Person putting coins into a piggy bank

Mae’r Tîm Cyllid yn gyfrifol am y canlynol:

  • Casglu a monitro taliadau rhent tai cyngor ar gyfer deiliaid contract (tenantiaid) cyfredol, ac
  • adennill taliadau rhent sy’n ddyledus gan ddeiliaid contract (tenantiaid) cyfredol a blaenorol.

Cysylltwch â ni ar unwaith os ydych yn cael trafferth talu eich rhent. Gallwn gynnig cyngor a chymorth.

Mae eich contract meddiannaeth (tenantiaeth) yn gontract wythnosol. Mae eich rhent i’w dalu ar ddydd Llun bob wythnos neu ran o wythnos rydych yn meddiannu eich cartref.

Bydd eich rhent wythnosol yn cael ei ddangos ar eich contract meddiannaeth (tenantiaeth) pan fyddwch yn symud i mewn am y tro cyntaf. Os ydych wedi colli eich contract (tenantiaeth), gallwch:

Os nad ydych yn ddeiliad contract (tenant) newydd efallai bod eich tâl rhent wedi cynyddu ers i chi symud i mewn, felly mae’n well gwirio gyda ni bob amser os nad ydych yn siŵr faint y dylech ei dalu.

Mae sawl ffordd y gallwch dalu eich rhent.

Talu ar-lein

Gallwch ddefnyddio ein system dalu ar-lein ddiogel i dalu eich rhent.

Bydd angen eich rhif cyfrif arnoch sy’n cynnwys rhif 8 digid ac yna llythyren.

Gallwch dalu gyda’r canlynol:

Visa | Visa Electron | Maestro | Mastercard

Visa | Electron | Maestro | Mastercard

Cerdyn swipe

Gallwch ddefnyddio eich cerdyn sweipio i dalu rhent mewn unrhyw Swyddfa’r Post.

Os gwnaethoch ddewis y dull talu hwn, bydd angen i chi dalu erbyn bore Mercher er mwyn i’r taliad gyrraedd eich cyfrif rhent mewn pryd.

Gallwch hefyd ddefnyddio eich cerdyn sweipio i dalu wrth PayPoints mewn siopau a garejys. Dewch o hyd i’ch siop PayPoint leol.

Gall taliadau PayPoint gymryd hyd at bythefnos i gyrraedd eich cyfrif rhent.

Ffôn

Gallwch dalu eich rhent drwy’r system dalu awtomataidd. Ffoniwch 029 2044 5900​​.

Bydd angen eich rhif cyfrif arnoch. Gallwch dalu gyda cherdyn credyd neu ddebyd.

Os oes angen i chi drafod eich rhent cyn talu, ffoniwch 029 2053 7350.

Archeb Sefydlog

Gallwch gael ffurflen Archeb Sefydlog drwy ffonio 029 2053 7350.

Drwy’r post

Gallwch anfon sieciau at:

Tîm Cyllid Cyngor Caerdydd
Ystafell 342
Neuadd y Sir
Caerdydd
CF10 4UW

Gwnewch yn siŵr bod rhif y cyfrif rhent wedi’i ysgrifennu ar gefn y siec. Nid ydym yn derbyn arian parod.

Os nad ydych yn talu eich rhent, mae nifer o gamau y gallwn eu cymryd. Os ydych yn cael trafferth talu eich rhent, cysylltwch â ni.

  • Byddwn yn anfon llythyr atoch i esbonio’r sefyllfa a’r hyn a fydd yn digwydd nesaf.
  • Os na fyddwn yn clywed gennych nac yn derbyn unrhyw daliad, bydd swyddog cyllid yn ymweld â’ch cartref.
  • Yn yr ymweliad hwn, bydd y swyddog yn trafod eich ôl-ddyledion ac yn cynnig cyngor i chi ar hawlio Budd-dal Tai a/neu Gredyd Cynhwysol. Fel arall, bydd yn trefnu ymweliad gan ein Tîm Cyswllt Lles neu gallwch fynd i’ch Hyb lleol.
  • Os na allwch glirio eich dyled mewn un taliad, gall y swyddog drefnu i chi ad-dalu eich ôl-ddyledion mewn symiau rhesymol bob wythnos.
  • Os na fyddwch yn trefnu i ad-dalu’r ddyled a’i bod yn parhau i gynyddu, efallai y byddwn yn anfon hysbysiad cyfreithiol atoch cyn gwneud hawliad meddiant ar gyfer eich cartref. Bydd cyfle gennych i apelio yn erbyn yr hysbysiad hwn. Gofynnir i chi fynychu panel adolygu rhent i ddatgan eich achos. Os bydd yr ôl-ddyledion yn parhau ac os nad yw’r apêl yn llwyddiannus, byddwn yn gwneud cais i’r Llys Sirol am feddiant o’ch cartref.
  • Codir costau llys arnoch a chaiff y rhain eu hychwanegu at eich cyfrif rhent.
  • Bydd y barnwr yn ystyried eich achos a gall benderfynu ar unrhyw un o’r gorchmynion canlynol.

