
Darganfyddwch beth allwch chi ei wneud os ydych chi wedi derbyn rhybudd neu os ydych yn poeni am gael rhybudd.
Os ydych yn rhentu gan landlord neu asiant preifat mae yna reolau y bydd yn rhaid iddynt eu dilyn i roi rhybudd cyfreithiol a dilys i chi. Mae’r rheolau hyn yn berthnasol i Gymru yn unig ac mae gan ardaloedd eraill reolau gwahanol. Mae’r rheolau’n cynnwys:
- Ni allant ofyn i chi adael eich cartref heb roi o leiaf 6 mis o rybudd i chi. Darganfyddwch fwy gan Shelter Cymru.
- Rhaid i’r asiant neu’r landlord fod wedi ei gofrestru a’i drwyddedu gyda Rhentu Doeth Cymru
- Os cymerwyd blaendal, rhaid iddo fod mewn cynllun diogelu blaendal.
Mae yna reolau gwahanol sy’n berthnasol os ydych chi’n torri amodau eich contract. Ewch i wefan Shelter Cymru i gael cyngor ar rybuddion.
Os ydych wedi cael rhybudd i ymadael gan eich landlord neu asiant preifat, cysylltwch â’r Llinell Cyngor ar Dai ar 029 20570 750 cyn gynted â phosibl. Gallwch hefyd siarad â Shelter Cymru am gyngor. Peidiwch â rhoi eich allweddi yn ôl na symud allan heb siarad â’r gwasanaeth dewisiadau tai yn gyntaf. Os byddwch yn symud allan gyntaf, gall yr help y gallwn ei gynnig fod yn gyfyngedig.
Os yw’r dyddiad ar yr hysbysiad wedi mynd heibio, mae gennych yr hawl i aros yn yr eiddo hyd nes y bydd y landlord yn gwneud cais i’r llys i’ch troi allan. Peidiwch â rhoi eich allweddi yn ôl i’r landlord na symud allan. Byddwch yn parhau i fod yn atebol i dalu eich rhent felly mae’n rhaid i chi barhau i wneud hynny. Os nad ydych yn talu eich rhent, neu os byddwch yn ildio eich contract meddiannaeth, gall yr help y gallwn ei gynnig fod yn gyfyngedig.
Os ydych yn ddeiliad contract cymdeithas dai, mae angen i chi siarad â’ch swyddog tenantiaeth. Edrychwch ar y rhestr o Gymdeithasau Tai yng Nghaerdydd.
Os ydych eisiau herio’r rheswm dros eich troi allan, siaradwch â Shelter Cymru am gyngor cyfreithiol annibynnol.
Os ydych yn yn profi anawsterau ariannol, siaradwch â’ch swyddog tenantiaeth gan y gallai fod gan eich landlord dîm cyngor ariannol penodol. Os oes angen cymorth arnoch o hyd, gallwch gysylltu â’n Tîm Cyngor Ariannol ar 029 2087 1071 neu e-bostio hybcynghori@caerdydd.gov.uk.
Os ydych yn ddeiliad contract Cyngor Caerdydd, yna bydd angen i chi siarad â’ch swyddog tenantiaeth.
Os oes gennych ôl-ddyledion rhent, rhaid i chi siarad â swyddog cyllid ar 029 2053 7350. Efallai y gallwn ni eich helpu.
Darganfyddwch fwy am y ffordd y gallwn eich helpu gyda’ch arian.
Os ydych yn cael eich troi allan am reswm arall, siaradwch â Shelter Cymru am gyngor cyfreithiol annibynnol.
Os ydych wedi derbyn rhybudd sy’n ceisio meddiant oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol, rydym yn eich cynghori’n gryf i:
- gysylltu â’r Ganolfan Dewisiadau Tai ar 029 20 570750, neu
- siaradwch â Shelter Cymru am gyngor cyfreithiol annibynnol.
Byddwch yn cael cyfle i amddiffyn unrhyw honiadau a wnaed yn eich erbyn yn y llys.
Os oes gennych gontract meddiannaeth cyfnod penodol sydd wedi dod i ben a’ch bod yn parhau i fyw yn eich eiddo, bydd eich contract meddiannaeth yn troi yn un cyfnodol yn awtomatig. Mae hyn yn golygu y gallwch barhau i fyw yn eich eiddo. Os yw eich landlord yn dymuno dod â’ch contract meddiannaeth i ben, bydd angen iddynt roi rhybudd i ymadael dilys i chi. Ewch i wefan Shelter Cymru i gael cyngor ar rybuddion.
