Expert plumber working on a bathroom sink drain, he is using water pump pliers and fixing a pipe

Dysgwch sut rydym yn rheoli gwahanol fathau o atgyweiriadau..

Safon Atgyweirio

Y Safon Atgyweirio hon yw’r canllaw ar sut rydym yn cyflawni, a’r hyn rydym yn ei gyflawni, o ran gwaith atgyweirio a chynnal a chadw cartrefi cyngor. Mae’n nodi’n glir y gwasanaethau a’r safonau y gall ein cwsmeriaid eu disgwyl gan Gyngor Caerdydd.

Byddwn yn darparu gwasanaeth atgyweirio sy’n:

  •  Bodloni safonau uchel.
  •  Sicrhau eich bod yn ddiogel yn eich cartref.
  •  Cost-effeithiol ac o fewn y gyllideb.
  •  Diogelu dyfodol eich cartref.
  •  Cefnogi ein cwsmeriaid, yn enwedig y rhai sy’n agored i niwed.
  • Er mwyn i’n gwasanaeth gyflawni’r amcanion hyn, byddwn yn:
  •  Trefnu apwyntiadau i wneud gwaith ar amser sy’n addas i chi.
  •  Cyflawni gwaith atgyweirio mewn un ymweliad lle bynnag y bo modd.
  •  Cyflawni gwaith i safon uchel.
  •  Gwrando ar adborth am faterion atgyweirio.
  •  Ymgynghori â chwsmeriaid am ein gwasanaeth.

Mathau o waith atgyweirio

Efallai y bydd angen i chi roi gwybod am broblemau gyda:

  • Goleuadau a thrydan.
  • Dŵr, boeler a gwresogi.
  • Ffenestri a drysau.
  • Cloeon, ffenestri a ffitiadau.
  • Waliau, lloriau a nenfydau.
  • Toiledau, sinciau a phlymio.
  • Unedau cegin a sinciau cegin.
  • Lleithder, llwydni, a chyddwysiad.
  • Gwteri a thoeau.
  • Gatiau, llwybrau a garejys.

Rhoi gwybod bod angen gwaith atgyweirio

Gallwch roi gwybod bod angen gwaith atgyweirio drwy gysylltu â Cysylltu â Chaerdydd (C2C)

Ar-lein Ffurflen rhoi gwybod bod angen gwaith atgyweirio

Dros y ffôn: 029 2087 2088

Ar ôl i chi roi gwybod bod angen gwaith atgyweirio, dylech gadw nodyn o’ch cyfeirnod atgyweirio ac amser eich apwyntiad. Anfonir cadarnhad a negeseuon atgoffa drwy neges destun os yw rhif ffôn symudol wedi’i roi.

Bydd apwyntiadau’n cael eu trefnu rhwng dydd Llun a dydd Gwener yn ystod un o’r 4 slot amser canlynol:

  • 8:30am i 12:30pm
  • 10am i 2pm
  • 12:30pm i 4pm (12:30pm i 3:30pm ar ddydd Gwener)
  • 8:30pm i 4pm (ar gyfer gwaith yr amcangyfrifir y bydd yn cymryd dros 4 awr)

Ar ôl i gais am waith atgyweirio gael ei wneud, bydd yn cael ei flaenoriaethu. Mae 3 phrif flaenoriaeth:

  • Argyfwng – yn cael sylw ar yr un diwrnod (ein nod yw mynd i’r eiddo o fewn 2 awr).
  • Brys – yn cael sylw o fewn 15 diwrnod gwaith.
  • Arferol – yn cael sylw o fewn 45 diwrnod gwaith.

Nid yw rhai mathau o waith atgyweirio yn rhan o’r categorïau hyn ac efallai y bydd cyfnod hwy o 6 mis yn cael ei ddyrannu gan na fyddent yn effeithio’n andwyol ar ddeiliad y contract na’r eiddo. Mae enghreifftiau’n cynnwys y canlynol:

  • Ffensio
  • Gwaith gardd mawr
  • Uwchraddio boeler

Gallwch newid neu ganslo gwaith atgyweirio drwy e-bost neu gwe-sgwrs. Argymhellir o leiaf 24 awr o rybudd os gwelwch yn dda.

