Mae anwedd yn cael ei achosi pan fo aer llaith yn dod i gysylltiad ag arwyneb oerach yn eich cartref.  O ganlyniad i hyn, mae diferion dŵr yn ffurfio ac yn gallu socian i mewn i bapur wal, gwaith paent neu hyd yn oed waith plastr.

Mae bob amser rhywfaint o leithder yn yr aer, hyd yn oed os na allwch ei weld.  Caiff hyn ei greu fel arfer wrth gynnal gweithgareddau bob dydd yn y cartref, gan gynnwys:

  • coginio,
  • cael bath neu gawod, a
  • sychu dillad glân.

Mae anwedd yn digwydd yn bennaf yn ystod y misoedd oerach, p’un a yw hi’n wlyb neu sych tu allan.  Mae fel arfer i’w weld nghorneli ystafelloedd, ar waliau sy’n wynebu’r gogledd ac ar neu ger ffenestri. Mae hefyd i’w weld mewn ardaloedd lle nad yw’r aer yn gallu cylchredeg cymaint, fel y tu ôl i ddodrefn, gan gynnwys cypyrddau a gwelyau, yn enwedig pan gânt eu gwthio i fyny yn erbyn waliau allanol.

Yn aml, gall anwedd arwain at dyfiant llwydni sy’n ymddangos fel dotiau bach du o’r enw ‘malltod du’.  Pan fo hyn yn ymddangos, mae’n cael ei achosi fel arfer gan anwedd, yn hytrach nag o ganlyniad i ollyngiad dŵr neu wlybaniaeth sy’n codi.

Ydych chi’n gwybod faint o leithder sy’n dueddol o gael ei gynhyrchu mewn cartref mewn un diwrnod?

  • 2 berson gartref (16 awr) : 3 pheint
  • Bath neu gawod : 2 beint
  • Sychu dillad dan do : 9 peint
  • Coginio a defnyddio tegell : 6 pheint
  • Golchi llestri : 2 beint

Sut i atal anwedd

Mae’n bwysig delio ag anwedd cyn gynted ag y byddwch chi’n sylwi arno.  Pan fydd problemau gydag anwedd yn parhau heb unrhyw ymdrechion i fynd i’r afael â’r mater, gallai’r rhain arwain at broblemau pellach ac o bosib achosi i’r eiddo fynd yn llaith.

Gyda’r cydbwysedd cywir o wresogi ac awyru, gellir osgoi anwedd.  Mae gwres yn helpu i gadw’r eiddo’n gynnes a bydd awyru yn helpu lleithder gormodol i ddianc.

Mentrau’r Cyngor i atal anwedd

Mae’r Cyngor fel landlord eisoes wedi cynnal nifer o fentrau i atal anwedd, gan gynnwys gosod:

  • Holltau awyru ym mhob ffenestr.
  • Systemau awyru Drimaster.
  • Boeleri sgôr A.
  • Systemau awyru ceginau ac ystafelloedd ymolchi.
  • Leiniau golchi awyr agored a mannau sychu dillad ar gyfer fflatiau.
  • Echdynnwyr mecanyddol.
  • Fentiau allanol ar gyfer peiriannau sychu dillad.
  • Deunydd inswleiddio atig

All of these initiatives are ways of helping you to ventilate your home more efficiently, whilst keeping your household costs at a minimum.

Mae’r holl fentrau hyn yn ffyrdd o’ch helpu i awyru eich cartref yn fwy effeithlon, gan gadw costau eich cartref mor isel â phosibl.

Fel deiliad-contract gallwch gymryd rheolaeth o anwedd yn eich cartref a gwneud newidiadau penodol a all helpu i atal anwedd.  Mae gan Gyngor Caerdydd gyfrifoldebau penodol hefyd i’ch helpu wrth ddelio â phroblemau gydag anwedd.

Rydym yn gwybod y gall gweld malltod du (llwydni) yn eich cartref fod yn ofidus ac rydym am weithio gyda chi i reoli a datrys y broblem cyn gynted â phosibl.

