Os ydych mewn perygl o fod yn ddigartref neu’n ddigartref nawr, rydym yn cynnig cyngor a chymorth i’ch helpu naill ai i gynnal eich llety presennol, neu lle nad yw hynny’n bosibl, i sicrhau llety arall.

Os nad ydych yn gymwys i gael ein gwasanaethau gallwn barhau i roi cyngor a’ch cyfeirio at sefydliadau a allai eich cefnogi.

Pryd i gysylltu â ni

Os ydych dan fygythiad o ddigartrefedd neu’n ddigartref nawr, cysylltwch â ni cyn gynted ag y gallwch.

Os ydych yn credu eich bod mewn perygl o golli eich cartref, dylech gysylltu â ni cyn gynted ag y gallwch. Bydd hyn yn rhoi mwy o amser i’ch atal rhag mynd yn ddigartref neu eich helpu i ddod o hyd i rywle arall i fyw.

Ar ôl i chi gysylltu â ni, bydd aelod o’n tîm yn gofyn i chi am eich sefyllfa, yn cynnig cyngor priodol ac yn egluro eich opsiynau.  Gall hyn olygu galwad ffôn neu apwyntiad wyneb yn wyneb mewn hyb cymunedol gyda’n tîm tai arbenigol.

Ffôn: 029 2057 0750

E-bost: datrysiadautai@caerdydd.gov.uk

Ein cyfrifoldebau

Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn nodi’r help rydym yn ei gynnig i drigolion cymwys sy’n ddigartref neu sydd dan fygythiad o ddigartrefedd.

Dan y Ddeddf hon mae’n rhaid i ni:

  • Roi cyngor a chymorth i unrhyw un sydd dan fygythiad o ddigartrefedd o fewn 56 diwrnod.
  • Gwneud gwaith atal i gynorthwyo pobl i aros yn eu cartref presennol lle bo hynny’n bosibl
  • Cynnig i bawb sy’n ddigartref neu sydd mewn perygl o fynd yn ddigartref fynediad at help ystyrlon, waeth beth yw eu statws angen â blaenoriaeth, cyn belled â’u bod yn gymwys i gael cymorth.

Yn anffodus, nid pawb sy’n gymwys i gael help dan y ddeddf, er enghraifft, oherwydd statws mewnfudo.

Beth sy’n digwydd yn yr apwyntiad?

Os ydych mewn perygl o golli eich cartref, byddwn yn trefnu i chi gael apwyntiad gydag aelod o’n tîm

Sut i baratoi ar gyfer eich apwyntiad

Byddwch yn cael e-bost neu lythyr yn dweud wrthych am ddyddiad, amser a lleoliad eich apwyntiad, bydd angen i ni eich gweld wyneb yn wyneb er mwyn i ni allu rhoi’r cymorth gorau y gallwn. Bydd angen i chi roi rhywfaint o wybodaeth sydd fel arfer yn cynnwys:

  • Prawf o bwy ydych chi ac unrhyw un arall sy’n byw gyda chi
  • Prawf o’ch incwm neu eich budd-daliadau
  • Prawf o unrhyw gyflyrau meddygol
  • Manylion cyswllt eich landlord neu’r gwaharddwr (y person sydd wedi gofyn i chi adael)
  • Copi o unrhyw hysbysiad i ymadael
  • Contract Meddiannaeth (cytundeb tenantiaeth)
  • Dogfennau llys
  • Llythyr ôl-ddyledion
  • Gwybodaeth ariannol

Efallai y bydd angen i ni fynd trwy asesiad ariannol gyda chi, felly byddai’n ddefnyddiol gwybod faint rydych yn ei wario ar fwydydd, cyfleustodau, contractau ffôn, treth gyngor, ac ati.

Gallwch hefyd roi gwybodaeth drwy e-bostio datrysiadautai@caerdydd.gov.uk neu drwy fynd i’ch Hyb lleol.

Yn eich apwyntiad

Byddwn yn mynd drwy’r holl wybodaeth ac yn trafod eich amgylchiadau presennol ac yn asesu eich angen tai.  Os ydych dan fygythiad o ddigartrefedd ac yn gymwys i gael cymorth (a elwir yn Ddyletswydd Atal Digartref – a66) byddwn yn gweithio gyda chi i gymryd pob cam rhesymol i atal digartrefedd rhag digwydd. Bydd hyn naill ai drwy gadw’ch cartref presennol neu drwy ddod o hyd i lety arall sydd fel arfer yn y sector rhent preifat.

Bydd disgwyl i chi weithio gyda ni i gytuno ar gamau rhesymol a chreu cynllun tai gyda’n gilydd.

Hefyd yn yr adran hon