Rydym yn rhoi cymorth personol i deuluoedd ac unigolion i’ch helpu i oresgyn problemau, cynnal eich tenantiaeth, a byw yn annibynnol.

Mae gan y Gwasanaethau Tenantiaeth dîm mewnol pwrpasol a all eich helpu os ydych chi’n cael trafferth rheoli eich tenantiaeth Cyngor Caerdydd.  Mae’r cymorth yn cael ei ganolbwyntio ar y person ac wedi’i deilwra i ddiwallu anghenion unigol. Cynhelir pob sesiwn gymorth yn y cartref a gallant gynnwys cymorth ymarferol i fynd i’r afael â chyflwr yr eiddo, helpu i ddidoli a gwaredu eitemau diangen, helpu i drefnu atgyweiriadau, helpu i fynd i’r afael â phroblemau ariannol, a helpu i gael mynediad at wasanaethau cymorth tymor byr neu hirdymor priodol lle bo angen.

Cysylltwch â Rheoli Tenantiaeth os ydych yn meddwl bod angen unrhyw gymorth ychwanegol arnoch gyda’ch tenantiaeth. Mae’r gwasanaeth hwn dim ond ar gael trwy eich Swyddog Tenantiaeth neu’ch Swyddog Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.

Mae’r Tîm Gweithredu Lleol yn gweithio gyda thrigolion ledled Caerdydd i wella cymdogaethau a’u hannog i ymfalchïo yn eu cymdogaeth.  Is-bennawd y tîm yw “cydweithio i lanhau” gan adlewyrchu natur gymunedol a chydlynol y gwasanaeth.

Mae’r Tîm Gweithredu Lleol yn gweithio gyda’r gymuned i:

  • Helpu trigolion i gael gwared â sbwriel a gwastraff o’u gerddi
  • Helpu trigolion i dorri a chael gwared â gordyfiant
  • Hyrwyddo dim taflu sbwriel a sesiynau casglu sbwriel
  • Gweithio ochr yn ochr â sefydliadau lleol yn yr ardaloedd i gefnogi trigolion
  • Rhoi cymorth cynaliadwy i drigolion sy’n agored i niwed yn yr hirdymor
  • Cyfeirio trigolion at wasanaethau eraill lle bo angen

Mae’r Cydlynwyr Ystadau yn cefnogi’r gymuned drwy greu mwy na dim ond ystadau glanach a mwy taclus, ond i gynnwys trigolion yn y broses gan eu gwneud yn falch o’u cymdogaeth drwy:

  • Annog gweithio gydag adrannau mewnol a sefydliadau allanol, gwirfoddolwyr, Carwch Eich Cartref a sefydliadau trydydd sector eraill
  • Cefnogi ‘Hyrwyddwyr Stryd’ fel rhan o grwpiau gwirfoddoli lleol a chyfeirio trigolion sydd am wirfoddoli yn eu hardal leol.
  • Cydweithio â thrigolion i gynnal digwyddiadau gweithredu cymunedol i’w hannog i ymfalchïo yn eu hardal
  • Gweithio gyda chlybiau gardd presennol neu gefnogi’r broses o greu rhai newydd. Helpu trigolion i ennill y sgiliau i’w helpu i gynnal eu gerddi
  • Gweithio gydag ysgolion i gael sylw’r genhedlaeth iau fel y bydd plant o oedran ifanc yn dysgu sut i ymfalchïo yn eu cymuned ac eisiau ailgylchu.
  • Parhau i weithio’n agos gyda Rheoli Gwastraff i ddatblygu mentrau ar y cyd i hyrwyddo ailgylchu gyda’r gymuned

I gael mwy o wybodaeth e-bostiwch tîmlleol@caerdydd.gov.uk neu ffoniwch 029 2087 2787.

Y Tîm Cyswllt Lles yw tîm dynodedig i ddeiliaid contract Cyngor Caerdydd (tenantiaid) i helpu gyda chyllid a chyllidebu. Mae’r swyddogion yn darparu Gwasanaeth Cyngor Ariannol holistig i helpu i greu cynlluniau fforddiadwy i ad-dalu rhent a biliau eraill y cartref.

