homeless boy holding a cardboard house

Rydym yn gwybod bod bod yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref yn frawychus ac yn straen mawr. Rydym yma i wrando arnoch chi, rhoi cyngor i chi, a’ch helpu chi i ddod o hyd i ateb hirdymor.

Os ydych yn ddigartref neu mewn perygl o golli eich llety, cysylltwch â ni ar unwaith drwy ffonio 029 2057 0750 neu e-bostio housing.solutions@caerdydd.gov.uk. Gallwch hefyd siarad â rhywun yn eich Hyb lleol.

Os ydych yn gymwys, byddwn yn rhoi apwyntiad i chi i weithio allan sut y gallwn eich cefnogi. Wrth aros am eich apwyntiad, peidiwch â rhoi’r gorau i’ch tenantiaeth. Dylech hefyd barhau i dalu eich rhent.

Byddwn yn gweithio gyda chi i’ch cadw yn eich cartref, cyhyd â bod hwn yn opsiwn diogel.

Os ydych yn rhentu, mae gennych hawl gyfreithiol i aros yn eich cartref hyd nes y bydd Gwarant Beili Llys yn gofyn i chi adael. Rydym yn deall y gall hyn fod yn straen ac yn frawychus, ond bydd eich Swyddog Atal yn eich cefnogi a’ch cynghori drwy hyn.

P’un ag ydych yn rhentu’n breifat neu drwy landlord cymunedol, byddwn yn gweithio gyda chi i sicrhau bod y ddau ohonoch yn deall y broses.

Os na fydd cyfathrebu rhyngom ni a’ch landlord yn llwyddiannus, byddwn yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i lety arall. Gall hyn fod yn y sector preifat neu yn y sector cymdeithasol.

Os ydych yn berchen-feddiannwr sy’n cael trafferth gyda thaliadau morgais, byddwn yn gweithio gyda chi i sicrhau eich bod yn deall y broses a gallwn fynychu’r llys gyda chi hefyd os oes angen.

Beth i’w ddisgwyl yn eich apwyntiad

Byddwn yn gweithio gyda chi i greu eich cynllun tai personol eich hun. Bydd hyn yn cynnwys gweithredoedd cam wrth gam i helpu i ddatrys eich sefyllfa dai.

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y byddwn yn gallu cefnogi gydag:

  • ôl-ddyledion rhent,
  • ôl-ddyledion morgais,
  • rheoli dyledion,
  • rheoli budd-daliadau a thaliadau allan,
  • cysylltiadau teuluol neu landlord i’ch helpu i’ch cadw yn eich cartref, a
  • mynediad i lety rhent preifat. Mae hyn yn cynnwys cymorth ariannol gyda blaendal a’r rhent ymlaen llaw (lle bo hynny’n gymwys), siarad â landlordiaid ac asiantau ar eich rhan, a Gweithdai Dod o Hyd i Gartref.

Hefyd yn yr adran hon