Gallwch gael gwared ar falltod du a lleihau’r risg y bydd yn dychwelyd, yn enwedig ar waliau wedi’u plastro neu beintio a ffenestri, drwy:

  • Sychu neu chwistrellu waliau a fframiau ffenestri gyda thriniaeth gwrth-ffwngaidd, y gellir ei brynu yn y rhan fwyaf o archfarchnadoedd a siopau DIY.
  • Gallwch hefyd ddefnyddio cannydd gwanedig i sychu arwynebau.

Peidiwch â gwneud hyn os oes gennych bapur wal neu bapur leinin ar eich waliau.

Ar ôl triniaeth, os ydych chi’n dewis ailaddurno byddai’n ddoeth defnyddio paent anwedd gwrth-lwydni.

Beth gallwch chi ei wneud i atal anwedd

Ar ôl i chi drin y mannau lle mae problem, gallwch hefyd roi cynnig ar y canlynol i leihau lleithder a llwydni o fewn eich cartref:

Mae’n bwysig defnyddio ffaniau echdynnu a pheidio â diffodd y dyfeisiau hyn wrth y switsh ynysu.

Dylid defnyddio ffaniau echdynnu bob amser wrth goginio, cael bath neu gawod ac am hanner awr wedyn i sicrhau bod aer llaith yn cael ei waredu lle mae lleithder wedi’i greu.

Mae ffaniau echdynnu’n defnyddio swm bach o egni, yn cyfateb i 3 ceiniog yr wythnos.

Mae gan ffaniau Nuaire, sy’n cael eu gosod ar hyn o bryd, dechnoleg fewnol sy’n monitro pan fo ffan echdynnu wedi’i diffodd wrth y switsh ynysu.

Dylid gwresogi pob ystafell, hyd yn oed pan nad ydynt yn cael eu defnyddio yn rheolaidd.

Peidiwch â rhoi dodrefn nac eitemau o flaen rheiddiaduron.

Ceisiwch osgoi defnyddio’r gwres ar osodiad uchel am gyfnod byr.  Bydd gwresogi eich cartref ar dymheredd is am gyfnod hirach yn cadw’ch cartref yn gynhesach ac yn costio llai.

Cofiwch gadw holltau awyru ffenestri ar agor trwy’r amser.

Agorwch ffenestri am gyfnodau byr, sy’n galluogi awyru tra’n cynnal cydbwysedd gwres.

Awyrwch eich ystafell ymolchi yn ystod ac ar ôl cael bath neu gawod.

Caewch ddrysau wrth gael bath neu gawod.

Trowch y ffan echdynnu ymlaen a gadael iddi redeg am hanner awr ar ôl i chi orffen cael bath neu gawod.

Wrth leoli dodrefn, yn ddelfrydol dylid eu gosod ar waliau mewnol h.y. waliau sydd ag ystafell ar y ddwy ochr yn hytrach na wal allanol.

Gadewch le rhwng y dodrefn a’r wal, er mwyn galluogi’r aer i gylchredeg.

Peidiwch byth â gorlenwi wardrobau a chypyrddau – mae’n cyfyngu ar swm yr aer sy’n gallu cylchredeg.

Wrth goginio a golchi’r llestri dylech:

Orchuddio sosbenni gyda chaeadau a throi’r gwres i lawr unwaith y bydd y dŵr wedi berwi bob tro.

Cau drws mewnol y gegin i atal aer gwlyb rhag cylchredeg o amgylch eich cartref.

Troi’r ffan echdynnu ymlaen a gadael iddi redeg am hanner awr ar ôl i chi orffen coginio.

Agorwch ffenestri a drysau allanol.

Dim ond peiriannau sychu dillad cyddwyso neu rhai ag awyrellau allanol y dylech eu defnyddio.

Dylech chi sychu dillad y tu allan i’ch cartref, lle bo modd.

Os oes rhaid i chi sychu dillad y tu mewn i’ch cartref, yn ddelfrydol defnyddiwch sychwr dillad. Rhowch hwn  mewn ystafell gyda ffan echdynnu, agorwch ffenestr a chau’r drws i’r ystafell honno.