Os nad ydych wedi cael rhybudd i ymadael, nid oes rhaid i chi adael eich eiddo. Os yw eich landlord yn dweud bod angen i chi adael heb roi’r rhybudd cywir, cysylltwch â’r Ganolfan Dewisiadau Tai ar 029 2057 0750.
Os ydych yn byw gyda’ch teulu neu ffrind, gallwn gynnig cymorth gyda chyfryngu a gwneud popeth y gallwn i weld a allwch aros lle’r ydych chi. Os nad yw hyn yn bosibl, byddwn yn gweithio gyda chi a’r person yr ydych yn aros gyda nhw i’ch helpu i symud ymlaen. Mae hyn yn debygol iawn o fod i lety rhent preifat. Byddwn angen o leiaf 28 diwrnod o rybudd gan eich teulu neu ffrind.
Cofiwch, os ydych yn byw gydag aelod o’r teulu neu ffrind fel rhan o gontract meddiannaeth ar y cyd, bydd gennych hawliau meddiannaeth gwahanol ac rydym yn argymell eich bod yn siarad â Shelter Cymru am gyngor annibynnol neu’n cysylltu â’r Ganolfan Dewisiadau Tai ar 029 2057 0750.
Mae gennym lwybr carchar i mewn i’r gwasanaeth, siaradwch â’ch swyddog ailsefydlu neu swyddog prawf.
Os ydych wedi cael eich rhyddhau o’r carchar yng Nghymru, dylech fod wedi cwblhau cais tai gyda’r tîm ailsefydlu. Os cwblhawyd hyn, yna bydd angen i chi ein ffonio ar eich diwrnod rhyddhau i ddarganfod manylion eich lleoliad.
Os nad ydych wedi cael eich rhyddhau, ewch i wefan Shelter Cymru am wybodaeth carchardai.
Os ydych yn byw mewn llety yr ydych yn berchen arno gyda’ch partner a’u bod yn gofyn i chi adael, bydd angen i chi gael cyngor cyfreithiol annibynnol ar eich hawliau. Efallai y byddwch yn dal i fod yn atebol am gostau fel:
- y morgais,
- y dreth gyngor, neu
- biliau’r cartref.
Os ydych yn byw mewn llety nad ydych yn ei rentu neu’n berchen arno’n llawn neu’n rhannol, efallai y gallwn eich helpu i gael llety arall yn y sector rhentu preifat. Gallwch gysylltu â’r Ganolfan Dewisiadau Tai ar 029 20 57 0750.
Mae gwybodaeth am ffoi trais ar wefan RISE.
Gallwch hefyd gael cymorth a chyngor am drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol gan Byw Heb Ofn.
Os ydych yn berchen ar eich cartref eich hun ac yn cael anhawster yn talu’r morgais, mae’n bosibl y bydd y tîm morgeisi a dyledion yn gallu eich helpu. Gallwch gysylltu â nhw ar029 2057 0750 neu e-bostio datrysiadautai@caerdydd.gov.uk.
Bydd angen i ni weld:
- eich cyfriflenni banc am y 3 mis diwethaf,
- unrhyw filiau sydd heb eu talu,
- eich cyfriflen morgais ddiweddaraf, a
- manylion unrhyw ddyledion eraill.
Os ydych wedi cael rhybudd o adfeddiannu gan ddarparwr eich morgais neu eu cyfreithwyr, dylech gysylltu â’r Ganolfan Dewisiadau Tai cyn gynted â phosibl drwy:
- ffonio 029 2057 0750
- E-bostio datrysiadautai@caerdydd.gov.uk
Efallai y byddwn yn gallu cynnig cymorth gydag unrhyw achos llys, cyfryngu â darparwr eich morgais a chwblhau ymarfer cynyddu incwm gyda chi.
Os ydych wedi dod i ddiwedd morgais llog yn unig, yna mae’n bosibl y gallwn eich helpu. I ddechrau, rydym yn argymell eich bod yn cael cyngor cyfreithiol annibynnol ar gyfer hyn. Fodd bynnag, gallwn weithio gyda chi a darparwr eich morgais i weld a allwn ddarparu ateb ar gyfer eich angen am dŷ.
Gallwch gael eich troi allan o lety dros dro oherwydd:
- eich bod wedi torri amod cytundeb eich trwydded,
- nid oes dyletswydd arnom mwyach i’ch helpu, neu dydych chi ddim eisiau ein cymorth mwyach, neu
- rydym wedi dod o hyd i lety arall i chi.
Os bydd unrhyw un o’r rhain yn digwydd, nid oes gennych hawl mwyach i aros mewn llety dros dro. Bydd eich cyfnod rhybudd yn amrywio yn dibynnu ar eich amgylchiadau ar adeg eich troi allan. Mewn rhai achosion, efallai na fyddwch yn cael llawer o rybudd.