Gorchymyn Adennill Meddiant

Mae’r Gorchymyn hwn yn ein galluogi i feddiannu eich cartref pan ddaw’r gorchymyn i rym. Fel arfer, rhoddir 28 diwrnod i chi adael yr eiddo. Os ydych yn ddeiliad contract (tenant) rhagarweiniol (mae hyn fel arfer yn golygu eich bod yn 12 mis cyntaf eich contract meddiannaeth (tenantiaeth)), dyma’r unig orchymyn y gall y barnwr ei ganiatáu.

Gorchymyn Ildio Meddiant Ataliedig

Mae’r Gorchymyn hwn yn rhoi’r cyfle i chi dalu’n rheolaidd am y rhent cyfan sy’n ddyledus, yn ogystal â chyfran o’r ôl-ddyledion. Bydd y symiau i’w talu’n cael eu nodi yn y Gorchymyn. Ar yr amod bod telerau’r Gorchymyn yn cael eu cynnal, ni fyddwn yn eich troi allan o’ch eiddo am ôl-ddyledion rhent.

Gohiriedig yn Gyffredinol

Mae’r Gorchymyn hwn yn rhoi’r cyfle i chi dalu’n rheolaidd am y rhent cyfan sy’n ddyledus, yn ogystal â chyfran o’r ôl-ddyledion wedi’i phennu gan y barnwr. Bydd yr achos yn cael ei ohirio Os torrir y cytundeb, bydd yr achos yn cael ei gyfeirio at y llys i ofyn am Orchymyn Ildio Meddiant Ataliedig neu Orchymyn Ildio Meddiant.

Bydd y symiau i’w talu’n cael eu nodi yn y Gorchymyn. Ar yr amod bod telerau’r Gorchymyn yn cael eu cynnal, ni fyddwn yn eich troi allan o’ch eiddo.

If you are having difficulty paying your rent, we can help. Please contact us as soon as possible so we can discuss your options.

Tel: 029 2053 7350

Email: housingrents@cardiff.gov.uk

Staying in temporary accommodation

If you are in temporary accommodation and struggling to pay your rent or service charge, please email TArentaccounts@cardiff.gov.uk.

Os symudoch allan o eiddo heb dalu’r rhent a oedd yn ddyledus, gelwir hyn yn ôl-ddyledion blaenorol. Os oes gennych rent heb ei dalu, rhaid i chi dalu hyn yn ôl hyd yn oed os nad ydych yn byw yn yr eiddo mwyach.

Os oes gennych ôl-ddyledion rhent blaenorol, gallant effeithio ar geisiadau am dai yn y dyfodol. Rydym yn eich cynghori’n gryf i siarad â Swyddog Rheoli Dyledion cyn gynted ag y gallwch i gael gwybod am yr hyn y gallwch ei wneud i leihau a chlirio’r ddyled.

Gallwch siarad â Swyddog Rheoli Dyledion drwy ffonio 029 2053 7400 neu gallwch fynd i unrhyw Hyb neu gysylltu â’r llinell gyngor ar 029 2087 1071.

Mae’r Tîm Cyswllt Lles yn helpu deiliaid contract (tenantiaid) y Cyngor i wneud y mwyaf o incwm a chyllidebu. Rydym yn darparu gwasanaeth cyngor ariannol cyfannol ac yn gweithredu’n ddiduedd i lunio cynlluniau ad-dalu fforddiadwy ar gyfer rhent a biliau eraill y cartref. Rydym yn edrych ar y sefyllfa gyfan a heb unrhyw feirniadaeth.

Dysgwch fwy am y cymorth y gallwn ei gynnig.

Cysylltu â ni

Ffôn: 029 2053 7350

E-bost: rhentutai@caerdydd.gov.uk

Hefyd yn yr adran hon