Gallwn ddarparu cymorth a chefnogaeth os ydych yn ddigartref.

Os ydych yn ddigartref, gallwch gael help gan Hybiau ar draws y ddinas neu drwy gysylltu â ni.

Ffôn: 029 2057 0750

E-bost:  CanolfanOpsiynauTai@caerdydd.gov.uk

Byddwn yn cynnal asesiad ac yn rhoi cyngor i chi ar yr hyn i’w wneud nesaf.

Mae’r gwasanaeth yn gweithredu:

  • 9am i 4:30pm ar ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Gwener
  • 10am i 4:30pm ar ddydd Mercher a ddydd Iau

Cam-drin domestig

Os ydych mewn perygl uniongyrchol mae’n rhaid i chi ffonio 999.

Os oes angen i chi adael eich cartref oherwydd cam-drin domestig, dylech gysylltu â RISE i ddechrau, sydd yn sefydliad trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol arbenigol. Maen nhw yn cynnig cyngor diogelwch, arweiniad a lloches i fenywod sy’n profi neu mewn perygl o gam-drin domestig.

Hefyd gallwch ffonio RISE ar 029 2046 0566.

Gallwch hefyd ffonio Llinell Gymorth Cymru Gyfan ar 0808 801 0800.

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gallai RISE eich atgyfeirio at y Gwasanaeth Cyngor ar Dai. Gallwn gynnig cefnogaeth, fel:

  • cyngor ar eich hawliau tenantiaeth,
  • trafod mesurau diogelwch, ac
  • o bosibl cynnig llety tymor byr brys ac atebion tai mwy parhaol.

Byddwn yn trin pob datgeliad am gam-drin domestig mewn modd cyfrinachol a sensitif.

Bydd unrhyw wybodaeth amdanoch chi a’ch lleoliad yn cael ei chadw’n hollol gyfrinachol.

Cefnogaeth i ddynion sy’n dioddef cam-drin domestig

Mae cymorth ar gael i ddynion sy’n dioddef cam-drin domestig gan bartner. Mae Prosiect Dyn yn rhoi cymorth cyfrinachol i ddynion a bydd yn helpu i ddod o hyd i wasanaethau lleol yn eu hardal.

Gallwch gysylltu â Llinell Gymorth Dyn Cymru am gymorth a chyngor.

Ffôn: 0808 801 0321

E-bost: dyn@saferwales.com

Am gymorth 24 awr, ffoniwch y Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 801 0800.

Cysgu ar soffas

Os ydych yn cysgu ar soffas yn nhai ffrindiau a theulu, cysylltwch â ni. Gallwn roi cyngor i chi a’ch helpu i ddod o hyd i lety tymor hwy.

Mae’n bosib y gallwn eich cefnogi i mewn i lety rhent preifat addas.

Ffôn: 029 2057 0750

E-bost: datrysiadautai@caerdydd.gov.uk

Cysgu ar y stryd

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau nad oes rhaid i neb sy’n cysgu ar y stryd dreulio ail noson ar y stryd.

Os nad oes gennych unrhyw le i aros heno, gallwch ffonio’r Tîm Allgymorth wedi’i Dargedu. Maen nhw’n gweithredu bob dydd rhwng 7am a 9pm.

Ffôn: 029 2057 0715

Os ydych chi’n chwilio am lety brys y tu allan i’r oriau hyn, gallwch fynd i Tŷ Clyd, Canolfan Opsiynau Tai (blaenorol), Hansen Street, Ffordd Tresillian, Caerdydd.

Cael cymorth pan fyddwch mewn llety

Os byddwch yn cael llety ac angen mwy o gefnogaeth, gallwn ddarparu amrywiaeth o wasanaethau, gan gynnwys:

  • cymorth gyda chamddefnyddio sylweddau,
  • cymorth iechyd meddwl,
  • nyrs,
  • cwnsela,
  • eiriolwyr digartrefedd sy’n gallu helpu gyda materion cyfreithiol, a
  • mentor-gyfoedion. Mae’r bobl hyn wedi cael profiadau tebyg a gallan nhw gynnig cymorth a chefnogaeth.

Ein partneriaid

Wrth ddarparu gwasanaethau mewnol, rydym hefyd yn cydweithio â sawl partner sy’n helpu pobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref neu sy’n cysgu ar y stryd ar hyn o bryd.

Gwasanaeth Datrysiadau

Mae’r Gwasanaeth Datrysiadau yn cefnogi pobl sy’n cysgu ar y stryd sydd yn 18 oed neu’n hŷn yng Nghaerdydd. Gallan nhw helpu gyda:

  • tai,
  • budd-daliadau lles, a
  • mynediad at ofal iechyd.

Gallwch gysylltu â nhw o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm.

Ffôn: 029 2066 8464

Cymuned Wallich Clifford

1a Stryd Pendyris
Caerdydd
CF11 6RJ

Nid oes angen apwyntiad arnoch chi.

Gwasanaeth Ailgysylltu

Nod y Gwasanaeth Ailgysylltu yw lleihau nifer y bobl sy’n teithio rhwng ardaloedd i gysgu ar y stryd ac osgoi parhau digartrefedd ar y stryd.

Gallwch gysylltu â nhw o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 4.30pm, a dydd Gwener, 9am i 4pm.

Ffôn: 029 2057 0704

E-bostiwch: Ailgysylltu@caerdydd.gov.uk

Hyb y Llyfrgell Ganolog
Yr Aes
Caerdydd
CF10 1FL

Nid oes angen apwyntiad arnoch chi.

Bugeiliaid y Stryd

Mae bugeiliaid y stryd ar strydoedd Caerdydd bob dydd yn ymgysylltu â phobl sy’n cysgu ar y stryd neu sy’n wynebu risg o fod yn ddigartref. Maen nhw’n gweithio ar draws y ddinas ac yn gallu helpu gyda:

  • o dod o hyd i lety addas,
  • o cyrchu hosteli a dillad, a
  • o rhoi cyngor ar iechyd, budd-daliadau a thai.

Gall bugeiliaid y stryd hefyd fynd gyda chleientiaid i apwyntiadau a chyfweliadau os oes angen.

Mae bugeiliaid y stryd yn gweithio bob nos Wener a nos Sadwrn rhwng 10pm a 4am yng nghanol y ddinas.

Ffôn: 07765 112 400

E-bost: info@streetpastors.org.uk

Hefyd yn yr adran hon