Bydd angen i chi roi eich cyfeiriad, rhif y gwaith a chymaint o rybudd â phosibl os na allwch gadw eich apwyntiad.

Os yw’r gwaith yn cynnwys symud dodrefn neu godi carpedi neu orchuddion llawr eraill, dylech fod yn ymwybodol mai eich cyfrifoldeb chi yw hyn, a dylech wneud hyn cyn i’r Gweithiwr gyrraedd. Mae hefyd yn syniad da symud unrhyw eiddo personol i ffwrdd o’r gweithle, yn enwedig os ydynt yn fregus.

Os oes gennych blant ifanc neu anifeiliaid anwes, gwnewch yn siŵr eu bod yn cael eu cadw’n ddiogel i ffwrdd o offer a’r ardal waith tra bo’r Gweithiwr yn gweithio yn eich cartref.

Bydd angen i chi sicrhau eich bod yn eich eiddo i roi mynediad i’r Gweithiwr yn ystod y cyfnod amser rydych wedi’i ddewis.

Gwneir pob ymdrech i gwblhau’r gwaith atgyweirio yn ystod yr apwyntiad. Fodd bynnag, mewn rhai achosion gellir cynnal archwiliad i sicrhau bod gennym y deunyddiau, y mesuriadau a’r offer cywir i gwblhau’r gwaith.

Os na ellir cwblhau’r gwaith atgyweirio yn ystod yr apwyntiad cyntaf, bydd y Tîm Amserlennu yn cysylltu â chi i drefnu dyddiad i wneud y gwaith.

Yn ystod yr apwyntiad, dylai’r Gweithiwr:

  • Sicrhau bod yr ardal y mae’n gweithio ynddi yn glir.
  • Gwisgo gorchuddion esgidiau (efallai na fydd hyn yn ymarferol ar loriau teils, pren neu laminedig).
  • Defnyddio gorchuddion llwch.
  • Gweithio mewn ffordd daclus.
  • Symud sbwriel a gwastraff o’r eiddo pan fydd wedi cwblhau’r gwaith, a threfnu iddynt gael eu casglu cyn gynted â phosibl.

Yr hyn rydyn ni’n ei wneud

Darganfyddwch sut rydym yn rheoli mathau gwahanol o atgyweiriadau.

Ein nod yw mynd i’r afael â phob cais am waith atgyweirio sy’n argyfwng o fewn 2 awr. Mae gwaith atgyweirio sy’n argyfwng yn cynnwys:

  • Toiledau wedi’u blocio neu na ellir eu fflysio. (Fel mesur dros dro gellir fflysio pob toiled sy’n gweithio trwy ddefnyddio bwced o ddŵr).
  • Difrod damweiniol, storm, neu lifogydd difrifol.
  • Diffygion trydanol difrifol gan gynnwys colli pŵer yn llwyr (Rhaid i fesuryddion fod mewn credyd).
  • Problemau gyda’r cyflenwad dŵr (Rhaid i fesuryddion fod mewn credyd. Cysylltwch â’r darparwr yn gyntaf).
  • Llawer o ddŵr yn gollwng.
  • Larwm mwg yn canu’n gyson.
  • Eiddo na ellir ei ddiogelu (ffenestri a drysau lefel isel anniogel).
  • Cael mynediad i eiddo lle mae deiliad contract wedi’i gloi allan yn ddamweiniol. (Gellir codi tâl yn yr achos hwn).
  • Difrod i adeiledd eiddo.

Os gwneir cais am waith atgyweirio sy’n argyfwng tua diwedd y diwrnod gwaith, gellir ei drosglwyddo i’r Tîm Tu Allan i Oriau neu roi sylw iddo y bore canlynol, yn dibynnu ar natur y gwaith atgyweirio.