Ceisiwch osgoi sychu dillad ar reiddiadur.

Defnyddiwch yr ystafell ymolchi, sydd wedi’i theilio ac sydd â ffan echdynnu, i sychu dillad.  Efallai y gallwn helpu drwy roi rac neu lein ddillad y gellir ei thynnu’n ôl i chi.

Gwlybaniaeth

Mae yna gwahanol fathau o wlybaniaeth sydd yn gallu effeithio ar eich cartref.

Gwlybaniaeth treiddiol

Dim ond ar waliau allanol y bydd y math hwn o wlybaniaeth i’w weld neu, os oes toeau, gwteri neu bibellau glaw sy’n gollwng, ar nenfydau. Mae’n ymddangos oherwydd nam y tu allan i’r cartref, megis gwaith pwyntio sydd ar goll ar waith brics, rendrad wedi cracio neu deils to coll. Mae’r diffygion hyn wedyn yn caniatáu i ddŵr basio o’r arwynebau allanol i’r rhai mewnol. Fel arfer mae gwlybaniaeth treiddiol yn ymddangos fel ‘patshyn llaith’ amlwg sy’n edrych ac yn teimlo’n llaith.

Gwlybaniaeth sy’n codi

Achosir hyn gan ddŵr yn codi o’r ddaear i’ch cartref. Bydd gwlybaniaeth sy’n codi ond yn effeithio ar isloriau ac ystafelloedd ar y llawr gwaelod. Fel arfer ni fydd yn codi mwy na 600mm uwchben lefel y ddaear ac mae fel arfer yn gadael ‘marc llanw’ yn isel ar y wal. Efallai y gwelwch chi halwynau gwyn ar yr ardaloedd sydd wedi’u heffeithio hefyd.

Plymio diffygiol

Mae gollyngiadau o bibellau dŵr a gwastraff, yn enwedig mewn ystafelloedd ymolchi a cheginau, yn gymharol gyffredin. Gallant effeithio ar waliau a nenfydau allanol a mewnol. Mae’r ardal sydd wedi’i heffeithio’n edrych ac yn teimlo’n llaith ac yn parhau’n llaith beth bynnag yw’r tywydd tu allan.

Beth fydd y Cyngor yn ei wneud os ydych chi’n amau bod gennych chi anwedd yn eich cartref?

Cyngor Caerdydd sy’n gyfrifol am gynnal adeiledd eich cartref a sicrhau bod ffitiadau ar gyfer dŵr, glanweithdra, nwy a thrydan yn ddiogel ac yn gweithio’n iawn.  Rydym yn categoreiddio pob darn o waith trwsio fel y gallwn flaenoriaethu’r gwaith y mae angen ei wneud ym mhob cartref yr ydym ni’n landlord arno.

Bydd unrhyw adroddiadau o anwedd neu wlybaniaeth yn cael eu harchwilio gan Reolwr Technegol o’r Uned Cynnal a Chadw Ymatebol, a fydd yn rhoi cyngor ac yn trefnu unrhyw waith angenrheidiol.

Byddwn yn rhoi cyngor i chi ar y pwynt cyswllt cyntaf ar sut i ddelio ag anwedd yn eich cartref a’i reoli.

Bydd y Rheolwr Technegol yn nodi a oes angen gosod ffaniau echdynnu yn eich cartref.

Rhoi Gwybod am Atgyweiriad Angenrheidiol

Os mai’r cyngor sy’n gyfrifol am waith atgyweirio ar eich cartref, rhowch wybod amdano gan ddefnyddio ein ffurflen adrodd ar-lein.

Ar gyfer gwaith atgyweirio brys, ffoniwch C2C ar 029 2087 2088.

Tlodi Tanwydd

Os ydych yn poeni am yr argyfwng costau byw a biliau ynni cynyddol ac yr hoffech siarad ag ymgynghorydd am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Llinell Gyngor ar 029 2087 1071.

Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol ar wefan y Gwasanaeth Cyngor Ariannol.

Hefyd yn yr adran hon