
Gallwn roi cyngor a chymorth am ddim i chi os ydych yn poeni am syrthio ar ei hôl hi ar eich taliadau morgais neu os oes gennych ôl-ddyledion morgais.
Cysylltwch â ni:
- os yw eich amgylchiadau wedi newid ac rydych mewn perygl o syrthio ar ei hôl hi ar eich taliadau morgais.
- os oes gennych ôl-ddyledion morgais yr ydych yn ei chael hi’n anodd eu had-dalu,
- os rydych chi am wneud trefniant fforddiadwy gyda’ch benthyciwr,
- os yw eich cyfnod morgais wedi dod i ben,
- os yw eich benthyciwr wedi gwneud cais am orchymyn adennill meddiant drwy’r llysoedd, neu’n bygwth gwneud cais,
- os oes gennych wrandawiad gorchymyn adennill meddiant wedi’i restru gyda’r llys, neu
- os oes gennych warant troi allan.
Cysylltu â ni
Ffoniwch 029 2057 0750 neu e-bostiwch datrysiadautai@caerdydd.gov.uk.