Gallwn eich helpu i fyw’n annibynnol gartref ac i aros mewn cysylltiad â’ch cymunedau. Mae ein gwasanaethau’n cynnig amrywiaeth o wybodaeth, cyngor a chymorth defnyddiol. Mae hyn yn eich galluogi i gymryd rheolaeth dros eich bywyd, i fodloni eich nodau eich hun, ac i fagu hyder.
Enghreifftiau o gymorth
- Help gyda threfnu cyllid
- Gosod nodau syml i wella ansawdd eich bywyd
- Cymorth tai a chymorth cartref
- Cael mynediad at a chwarae rhan yn eich cymuned
- Cymorth a chyngor ynghylch atal cwympiadau
- Cymhorthion offer, gofal wedi’i alluogi gan dechnoleg, ac addasiadau i’r cartref
- Cymorth wrth adael yr ysbyty a chael mynediad at wasanaethau cymunedol
- Help gydag ail-ddysgu sgiliau byw bob dydd ar ôl salwch, gydag anabledd neu ddirywiad mewn iechyd
- Help gyda llythrennedd digidol
Dysgwch fwy am sut y gall y GBA eich helpu.
Sut i gysylltu â ni
Ffôn: 029 2023 4234
E-bost: CyswlltGwasBywAnn@caerdydd.gov.uk
Oriau agor
Dydd Llun i Ddydd Iau 8.30am – 5pm
Dydd Gwener 8.30am – 4.30pm