryd rydym yn defnyddio dewis eang o lety ac mae cynnig o lety brys yn debygol o fod mewn llety tebyg i westy.
Yn dibynnu ar eich anghenion, efallai y byddwn yn eich rhoi mewn hostel neu lety â chymorth.
Rydym yn gweithio gyda phob teulu i geisio dod o hyd i dai mewn ardal sy’n addas ar eu cyfer. Nid yw hyn bob amser yn bosibl oherwydd prinder difrifol o lety. Fodd bynnag, byddwn bob amser yn sicrhau nad ydych mewn ardal o risg.
Am ba hyd y byddaf mewn llety dros dro?
Gall teuluoedd dreulio cyfnodau hir mewn llety dros dro oherwydd prinder llety addas.
Bydd faint o amser rydych chi’n ei dreulio mewn llety dros dro yn dibynnu ar bethau fel:
- y math o dai sydd eu hangen arnoch, ac
- unrhyw addasiadau y gallai fod eu hangen arnoch.
Cofiwch y gall unrhyw gynnig o lety parhaol fod yn dai cymdeithasol neu lety rhent preifat.
Rydym yn argymell eich bod yn chwilio am eich llety rhent preifat eich hun cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn golygu bod gennych gymaint o ddewis â phosibl ynghylch ble rydych chi am fyw.
Byddwn yn hapus i’ch helpu gyda thaliad bond a rhent ymlaen llaw ar gyfer eiddo. Gallwn hefyd eich helpu i chwilio am lety.
Storio
Os oes gennych eitemau na allwch fynd â nhw gyda chi, byddai’n syniad da dechrau meddwl a all ffrindiau neu deulu eich helpu gyda’ch eiddo. Gallech ofyn a oes gan unrhyw un ystafell sbâr neu garej i ddiogelu eich eitemau.
Os na all unrhyw un helpu, efallai y gallwn eich helpu i storio eich eiddo. Fodd bynnag, codir tâl arnoch am unrhyw gost a gaiff ei godi. Gall costau storio fod yn uchel iawn, ar gyfartaledd tua £50 yr wythnos, felly mae angen i chi ystyried y costau hyn cyn storio eitemau.
Beth sy’n digwydd os ydw i’n cael fy nhroi allan o lety dros dro?
Mae’n bosib y cewch eich troi allan o lety dros dro oherwydd:
- eich bod wedi torri amod yn eich cytundeb trwydded,
- nid oes dyletswydd gennym mwyach i’ch helpu, neu
- rydych wedi gwrthod cynnig o lety addas.
Yn dibynnu ar eich sefyllfa, efallai y bydd ein tîm LLETY yn dal i allu eich helpu i ddod o hyd i lety arall. Cael gwybod mwy am LLETY.
Os oes gennych blant dibynnol, efallai y cewch eich cyfeirio hefyd at ein hadran Gwasanaethau Plant os ydych chi a’ch teulu mewn perygl o ddigartrefedd ar y stryd.