Os ydych wedi eich troi allan o lety dros dro, gallwch gael cymorth a chefnogaeth gan asiantaethau annibynnol fel Shelter Cymru neu Speakeasy.
Os oes gennych gontract safonol tai cymorth, efallai y bydd angen i chi adael y llety am hyd at 24 awr os ydych:
- Yn defnyddio trais yn erbyn unrhyw berson yn yr eiddo.
- Yn gwneud rhywbeth yn y llety sy’n creu risg o niwed sylweddol i unrhyw berson.
Yn ymddwyn mewn ffordd sy’n atal preswylydd arall rhag cael y cymorth a ddarperir drwy’r llety hwnnw.
Mae’r math hwn o waharddiad ond yn berthnasol i’r contract safonol tai cymorth ac nid i unrhyw fath arall o gontract neu drwydded.
Yn dibynnu ar eich sefyllfa, efallai y bydd ein tîm Sector Rhentu Preifat yn dal i allu eich helpu i ddod o hyd i lety rhent preifat arall.
Dylech ddweud wrth staff nyrsio’r ysbyty cyn gynted â phosibl, fel eu bod yn gwybod y byddwch yn ddigartref pan fyddwch yn cael eich rhyddhau. Mae gennym staff arbenigol sydd yn gallu eich helpu. Byddant yn asesu eich sefyllfa a gallant wneud cais digartrefedd.
Os oes cartref gennych eisoes ond bod angen iddo gael ei addasu, gall yr ysbyty eich atgyfeirio at ein tîm Gwasanaethau Byw’n Annibynnol. Am fwy o wybodaeth am hyn, cysylltwch ag 029 2184 5050.
Efallai y gallwch gael cymorth ychwanegol os byddwch yn ddigartref.
Byddwn yn gallu eich helpu os ydych yn gwasanaethu ar hyn o bryd, yn gyn-aelod o’r lluoedd arfog ac o dan fygythiad o ddigartrefedd neu’n ddigartref nawr.
Mae’n rhaid i ni ystyried a allwn eich helpu drwy ddefnyddio’r ddwy reol gyffredinol sy’n berthnasol i bawb, a rheolau arbennig sy’n berthnasol i bobl sydd wedi bod neu yn y lluoedd.
Cysylltwch â ni ar 029 2087 1071 neu 07980953539 neu e-bostiwch cyngorigynfilwyr@caerdydd.gov.uk
Rheolau digartrefedd ychwanegol i’r lluoedd arfog
Dylech hefyd gael eich trin fel rhywun sy’n agored i niwed ac felly ag angen â blaenoriaeth am lety os gallwch ddangos bod eich sefyllfa fregus yn deillio o fod yn gyn-aelod o’r lluoedd arfog.
Wrth benderfynu hyn, efallai y byddwn yn ystyried:
- am ba hyd y buoch yn y lluoedd a pha swydd oedd gennych,
- os treulioch chi unrhyw amser mewn ysbyty milwrol,
- os cawsoch eich rhyddhau o wasanaeth ar sail feddygol (a bod ffurflen ryddhau hanes meddygol gennych)
- os bu llety gennych ers gadael y lluoedd ac os llwyddoch i sicrhau neu gynnal llety ers gadael, a
- faint o amser sydd ers i chi adael y lluoedd.
Er mwyn cefnogi eich achos, mae’n bosibl y bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth feddygol gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, gan gynnwys ffurflen ryddhau hanes meddygol (os rhoddwyd un i chi).
Gallwch gael mwy o wybodaeth neu gysylltu â’n Tîm Cynghori Cyn-filwyr ar 029 2087 1071 neu e-bostiwch cyngorigynfilwyr@caerdydd.gov.uk.
Os ydych wedi derbyn rhybudd i ymadael gan eich llety NASS (Gwasanaeth Cynnal Cenedlaethol i Geiswyr Lloches) yng Nghaerdydd a’ch bod wedi cael caniatâd i aros, cysylltwch â’r Ganolfan Dewisiadau Tai cyn gynted â phosibl.
Dylech aros yn eich llety presennol tra’n bod yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i lety yn y sector rhent preifat.
Gallwch gysylltu â’n Gwasanaeth Dewisiadau Tai drwy:
- ffonio 029 2057 0750, neu
- e-bostio CanolfanDewisiadauTai@caerdydd.gov.uk.
Gallwch hefyd ddod i’n gweld ni yn Hyb y Llyfrgell Ganolog.
Dewisiadau Tai
Ail Lawr Hyb y Llyfrgell Ganolog
Yr Ais
Caerdydd
CF10 1FL