Mae’r gwasanaeth tu allan i oriau ar gael ar gyfer gwaith atgyweirio sy’n argyfwng yn unig. Mae hyn yn rhedeg rhwng 4pm a 8am yn ystod yr wythnos a 24 awr y dydd ar benwythnosau a gwyliau banc. Ar gyfer gwaith atgyweirio y gwneir cais amdano y tu allan i oriau gwaith arferol, byddwn yn ceisio cywiro’r mater yn llawn, ond efallai y bydd angen gwneud y broblem yn ddiogel tra’n disgwyl iddi gael ei hatgyweirio’n llawn.

Os oes problem lleithder neu gyddwysiad yn eich cartref, byddwn yn cynnal archwiliad i ddod o hyd i’r achos ac yn cynnig cyngor ar sut i’w leddfu.

Bydd archwiliadau lleithder yn cael eu cynnal gan Reolwyr /Swyddogion Technegol. Bydd unrhyw waith adfer yn cael ei gwblhau gan Weithwyr.

Rydym yn annog defnyddio ffaniau echdynnu yn y gegin a’r ystafell ymolchi i gael gwared â lleithder gormodol yn yr awyr. Bydd ffaniau yn cael eu gosod os nad ydynt yn bresennol.

Nid yw tai allan yn fannau y gellir byw ynddynt ac ni ddylid eu defnyddio felly.

Ni fydd unrhyw waith yn cael ei wneud i inswleiddio tai allan na’u gwneud yn fannau y gellir byw ynddynt.

Bydd gwaith arbenigol yn cael ei anfon yn uniongyrchol i gontractwr allanol i’w gwblhau, gan gynnwys:

  • Systemau mynediad drws.
  • Erialau teledu ar flociau o fflatiau.
  • Profi a chael gwared ag asbestos

Os ydych yn amau y gallai fod problemau adeileddol, byddwn yn cynnal archwiliad cychwynnol o’r eiddo. Os amheuir problemau adeileddol, trefnir arolwg adeileddol llawn i nodi’r gwaith sydd ei angen i unioni’r broblem.

Bydd unrhyw fân waith adeileddol yn cael ei gwblhau gan yr Uned Cynnal a Chadw Ymatebol.

Bydd gwaith adeileddol mawr yn cael ei gwblhau gan yr Uned Gwella Adeiladau.

Bydd unrhyw ddiffygion adeileddol sy’n beryglus yn cael eu hasesu ar frys a gwneir yr ardal yn ddiogel yn y lle cyntaf.

Bydd gwaith diogelwch tân yn cael ei wneud gan Weithwyr hyfforddedig.

Bydd y Tîm Cydymffurfiaeth yn cwblhau pob Asesiad Risg Tân.

Bydd gwaith Diogelwch Tân yn cael ei wneud fel yr amlinellir yn yr asesiadau risg tân gan ddefnyddio deunyddiau a phrosesau cymeradwy.

Bydd y Tîm Cydymffurfiaeth yn cwblhau arolygon ymwthiol i eiddo gwag mewn blociau fflatiau uchel a chynlluniau gwarchod. Bydd y gwaith a nodir yn yr arolygon yn cael ei gwblhau fel cynllun cydlynol.

Bydd Adroddiadau Cyflwr Gosodiadau Trydanol yn cael eu cwblhau bob 5 mlynedd neu’n gynt os nodir hynny. Byddwch yn derbyn copi o’r dystysgrif.

Bydd socedi ychwanegol ond yn cael eu darparu os oes problem Iechyd a Diogelwch.

Bydd ffitiadau trydanol sydd wedi torri yn cael eu disodli ond codir tâl am unrhyw waith atgyweirio sydd ei angen oherwydd difrod a achoswyd gennych.

Bydd yr holl waith yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth bresennol.

Mae Arolygon Asbestos yn cael eu cynnal gan syrfewyr arbenigol.

Bydd unrhyw ddeunyddiau sy’n cynnwys asbestos a nodir wrth wneud gwaith atgyweirio yn cael eu hasesu a dim ond os ydynt wedi’u difrodi neu wedi dirywio y cânt eu symud.

Os yw asbestos wedi’i ddifrodi neu os oes angen ei symud, bydd contractwr trwyddedig yn cael ei ddefnyddio.

