
Gall y Tîm Cyngor Ariannol eich helpu i reoli eich arian a chyllidebu’n fwy effeithiol.
Gallan nhw wirio i weld ydych chi’n gymwys i gael tariffau is, grantiau a gostyngiadau ar eich biliau nwy, trydan a band-eang, a chostau dŵr.
Rhagor o wybodaeth am y grantiau a chynlluniau sydd ar gael i helpu gyda’ch biliau a awgrymiadau arbed ynni i gadw’ch cartref yn gynnes..
Mesuryddion Rhagdalu
Os oes gennych Fesurydd Rhagdalu ac heb arian i’w ychwanegu ato, efallai y gall y Tîm Cyngor Ariannol roi taleb frys i chi.
Ewch i weld y tîm yn eich hyb lleol neu ffoniwch y Llinell Gyngor 029 2087 1071.