Gall Swyddogion Cyswllt Lles gynnig:

  • Apwyntiadau yn y cartref, mewn Hyb neu dros y ffôn. Cysylltwch â’r Llinell Gyngor ar 029 2087 1071.
  • Help i wneud cais am grantiau, gostyngiadau a budd-daliadau.

Help gydag ôl-ddyledion rhent.

  • Cyngor ar y cap budd-daliadau a’r cynlluniau sydd ar gael i ddeiliaid contract i’w helpu yn ôl i’r gwaith.
  • Cyngor ar gyllidebu a dyledion sylfaenol gan ddefnyddio’r ‘Datganiad Ariannol Safonol’.
  • Cymorth digidol a chyllidebu i helpu deiliaid contract gyda Chredyd Cynhwysol.
  • Asesiadau incwm a thaliadau i roi trefniadau fforddiadwy ar waith ar gyfer ad-dalu rhent, biliau a dyledion.

Mae croeso i chi gysylltu â ni os hoffech chi gael cymorth.

Ffôn: 029 2087 1071

E-bost: cyswlltlles@caerdydd.gov.uk

Mae’n bwysig fel deiliaid contract (tenantiaid) y gallwch gynnal eich llety a byw’n annibynnol. Rydym yn darparu gwasanaethau cymorth personol i deuluoedd ac unigolion i’w helpu i ddelio â phroblemau.

Gallai’r problemau hyn gynnwys:

  • datrys dyledion ac ôl-ddyledion,
  • bygythiad neu risg o golli tenantiaeth,
  • dechrau contract meddiannaeth newydd,
  • cyllidebu,
  • bod yn agored i niwed,
  • gallu i ymdopi â materion tenantiaeth,
  • magu hyder,
  • iechyd a diogelwch cyffredinol yn y cartref,
  • cysylltu â chyfleustodau, neu
  • gael cymorth gan asiantaethau eraill.

Ydw i’n gymwys?

I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun, rhaid i chi:

  • fod yn 16 oed neu’n hŷn,
  • bod yn byw yng Nghaerdydd, a
  • naill ai mewn perygl o fod yn ddigartref neu golli’ch llety, neu ar fin dechrau contract meddiannaeth newydd (tenantiaeth).

I gael mynediad i’r gwasanaeth, rhaid i chi fod yn agored i niwed ac yn wynebu rhwystr penodol sy’n eich atal rhag cael mynediad at wasanaethau cyngor a chymorth yn yr Hyb. Er enghraifft:

  • Trais domestig,
  • Camddefnyddio alcohol neu gyffuriau,
  • Teulu un rhiant,
  • Anhawster neu anabledd dysgu,
  • Salwch cronig, neu
  • Berson ifanc sy’n gadael gofal.

Pwy all atgyfeirio?

Os oes angen cymorth arnoch, mae angen i chi gael eich atgyfeirio gan:

  • weithiwr cymdeithasol,
  • swyddog tai,
  • gweithiwr iechyd proffesiynol, neu
  • swyddog Hyb.

Ni allwn dderbyn hunan-atgyfeiriadau.

Rhaid i chi hefyd fod yn ymwybodol o’r atgyfeiriad a’r cais am gymorth sy’n cael eu gwneud ar eich rhan. Rhaid i chi roi eich caniatâd a bod yn barod i dderbyn y cymorth.

Sut mae’r cynllun yn gweithio?

Rhaid i’r atgyfeiriwr lenwi ffurflen atgyfeirio gan roi manylion llawn eich anghenion. Os ydych yn bodloni’r meini prawf, bydd sefydliad partner yn cynnal asesiad.

Os gallwn helpu, caiff gweithiwr cymorth ei benodi i’ch cefnogi a mynd i’r afael â’ch anghenion.

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â ni.

Ffôn: 029 2053 7342

E-bost: timcymorthynolyrangen@caerdydd.gov.uk

Gallwch hefyd fynd i unrhyw Hyb.

 

POBL Logo
United Welsh housing association
Salvation Army Logo

Hefyd yn yr adran hon