Bydd unedau cegin yn cael eu hatgyweirio os nad ydynt yn ddiogel neu os ydynt wedi’u difrodi oherwydd traul. Ni fydd gwaith atgyweirio yn cael ei wneud am resymau cosmetig.

Bydd eitemau unigol newydd yr un lliw (os yn bosibl) neu’r lliw/arlliw agosaf.

Bydd unrhyw geginau sydd heb eu huwchraddio yn cael eu trosglwyddo i’r Uned Gwella Adeiladau i’w cynnwys ar ei rhestr uwchraddio.

Ni fydd unedau cegin ychwanegol yn cael eu darparu.

Mae mannau cwcer o lled safonol fel y nodir yn Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC). Ni fydd bylchau’n cael eu hehangu er mwyn gwneud lle i beiriannau mwy o faint.

Bydd ffaniau echdynnu yn cael eu gosod lle nad ydynt eisoes wedi’u gosod.

Bydd lloriau gwrth-lithro yn cael eu defnyddio lle bo angen disodli llawr presennol.

Bydd teils newydd o’r lliw/arlliw agosaf. Dim ond teils yr effeithir arnynt fydd yn cael eu disodli. Ni fydd teils o’r un lliw yn cael eu rhoi os ydynt wedi’u cuddio e.e., o dan beiriannau.

Codir tâl arnoch am waith atgyweirio sydd ei angen o ganlyniad i ddifrod a achoswyd gennych chi.

Bydd unedau ystafell ymolchi yn cael eu hatgyweirio os nad ydynt yn ddiogel neu os ydynt wedi’u difrodi oherwydd traul. Ni fydd gwaith atgyweirio yn cael ei wneud am resymau cosmetig.

Bydd tolciau i enamel bath yn cael eu hatgyweirio.

Bydd unrhyw ystafelloedd ymolchi sydd heb eu huwchraddio yn cael eu trosglwyddo i’r Uned Gwella Adeiladau i’w cynnwys ar ei rhestr uwchraddio.

Ni fydd cawodydd wedi’u haddasu yn cael eu disodli gan fath.

Bydd ceisiadau i ddisodli baths gyda chawodydd cerdded i mewn yn cael eu cyfeirio at Therapydd Galwedigaethol i’w hasesu.

Bydd lloriau gwrth-lithro yn cael eu defnyddio lle bo angen disodli llawr presennol.

Bydd lloriau sydd wedi’u difrodi’n sylweddol yn cael eu disodli gan loriau dalen.

Codir tâl arnoch am waith atgyweirio sydd ei angen o ganlyniad i ddifrod a achoswyd gennych chi.

Bydd gwaith atgyweirio a chynnal a chadw offer neu addasiadau arbenigol yn cael ei gyfeirio i’r Gwasanaethau Cyfleusterau i’r Anabl.

Bydd offer anarbenigol yn cael ei atgyweirio yn ôl yr angen gan yr Uned Cynnal a Chadw Ymatebol.

Os darganfyddir difrod i’r wal wrth ailaddurno, chi sy’n gyfrifol am gael gwared â’r papur wal o’r ardal yr effeithir arni cyn i archwiliad gael ei gynnal.

Bydd unrhyw rendrad/plastr sydd wedi torri neu graciau mawr yn cael eu hatgyweirio mewn rhannau yn ôl yr angen. Ni fydd waliau cyfan yn cael eu sgimio ar eich cais.

Chi sy’n gyfrifol am atgyweirio unrhyw graciau neu dyllau bach cyn ailaddurno.

Bydd waliau o safon sy’n addas ar gyfer gosod papur wal. Ni fyddant yn cael eu hatgyweirio i safon sy’n golygu bod modd eu paentio.

Bydd ardaloedd o ddifrod a achoswyd gan broblemau eiddo (e.e. difrod dŵr oherwydd gollyngiad o eiddo cyfagos) yn cael eu hatgyweirio. Gwneir ymdrech i wneud yn siŵr bod hyn yn edrych fel yr addurno presennol cymaint â phosibl. Ym mhob achos arall, eich cyfrifoldeb chi yw addurno.

