Dev and regen logo

Mae’r Tîm Datblygu ac Adfywio yn gweithio i wella tai, amgylcheddau lleol a chyfleusterau cymunedol.

Rydym yn darparu amrywiaeth o gynlluniau o ansawdd uchel i wella ansawdd bywyd trigolion Caerdydd.

Rydym yn cynnwys dros 50 o aelodau sydd ag ystod o arbenigedd, wedi’i adeiladu dros flynyddoedd o weithio gyda chymunedau lleol i ddarparu cartrefi o safon a gwella cymdogaethau.

  • Datblygiadau Tai – Dylunio a gweithredu rhaglen adeiladu newydd arobryn ac ar raddfa fawr.
  • Darparu 4,000 o gartrefi newydd gyda gwerth datblygu cyffredinol o £1 biliwn.
  • Y rhaglen ddatblygu fwyaf a arweinir gan Gyngor yng Nghymru.
  • Cynlluniau tai ac adfywio ar raddfa fawr sy’n dod â gwasanaethau, cyfleusterau ac adeiladau cymunedol newydd sy’n garbon isel ac yn ynni-effeithlon.
  • Hwyluso cartrefi i’w gwerthu a chartrefi newydd i brynwyr tro cyntaf, ar gael drwy ein cynllun Cartrefi Cyntaf Caerdydd.
  • Adfywio canolfannau siopa ardal a lleol – gwelliannau masnachol, tir cyhoeddus, seilwaith gwyrdd a thrafnidiaeth.
  • Adfywio Ystadau – uwchraddio’r amgylchedd o gwmpas tai a fflatiau gan gynnwys palmentydd, mannau agored, waliau ffin a mynd i’r afael â phryderon diogelwch cymunedol.
  • Cynlluniau Adfywio Cymdogaethau – cynllun a arweinir gan aelodau lleol ar gyfer mentrau adfywio ar raddfa fach mewn cymunedau lleol.
  • Sicrhau a gweinyddu cyllid Adran 106 ar gyfer cyfleusterau cymunedol presennol a newydd.
  • Cynllunio a chyflawni prosiectau cyfalaf ac uwchgynlluniau – Hybiau Cymunedol ac adeiladau newydd ar gyfer timau eraill o fewn y Cyngor ac ar gyfer partneriaid.
  • Prosiectau Partner – gweithio gyda Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro a’r Heddlu i gyflwyno prosiectau cyfalaf ar y cyd fel Hybiau Iechyd a Lles.
  • Benthyciadau Eiddo Gwag (Troi Tai’n Gartrefi) – benthyciadau di-log i helpu i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd fel llety preswyl.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i mwy am Ddatblygu ac Adfywio.