Mae gwefan Tai Caerdydd yn cynnig gwybodaeth ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys:

  • atal digartrefedd,
  • gwneud cais am dai cymdeithasol, a
  • rheoli eich contract (tenantiaeth).

Mae Cyngor Caerdydd a’r Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymdeithasau Tai) yn y ddinas yn gweithio mewn partneriaeth ac mae ganddynt restr aros gyffredin ar gyfer eu heiddo.

Ein cenhadaeth

Ein nod yw darparu llety diogel a fforddiadwy i’r rhai sydd ag anghenion tai. Un o brif flaenoriaethau i ni yw cefnogi ein cwsmeriaid mwyaf agored i niwed.

Rydym wedi ymrwymo i gynnig gwybodaeth ac adnoddau dibynadwy i’ch helpu i wneud y canlynol:

  • gwneud penderfyniadau gwybodus,
  • deall eich hawliau a’ch cyfrifoldebau, a
  • dod o hyd i’r datrysiadau tai gorau ar gyfer eich sefyllfa.

Cynllun Busnes y Cyfrif Refeniw Tai (CRT)

Mae Cyngor Caerdydd yn cofnodi incwm a gwariant tai cyngor yn y Cyfrif Refeniw Tai (CRT). O dan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, ni ellir defnyddio’r cyllid hwn at unrhyw ddiben arall.

Mae’r brif ffynhonnell incwm i’r CRT gan denantiaid ar ffurf rhenti a thaliadau gwasanaeth.    Mae incwm rhent yn ein galluogi ni i:

  • fuddsoddi mewn cynnal a gwella cartrefi a chymdogaethau presennol,
  • darparu gwasanaethau cymorth o ansawdd da i denantiaid, a
  • chyfrannu at ariannu ein Hybiau ac adeiladu cartrefi newydd.

Rydyn ni’n adolygu ac yn diweddaru ein cynllun busnes CRT bob blwyddyn. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i ni nodi ein blaenoriaethau tai cyngor allweddol ar gyfer y flwyddyn ganlynol a thu hwnt. Bydd y cynllun yn dweud wrth ein tenantiaid sut y byddwn ni’n:

  • parhau i ddatblygu gwasanaethau ar eu cyfer, a
  • chyflawni hyn gyda’r incwm a dderbyniwn gan y CRT.

Darllenwch gynllun busnes y Cyfrif Refeniw Tai.

Ar y wefan hon