Bydd lloriau yn y gegin a’r ystafell ymolchi yn cael eu hadnewyddu os ydynt wedi’u difrodi oherwydd traul neu lle mae pryder diogelwch.

Bydd lloriau mewn ceginau ac ystafelloedd ymolchi yn rhai gwrth-lithro.

Ni fydd lloriau mewn ardaloedd eraill yn cael eu hadnewyddu gan mai eich cyfrifoldeb chi yw hyn.

Ni ddylid gosod lloriau laminedig mewn fflatiau uwchben y llawr gwaelod.

Eich cyfrifoldeb chi yw symud unrhyw loriau laminedig neu garped cyn i waith gael ei wneud. Ni fydd Cyngor Caerdydd yn atebol am unrhyw ddifrod i’r lloriau.

Chi sy’n gyfrifol am yr holl addurniadau gwaith coed.

Bydd grisiau newydd yn cael eu gosod oherwydd ôl traul sydd o ganlyniad i ddefnydd arferol neu ddifrod a achoswyd gan bydredd pren.

Bydd fframiau drysau newydd yn cael eu gosod oherwydd ôl traul sydd o ganlyniad i ddefnydd arferol neu oherwydd pydredd pren.

Bydd y drysau presennol yn cael eu hailosod.

Chi sy’n gyfrifol am atgyweirio neu adnewyddu drysau mewnol yr eiddo.

Bydd ffenestri a drysau allanol yn cael eu hatgyweirio yn hytrach na’u disodli lle bo hynny’n bosibl.

Codir tâl arnoch am waith atgyweirio sydd ei angen o ganlyniad i ddifrod a achoswyd gennych chi.

Bydd boeleri nwy yn cael eu gwasanaethu yn flynyddol a bydd unrhyw waith atgyweirio gofynnol yn cael ei gwblhau bryd hynny.

Bydd boeleri/offer rheoli gwresogi yn cael eu hatgyweirio yn hytrach na’u disodli lle bo hynny’n bosibl.

Bydd Peiriannydd Nwy yn penderfynu a oes angen uwchraddio ac a yw gwneud hynny’n flaenoriaeth.

Ni fydd boeleri yn cael eu symud ar eich cais.

Ni fydd boeleri yn cael eu cyfnewid oherwydd costau rhedeg uchel os oes gennych foeler sydd â sgôr ‘A’.

Ni fydd rheiddiaduron yn cael eu hadleoli ar eich cais.

Bydd rheiddiaduron yn cael eu disodli os nad ydynt yn gweithio, os ydynt yn gollwng neu am resymau Iechyd a Diogelwch. Ni fyddant yn cael eu disodli am resymau cosmetig.

Os cewch unrhyw broblemau, gallwn roi cyngor ar reoli eich systemau gwresogi yn effeithlon.

Chi sy’n gyfrifol am gynnal a chadw eich gerddi.

Dim ond rhannau o ffensys sydd wedi’u difrodi fydd yn cael eu hatgyweirio. Bydd y rhannau hyn yr un fath â’r ffensys gwreiddiol.

Bydd yr holl ffensys yn cael eu lleoli ar y ffin rhwng eiddo.

Ni fydd ffensys newydd yn cael eu gosod lle nad oedd ffens i ddechrau.

Bydd llwybrau gerddi yn cael eu hatgyweirio mewn rhannau – dim ond rhannau sydd wedi’u difrodi fydd yn cael eu hatgyweirio.

Bydd craciau mewn llwybrau yn cael eu hatgyweirio dim ond os ydynt yn achosi perygl baglu.

Os oes angen atgyweirio patios neu ddeciau presennol, dim ond os ydynt yn achosi perygl Iechyd a Diogelwch y byddant yn cael eu hatgyweirio. Dim ond i ddatrys y perygl y bydd y gwaith atgyweirio yn cael ei wneud. Os yn fwy cost-effeithiol, efallai bydd patio neu ddeciau’n cael eu tynnu allan.

Hefyd yn yr adran hon